Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Arddangosfeydd Celf Coleg Menai yn Cael eu Dangos Ar-lein

Mae myfyrwyr Celf yng Ngholeg Menai yn arddangos eu gwaith diwedd blwyddyn yn rhithwir.

Mae'r myfyrwyr sydd yn astudio ar y Radd Sylfaen mewn Celf a Dylunio (FdA), y Radd Celf Gain BA (Anrhydedd) a'r Cwrs Sylfaen Celf, yn arddangos eu gwaith ar blatfform rhithwir.

Mae arddangosfeydd blwyddyn derfynol fel arfer yn cael eu cynnal ar safleoedd y coleg, ond oherwydd y pandemig COVID-19, ni fu hyn yn bosib am flwyddyn arall.

Dywedodd Paul Edwards, Rheolwr y Celfyddydau Creadigol yng Ngholeg Menai: "Mae'n wych fod ein myfyrwyr o hyd yn medru arddangos eu gwaith celf ardderchog. Mae'n destun siom na fedrwn gynnal ein harddangosfeydd wyneb yn wyneb arferol - ond bydd yr arddangosfeydd rhithwir yn rhoi cyfle ardderchog i'n myfyrwyr arddangos eu gwaith a'u talent."

Ychwanegodd. "Dangos yr arddangosfeydd rhithwir amrywiaeth o waith, o Gelf Gymwysedig i Gelf Gain, ac mae'n dangos ymrwymiad aruthrol y staff a'r dysgwyr yn ystod y cyfnod hwn."

I edrych ar yr Arddangosfa Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio (FdA), cliciwch yma.

I edrych ar yr Arddangosfa BA (Anrh) Celfyddyd Gain, cliciwch yma.

I edrych ar yr Arddangosfa Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio, cliciwch yma.