Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Grŵp Coleg yn Cyhoeddi Cymhwyster Cyfwerth Safon Uwch mewn Esports

O ganlyniad i alw aruthrol, cyhoeddodd Grŵp Llandrillo Menai yn ddiweddar y bydd yn cynnig cymhwyster tebyg i Lefel A ym maes E-chwaraeon! Bydd dysgwyr yn cael eu haddysgu mewn ystafell realiti rhithwir o'r radd flaenaf werth £120,000 ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos.

Wrth i gemau fideo cystadleuol barhau i ddod yn rhan o ddiwylliant poblogaidd mae disgwyl i'r ffigwr gwylio neidio o 454 miliwn yn 2019 i 646 miliwn yn 2023, yn ôl bras-gyfrifon arbenigwyr mewnol.

Mae E-chwaraeon yn rhan o ddiwydiant byd-eang sydd werth biliynau o bunnoedd heb unrhyw rwystrau corfforol. Gallai'r cymhwyster hwn agor nifer o ddrysau o ran gyrfa ym marchnad gynyddol Prydain, yn ogystal â chyfleoedd yn niwydiannau byd-eang yn yr Unol Daleithiau, Asia ac Ewrop! Mae hyd yn oed David Beckham wedi troi at y maes fel cyd-berchennog newydd busnes E-chwaraeon!

Cefnogir cwrs E-chwaraeon y Coleg gan gymdeithas E-chwaraeon Prydain ac rydym yn rhan o Bencampwriaeth E-chwaraeon Prydain. Mae gan Grŵp Llandrillo Menai ei dîm E-chwaraeon ei hun hyn yn oed, o'r enw Dreigiau Llandrillo ac mae croeso i chi ymuno â'r tîm.

Gwnewch gais ar ein gwefan heddiw, neu cysylltwch â ni ar: generalenquiries@gllm.ac.uk Gallwch hefyd gysylltu â'r llinell cyngor ar gyrsiau ar 01492 542 338 yn achos Coleg Llandrillo, 01758 701 385 yn achos Coleg Meirion-Dwyfor, a 01248 383 333 yn achos Coleg Menai.