Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manon yn cael ei dewis ar gyfer Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol

Mae Manon Awst, cyn-fyfyriwr yng Ngholeg Menai, yn un o wyth artist a ddewiswyd ar gyfer prosiect a fydd yn archwilio effaith newid hinsawdd ar ein bywydau o ddydd i ddydd

Manon Awst, cyn-fyfyriwr o Goleg Menai wedi ei dewis ar gyfer Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol 2023-25.

Mae Manon yn un o wyth artist sydd wedi eu dewis ar gyfer y cynllun, a fydd yn eu cefnogi i edrych ar yr effaith mae newid hinsawdd yn ei gael ar fywyd bob dydd.

Bydd pob artist yn derbyn grant o £25,000 i dreulio 16 mis yn ymgymryd ag ymchwil creadigol ar y thema 'cysylltiad â natur'.

Mae’n gyfle i herio’r ddealltwriaeth o’n perthynas â byd natur, a sut i ailgysylltu ag o, ac i archwilio perthynas yr artist ei hun â byd natur.

Artist yw Manon, sy’n byw yng Nghaernarfon ac yn creu cerfluniau a gwaith safle-benodol wedi eu plethu a naratifau ecolegol.

Astudiodd y cwrs Sylfaen Celf yng Ngholeg Menai, cyn mynd ymlaen i astudio Pensaernïaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt ac Ymchwil Artistig yn y Coleg Celf Brenhinol, Llundain.

Mae diddordeb creiddiol Manon mewn daeareg a strwythur dwfn tirweddau yn ei helpu i greu ffyrdd newydd o weithio gyda deunyddiau cerfluniol, ac mae ei gwaith diweddaraf yn canolbwyntio ar werth ecolegol a diwylliannol mawndiroedd.

Yn ddiweddar derbyniodd Wobr Artist Sefydliad Henry Moore ac roedd yn rhan o Raglen Ymarferwyr Celf Gyhoeddus Up Projects yn 2022. Mae ganddi waith yn rhan o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llywodraeth Prydain a Senedd Cymru ac mae gosodiadau parhaol ganddi ar Lwybr Arfordir Cymru yn Nant Gwrtheyrn ac yn Rosa-Luxemburg-Platz, Berlin.

Mae Manon wedi’i dewis ar gyfer Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol ynghyd â Zillah Bowes, Cheryl Beer, Eric Lesdema, Alison Neighbour, Simmy Singh, Julia Thomas ac Iestyn Tyne.

Mae Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol yn rhan o’r Rhaglen Natur Greadigol rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, sy’n ceisio meithrin y berthynas rhwng y celfyddydau a’r amgylchedd naturiol, fel rhan o ymrwymiad ar y cyd i wella llesiant amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaeth Cwm Elan yn ymuno â Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru eleni ar gyfer y thema 'cysylltiad â natur'. Peak Cymru, mewn cydweithrediad â rheolwr y celfyddydau, Elen Roberts, fydd yn cynnal y rhaglen ddatblygu ar gyfer y cymrodorion.

Meddai Judith Musker Turner, sydd ar hyn o bryd yn arwain gwaith Cyngor Celfyddydau Cymru ym maes y celfyddydau a chyfiawnder hinsawdd: “Gwahoddwyd artistiaid i wneud cais i ymuno â Chymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol drwy alwad agored ym mis Awst a mis Medi 2023.

“Roedd yn broses hynod gystadleuol, a chawsom 188 o geisiadau anhygoel gan set amrywiol o bobl dalentog o bob rhan o Gymru. Hoffem ddiolch i bob un ohonynt am eu hamser a’u diddordeb.

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi dewis wyth unigolyn eithriadol ar gyfer y Gymrodoriaeth. Serch hynny, hoffem ni hefyd gydnabod y gofal, yr angerdd a’r ddealltwriaeth hynod a welwyd ymhlith artistiaid ac unigolion creadigol yng Nghymru wrth drafod cysylltiad pobl â byd natur a’r newid yn yr hinsawdd. Mae cryfder yr ymateb i’r cyfle hwn yn dyst i hynny.

Dywedodd Joe Roberts, o Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae cryfder ein cysylltiad â byd natur yn dylanwadu’n drwm ar sut y byddwn ni’n gweithredu wrth ymateb i fyd natur.

Bydd y Cymrodoriaethau hyn yn trin a thrafod ein perthynas fel unigolion a’n perthynas ddiwylliannol â byd natur drwy archwilio creadigol. ⁠Ar y cyd â phartneriaid y prosiect, bydd Peak Cymru yn rhoi cyfle i’r Cymrodyr arbrofi, archwilio, cwestiynu a herio.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut y bydd aelodau’r grŵp newydd, cyffrous hwn yn dod â’u gwybodaeth, eu hangerdd a’u profiad ynghyd er mwyn ymateb i’r thema hon.

Mae cymuned greadigol Cymru wedi dangos unwaith eto ei bod yn ymroddedig ac yn frwd dros ysbrydoli gwell dyfodol i’n planed. ⁠Roedd cryfder y ceisiadau a ddaeth i law yn galonogol tu hwnt, a byddwn ni’n parhau i ddatblygu ein perthynas â’r sector diwylliannol er mwyn i ragor o artistiaid allu defnyddio’u lleisiau i feithrin y berthynas rhwng cymdeithas a byd natur.”

I gael rhagor o wybodaeth am Gymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol 2023-25, cliciwch yma.

Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau Celf Sylfaen yng Ngholeg Menai, Coleg Llandrillo a Choleg Meirion-Dwyfor, cliciwch yma.