Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coleg Glynllifon ar frig gwobrau cenedlaethol y Gymdeithas Goedwigaeth Frenhinol.

Rydym yn falch o gadarnhau, bod Adran Goedwigaeth Coleg Glynllifon wedi ennill y fedal aur am ei darpariaeth addysgol ragorol ar ei chyrsiau lefel 2 a 3 Rheoli Coedwigaeth a Chefn Gwlad gan y Gymdeithas Goedwigaeth Frenhinol.

Rhoddir Gwobr Rhagoriaeth Addysg a Dysgu'r Gymdeithas yn flynyddol i gydnabod y rhai sy'n cynyddu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a sgiliau sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd, yn enwedig coedwigaeth, a'r cysylltiad rhwng coed a chynhyrchion pren.

Dywedodd panel beirniadu’r wobr -

“Mae'r ffordd y mae'r gymuned leol yn cysylltu â'r coleg i ymgysylltu myfyrwyr â'u prosiectau, a gan gyflogwyr sy'n chwilio am ddarpar weithwyr yn y dyfodol yn syth o'r coleg, yn dangos pa mor uchel eu parch ydi’r cyrsiau hyn ar draws y sectorau coedwigaeth, cadwraeth a thirwedd. Da iawn Coleg Glynliffon! ”

Dywedodd Jeff Jones, Darlithydd ar y cwrs rheoli Coedwigaeth a Chefn Gwlad yn Glynllifon,

“Mae'r Adran Goedwigaeth yn Glynllifon yn hynod falch o dderbyn y wobr hon.

"Mae gan Goleg Glynllifon ystâd wych gyda fferm weithredol o dros 110 hectar (ha) o goetir cymysg. Mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn rheoli'r coetir ac yn ennill profiad gwerthfawr o ddydd i ddydd."

“Rhoddir ystod eang o weithgareddau ymarferol i fyfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys defnyddio ein melin lif statig Mebor i brosesu pren ar yr ystâd, a ddefnyddio technoleg newydd fel offer mensuration Haglof.

“Mae gweithio gyda diwydiant yn rhan bwysig o brofiad y myfyriwr. Rydym yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth a gawn gan gwmnïau lleol i ddarparu lleoliadau profiad gwaith gwerthfawr a chaniatáu ymweliadau myfyrwyr i ddysgu am y sector coedwigaeth a chefn gwlad. "

Mwy o wybodaeth am ein cyrsiau Coedwigaeth YMA