Penodi Llysgenhad Addysg Uwch newydd i’r Coleg Cymraeg
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi llysgenhadon newydd ar gyfer 2022 i rannu ‘Sŵn y Stiwdants’ ac annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
Meinir Wyn Roberts, sy’n astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gampws Dolgellau yw’r llysgennad Addysg Uwch cyntaf o GLLM i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae’r 19 wedi’u lleoli mewn prifysgolion ledled Cymru. Eu prif rôl fel llysgenhadon fydd perswadio mwy o ddysgwyr o ysgolion a cholegau addysg bellach i ddilyn eu hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a chyflwyno’r manteision o hynny.
Byddant yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg mewn amryw o ffyrdd ar-lein, fydd yn cynnwys gwneud cyflwyniadau, creu a chyfrannu at gynnwys gwefannau cymdeithasol y Coleg, ysgrifennu blogiau a chreu podlediadau ‘Sŵn y Stiwdants’ a mynychu digwyddiadau pan yn saff i wneud hynny.
Blwyddyn gyntaf i GLlM i recriwtio llysgennad Addysg Uwch, sydd yn ychwanegol ir 5 llysgennad Addysg Bellach.
Dywedodd Meinir Wyn Roberts, myfyrwraig Iechyd a Gofal.
“Mae’r ffaith eu bod nhw wedi fy newis wedi rhoi hyder mawr i fi, i mi allu rhoi hwb i bobol eraill o bob oed a dangos nad ydi hi byth rhy hwyr i fynd nôl i addysg ag i astudio yn Gymraeg hefyd. Rwy’n gobeithio gallu dangos i bawb fod hyn yn gyfle mawr iddynt ag iddynt i fynd amdani ac astudio cyrsiau yn Gymraeg. Bydd hyn yn brofiad grêt, rwyf yn edrych ymlaen at y flwyddyn i weithio gyda’r Coleg Cymraeg fel Llysgennad!”
Gellir gwrando ar bodlediadau ‘Sŵn y Stiwdants’ ar Spotify, ble mae dysgwyr a myfyrwyr Cymraeg yn rhannu eu profiadau, boed am fywyd Prifysgol, cyrsiau neu sgyrsiau ysgafn a rhoi’r byd yn ei le! Yn ogystal mae modd dilyn eu hanturiaethau a gweld lluniau’r unigolion ar wefan y Coleg Cymraeg ac ar dudalen Instagram a Twitter ‘Dy Ddyfodol Di’ a Facebook a YouTube ‘Coleg Cymraeg’.