Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cynnal seremoni er mwyn cydnabod gwaith rhagorol yr uned Technoleg Diwydiannau'r Tir

Cafwyd seremoni ffarwelio gyda myfyrwyr o’r adran Technoleg Diwidianau’r Tir yng Nglynllifon yn ddiweddar. Cafwyd cyfle i ddiolch i’r myfyrwyr oedd wedi cwblhau’r cyrsiau Lefel 2 a Lefel 3 a hynny o dan amgylchiadau heriol iawn, yn sgil y pandemig byd-eang.

Dywedodd Esmor Wyn Hughes, Cydlynydd BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth.

“Mae dyfalbarhad y myfyrwyr yn ystod y flwyddyn a aeth heibio i’w ganmol yn fawr iawn. Mae’r cwrs BTEC hwn yn golygu llawer o waith ymarferol, yn y gweithdy, ac oherwydd cyfyngiadau cofid, tydi hynny heb fod yn bosib drwy’r holl flwyddyn. Ond er gwaethaf hynny, mae’r myfyrwyr wedi dangos dygnwch a dyfalbarhad.”

Ychwanegodd –

“Mae cynnal digwyddiad fel hwn, fel ein bod ni fel Coleg yn gallu dangos ein gwerthfawrogiad i’r myfyrwyr yn bwysig iawn i ni fel adran. Derbyniodd pob un o’r myfyrwyr dystysgrif, a derbyniodd rhai cydnabyddiaeth ychwanegol, oherwydd eu gwaith arbennig yn ystod y flwyddyn academaidd a aeth heibio.”

Cafwyd cystadlaethau ar y diwrnod hefyd oedd yn cynnwys gyrru tractor, gyrru Telescopic handler a defnyddio’r Simulator weldio.

Enillwyr y cystadlaethau hyn oedd -

Lefel 2 Peirianneg Diwydiannau'r Tir - Iolo Jones Evans

Lefel 3 Peirianneg Diwydiannau'r Tir (Blwyddyn 1) - Tomos Price

Lefel 3 Peirianneg Diwydiannau'r Tir (Blwyddyn 2) - Bedwyr Tomos Davies

Dyfarnwyd gwobrau i’r unigolion canlynol am waith ac ymdrech arbennig yn ystod y flwyddyn academaidd

Lefel 2

Myfyrwyr yn dangos datblygiad gorau - Sion Parker

Myfyriwr y flwyddyn - Iolo Jones Evans

Lefel 3

Datblygiad Gorau - Gwilym Welsh

Myfyriwr Ymarferol gorau - Guto Brady

Myfyriwr wedi dangos yr ymroddiad gorau tuag at y cwrs - Osian Robert Huw Jones.

Myfyriwr y flwyddyn- Bedwyr Tomos Davies

Diolch i’r cwmniau canlynol am noddi’r achlysur.

GNH Agri
, Emyr Evans and company, Eifion Hughes.