Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Salonau Hyfforddi Grŵp Llandrillo Menai yn Ailagor!

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod Trinwyr Gwallt yn gallu ailagor, mae Grŵp Llandrillo Menai yn falch iawn o gyhoeddi y bydd ei Salonau Hyfforddi yn gallu agor eu drysau unwaith eto o Ebrill 12fed ymlaen.

Mae'r Salonau Hyfforddi yn Nolgellau, Bangor, Rhyl a Llandrillo, yn cynnig ystod o driniaethau trin gwallt proffesiynol. Cysylltwch â'ch Salon Hyfforddi lleol i gael gwybod am y triniaethau a gynigir.

Caiff y salonau eu rhedeg gan fyfyrwyr sy'n astudio ar gyfer cymwysterau yn y maes. Bydd ein tîm o staff profiadol yn goruchwylio gwaith y myfyrwyr hyn drwy gydol yr amser a gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y gwasanaeth a gewch o'r safon ucha.

Bydd rhai myfyrwyr sy'n gweithio mewn ambell salon eisoes wedi cymhwyso, ond yn parhau â'u hyfforddiant er mwyn dysgu rhagor o sgiliau. Am bris ychydig yn uwch, gall cleientiaid ofyn am gael steilio eu gwallt gan fyfyriwr cymwysedig.

Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

I drefnu apwyntiad yn Salon Hyfforddi Bangor, ffoniwch 01248 383313.

I drefnu apwyntiad yn Salon Hyfforddi Dolgellau, ffoniwch 01341 424922.

I drefnu apwyntiad yn Salon Hyfforddi Llandrillo-yn-Rhos, ffoniwch 01492 542321.

I drefnu apwyntiad yn Salon Hyfforddi Rhyl, ffoniwch 01745 345827.

** CYNNIG MYFYRWYR GRŴP LLANDRILLO MENAI: Torri gwallt am ddim am gyfnod cyfyngedig! **

Cyhoeddir manylion ynghylch ailagor y Salonau Harddwch yn fuan!