Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Staff y Grŵp yn helpu i godi £1k i Shelter Cymru yng ngêm Wrecsam

Roedd Melanie Reid a Moya Seaman ymhlith tîm o wirfoddolwyr a roddodd o’u hamser ychydig cyn y Nadolig i gasglu cyfraniadau at elusen ddewisedig Grŵp Llandrillo Menai

Bu i staff Grŵp Llandrillo Menai helpu i godi dros £1,300 i Shelter Cymru yn ystod buddugoliaeth ddiweddar CPC Wrecsam yn erbyn CPD Sir Casnewydd.

Roedd swyddog cyswllt ac ymgysylltu Coleg Llandrillo, Melanie Reid a rheolwr sgiliau'r Grŵp, Moya Seaman, ymhlith tîm o wirfoddolwyr a oedd yn casglu cyfraniadau yn Y Cae Ras.

Gan roi o'u hamser dim ond dau ddiwrnod cyn y Nadolig, fe wnaethon nhw godi £1,312.07 mewn casgliadau bwced ar gatiau'r stadiwm enwog.

Curodd Wrecsam eu gwrthwynebwyr o Gasnewydd o 2 gôl i 0 ar y diwrnod i aros safleoedd dyrchafiad Cynghrair Dau, ac fe gyfrannodd cefnogwyr y ddau glwb yn hael.

Mae Shelter Cymru, elusen ddewisedig Grŵp Llandrillo Menai ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24, yn helpu miloedd o bobl ledled Cymru bob blwyddyn sy'n cael eu heffeithio gan yr argyfwng tai.

Mae’r elusen yn cynnig cyngor cyfrinachol ac annibynnol am ddim, ac yn helpu pobl i ddod o hyd i gartref diogel a’i gadw.

Dywedodd Moya: “Mae cartref yn bopeth. Mae’n ddychrynllyd meddwl y bydd 3,500 o blant yn ein cymunedau yng Nghymru yn ddigartref y gaeaf hwn. Mae hyn fel petai’n waeth adeg y Nadolig. Felly dyna pam roeddwn eisiau rhoi rhywfaint o amser i gefnogi Shelter Cymru.

Roedd cefnogwyr ardderchog Wrecsam a Chasnewydd mor gyfeillgar a hael ac rwy'n edrych ymlaen at gefnogi'r elusen eto eleni."

Dywedodd Melanie: “Rydyn ni i gyd yn ymwybodol o'r effaith mae'r argyfwng costau byw yn ei gael ar ein cymunedau.

“Mae dod o hyd i gartref diogel am bris fforddiadwy yn dod yn fwyfwy anodd, a dyna pam ei bod mor bwysig cefnogi elusennau gwych fel Shelter Cymru sy’n cynnig cefnogaeth, yn codi ymwybyddiaeth ac yn ymgyrchu i bawb gael yr angen sylfaenol hwn.”

“Roedd yn wych gweld haelioni cefnogwyr Wrecsam a Chasnewydd ar y diwrnod. Roedd pawb mor gyfeillgar a chroesawgar, roedd yr awyrgylch yn drydanol."

Dywedodd Frankie Mairs, Codwr Arian Rhanbarthol Shelter Cymru dros ogledd Cymru: “Cawsom ddiwrnod ardderchog yn casglu arian yn y bwcedi yn CPD Wrecsam. Roedd caredigrwydd a haelioni cefnogwyr Wrecsam a Chasnewydd yn rhagorol, a chodwyd swm enfawr o £1,312.07.

“Dim ond trwy gefnogaeth ein cymuned y mae ein digwyddiadau a’n casgliadau bwced yn bosibl. ⁠Hoffem ddiolch yn arbennig i'n gwirfoddolwyr o'r Grŵp a'n cefnogodd ni ar y diwrnod.

“Allen ni ddim bod wedi ei wneud heboch chi.

“Mae'r Frwydr dros Gartref yn parhau, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Grŵp yn ystod 2024. Diolch yn fawr i bawb.”

I gael rhagor o wybodaeth am Shelter Cymru, neu i gyfrannu, ewch i sheltercymru.org.uk