Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Partneriaeth Coleg Meirion-Dwyfor a’r Urdd yn mynd o nerth i nerth.

Yn ddiweddar cafodd myfyrwyr ar ein cwrs Chwaraeon (Antur Awyr Agored) Lefel 3 a Gradd Sylfaen (FDSC) Gwyddor Chwaraeon (GWEITHGAREDDAU AWYR AGORED) yn Nolgellau brofiadau newydd a heriol, dan arweinyddiaeth wych yr Urdd.

Fel rhan o’u cwrs aeth y myfyrwyr ar antur padlo ar draws y Mawddach ac i fyny un o brif fynyddoedd Cymru, Cader Idris er mwyn cwblhau eu cymhwyster.

Mae'r cwrs Chwaraeon Lefel 3 yn cyfateb i hyd at 3 Lefel A. Lle mae angen cwblhau profiad gwaith, a cheir cyfle i gyflawni amrywiaeth o gymwysterau personol a chymwysterau gan gyrff dyfarnu cenedlaethol. Mae’r cwrs Gradd Sylfaen yn arfogi ein myfyrwyr gyda’r sgiliau a'r ddealltwriaeth o'r sector Awyr Agored gofynnol ar gyfer cyflogaeth lwyddiannus.

Dywedodd Eifion Owen, Pennaeth Maes Rhaglen Busnes , TG , Lletygarwch , Chwaraeon , Gwallt a Harddwch, Addysg yn y Gymuned ac Addysg Uwch.

“Nid oes unrhyw amheuaeth bod y cyfnod diweddar, yn sgil yn pandemig, wedi bod yn anodd iawn i lawer o’n myfyrwyr. Rydym yn sicr bod ein tîm yma yn Nolgellau wedi llwyddo yn eu hymdrechion o geisio cynnig y profiadau gorau posib i’n myfyrwyr yn ystod y cyfnod hwn.”

Ychwanegodd

“Mae ein partneriaeth gyda’r Urdd wedi bod yn hanfodol bwysig yn ystod y cyfnod hwn, yn arbennig ein gallu drwy arbenigedd swyddogion yr Urdd o fedru cynnig gweithgareddau awyr agored, a hynny mewn cyfnod heriol iawn.” “Enghraifft perffaith o hyn, oedd ein gweithgareddau diweddar, pan gaofdd ein myfyrwyr y cyfle o fynd allan ar y Mawddach i badlo ac i ddringo Cader Idris, a hynny mewn modd diogel, dan arweiniad a rheolaeth Sion o’r Urdd. Mae ein diolch yn fawr i’r Urdd am greu y cyfleon hyn i ni.”

Ydych chi'n barod i wneud cais? I'ch helpu i benderfynu, bydd y Grŵp yn cynnal digwyddiad agored rhithwir drwy gydol yr haf. O ddiogelwch eich cartref, cewch ddysgu rhagor am ein dewis eang o gyrsiau, y profiad o astudio yn y coleg a'r gefnogaeth ragorol sydd ar gael. Yn ogystal, cewch wneud cais ar-lein a sicrhau eich lle ar gyfer Medi 2021.

Ond brysiwch – mae'r cyrsiau'n prysur lenwi! Ewch i'n gwefan heddiw ar gllm.ac.uk neu anfonwch neges e-bost at generalenquiries@gllm.ac.uk.