Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tiwtor o Goleg Llandrillo a Enillodd Wobr BAFTA yn cael ei Benodi'n Un o Gyfarwyddwyr Esports Wales

Mae tiwtor Datblygu Gemau yng Ngholeg Llandrillo, a enillodd 'Wobr Academaidd Addysg Bellach' eleni am ei waith arloesol ym maes cyfrifiadura a datblygu gemau, wedi cael ei benodi'n un o gyfarwyddwyr anweithredol Esports Wales, y corff cenedlaethol ar gyfer e-chwaraeon yng Nghymru.

Mae creadigaethau Rob Griffiths, sy’n ddarlithydd ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos ers 2017, wedi gwerthu yn eu miliynau. Erbyn hyn ef sy'n arwain yr adran ac mae'n defnyddio ei gysylltiadau â'r diwydiant er budd ei fyfyrwyr ac i sicrhau eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial.

Safodd ei arholiadau Lefel A yn Ysgol y Creuddyn ym Mae Penrhyn cyn mynd ymlaen i Brifysgol Glyndŵr yn Wrecsam i astudio am radd mewn Datblygu Gemau. Wedi gadael y brifysgol, cafodd Rob ei swydd gyntaf gyda Sony, gan weithio ar Minecraft – gêm hynod boblogaidd a fu'n llwyddiant masnachol ysgubol. O fewn pythefnos i ddechrau gweithio gyda Sony, cafodd Rob gynnig swydd gyda TT Games. Ymhen ychydig fisoedd, roedd wedi symud o swydd sicrhau ansawdd i fod yn ddylunydd ar gemau adnabyddus a aeth ymlaen i ennill sawl gwobr.

Roedd Rob, sy'n byw yn Hen Golwyn ond sy'n wreiddiol o Landrillo-yn-Rhos, yn rhan o'r tîm a ddyluniodd Lego Dimensions a gipiodd wobr BAFTA am y "Gêm Orau i Blant" yn 2016. Yn ystod ei gyfnod gyda TT Games bu Rob hefyd yn gweithio ar Lego Star Wars – The Force Awakens; The Lego Ninjago Movie Game; Lego Dimensions – Years 1 & 2; Lego Batman a Lego Marvel’s Avengers!

Meddai Rob: "Fy nod ydi ysbrydoli'r myfyrwyr a hyrwyddo'r diwydiant gemau yng Nghymru. Yn ystod y cyfnod cymharol fyr rydw i wedi bod yma, mae myfyrwyr y coleg wedi gwneud argraff fawr arna i ac mae ganddyn nhw syniadau arloesol iawn am ddatblygu gemau."

Dyma oedd gan John Jackson, Prif Weithredwr / Cyfarwyddwr Esports Wales i'w ddweud am benodiad Rob: "Mae'n wych bod Rob yn ymuno â'r bwrdd. Mae'n amlwg bod ganddo brofiad helaeth ym maes addysg a diwydiant. Mae cael rhywun sydd wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru yn golygu y gall Esports Wales yn awr fynd ati i gefnogi a datblygu e-chwaraeon drwy Gymru gyfan."

Mae adran Datblygu Gemau Coleg Llandrillo wedi cael llwyddiant anhygoel dros y blynyddoedd diwethaf gan sicrhau partneriaethau gyda rhai o frandiau electroneg a gemau mwyaf llwyddiannus y byd.

Cafodd ei chofrestru'n ddatblygwr i gwmnïau Xbox a Nintendo – yr adran gyntaf o bosibl mewn unrhyw brifysgol neu goleg yn y Deyrnas Unedig i gael braint o'r fath! Ar ben hyn, mae'r coleg hefyd yn rhan o raglen academaidd fyd-eang Sony Interactive Entertainment - PlayStation®First. Mae'r rhaglen, sy'n cael ei rhedeg gan Sony Interactive Entertainment Europe (SIEE), yn golygu bod staff a myfyrwyr yn gallu defnyddio adnoddau caledwedd a meddalwedd y cwmni i ddatblygu'n broffesiynol. Golyga hyn fod myfyrwyr yn cael defnyddio'r un meddalwedd â stiwdios gemau ar draws y byd, ac yn gallu creu gemau arloesol, newydd, ar gyfer PlayStation... yn eu hystafell ddosbarth!

Mae Coleg Llandrillo wedi dangos ei fod yn datblygu ei ymarfer yn gyson i addysgu'r cynnwys diweddaraf bosibl gan gadw i fyny gyda'r newidiadau yn y diwydiant gemau. Mae wedi dod yn hwb Transfuzer ac yn ddiweddar wedi agor ystafelloedd realiti rhithwir gwerth £120,000 er mwyn i fyfyrwyr allu datblygu eu prosiectau realiti rhithwir eu hunain. Mae yna hyd yn oed dîm Esports wedi'i sefydlu yn y coleg.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Datblygu Gemau, neu gyrsiau Cyfrifiadura, sy'n dechrau fis Medi cysylltwch â thîm y Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk

Gwefan: www.gllm.ac.uk