Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Grŵp Llandrillo Menai yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer buddsoddiad gwerth £11.2m yng nghampws Y Rhyl

Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi cyhoeddi cynlluniau a allai weld Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Peirianneg gwerth £11.2m yn dod i gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl.

Mae'r cynlluniau ar hyn o bryd yn mynd trwy'r broses gynllunio, gyda'r bwriad o greu hwb addysg a hyfforddiant o safon fyd-eang ar gyfer y sector peirianneg.

Bydd y ganolfan yn galluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau a fydd yn cwrdd ag anghenion cyflogwyr yn y dyfodol, yn cynnwys y sector ynni adnewyddadwy, gweithgynhyrchu 'ychwanegu haenau' a thrawsnewidiad digidol.

Bydd Sefydliad Technoleg Ynni Adnewyddadwy yn rhan o'r datblygiad newydd gan roi cyfle i ddysgwyr o bob cwr o'r rhanbarth uwchsgilio, ailhyfforddi a bod yn rhan o sector y disgwylir iddo dyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd nesaf. Mae'r datblygiad eisoes wedi derbyn cefnogaeth gan y cwmni rhyngwladol RWE Renewables sy'n rheoli nifer o safleoedd ynni adnewyddadwy ledled y DU.

Bydd disgyblion o ysgolion lleol hefyd yn gallu defnyddio'r ganolfan er mwyn cael cychwyn buan ar hyfforddi ar gyfer swyddi'n y dyfodol.

Meddai Lawrence Wood, Pennaeth Coleg Llandrillo:

"Bydd y datblygiad hwn yn ychwanegiad pwysig i gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl. Bydd yn rhoi cyfle i unigolion yn y rhanbarth ddysgu a hyfforddi gyda'r dechnoleg ddiweddaraf, a hynny mewn amgylchedd modern a phwrpasol. Bydd hyn yn eu rhoi mewn sefyllfa gref i ddilyn gyrfaoedd mewn diwydiannau megis cynhyrchu ynni, peirianneg a gweithgynhyrchu.

"Fy ngweledigaeth ar gyfer y ganolfan hon yw y bydd yn gweithredu mewn partneriaeth â'r diwydiant gan sicrhau fod gan bobl y sgiliau angenrheidiol i gefnogi twf economaidd ac arloesedd o fewn y sector yma yng ngogledd Cymru."

Meddai'r Cyng. Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych:

"Rwy'n croesawu'r cynigion hyn ar gyfer Campws Coleg Llandrillo yn y Rhyl, sy'n anelu at gynnig addysg o safon fyd-eang ym maes peirianneg i gefnogi pob math o ddiwydiannau ledled Gogledd Cymru, yn cynnwys y sector ynni adnewyddadwy.

"Trwy roi'r cyfleusterau a'r cyfleoedd addysgiadol gorau bosibl i ddysgwyr yn y rhanbarth, fe'u galluogir i ddatblygu gyrfaoedd a bydd hynny'n darparu gweithlu hyfforddedig i gwmnïau a fydd yn helpu ein economi i dyfu yma yng Ngogledd Cymru."

Bydd y Ganolfan Ragoriaeth ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl yn debyg iawn i Ganolfan STeM Grŵp Llandrillo Menai yn Llangefni, a lansiwyd gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn 2019.

Mae'n rhan o strategaeth ehangach gwerth £90m ar draws y Grŵp i foderneiddio cyfleusterau addysg a hyfforddi, ac mae sefydlu Canolfannau Rhagoriaeth wrth graidd y strategaeth honno.

Mae prosiectau eraill, yn cynnwys adleoli campws Bangor i Barc Menai yng Ngwynedd, hefyd yn mynd trwy'r broses gynllunio ar hyn o bryd.

Eglurodd Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai:

"Mae ein cynlluniau i foderneiddio'n cyd-fynd yn agos gyda'r sectorau twf a adnabuwyd gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

"Bydd datblygu mwy o Ganolfannau Rhagoriaeth mewn lleoliadau allweddol, megis y Rhyl a Bangor, yn ein helpu i fireinio ein darpariaeth cyrsiau ymhellach a gwneud yn sicr eu bod yn ateb gofynion cyflogwyr, yn gwella cyfleoedd gwaith ein dysgwyr, ac yn cefnogi'r economi'n ehangach."