Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Grŵp Llandrillo Menai yn anelu at ddyblu allbwn solar

Mae'n argoeli'n addawol y bydd Grŵp Llandrillo Menai yn cyflawni ei nod o ddyblu allbwn ynni solar yn sgil llwyddiant cynllun paneli solar sylweddol a gwblhawyd y llynedd.

Gwireddwyd cynllun solar 100kWp ar adeilad chwaraeon y Grŵp ar gampws Llandrillo-yn-Rhos fis Awst diwethaf. Ers hynny, mae wedi cynhyrchu ymhell dros 10,000kW o drydan, sy'n gyfystyr ag arbediad o fwy na £1,500.

Mae'r Grŵp wedi gosod targedau uchelgeisiol i leihau allyriadau carbon deuocsid yn deillio o ddefnyddio trydan, fel yr amlinellir yng Nghynllun Gweithredu Amgylcheddol 2020-21. Y nod yw cyflawni arbedion o 107,780KWh a 44,410kg mewn allyriadau CO2, sy'n cyfateb ag arbediad ariannol o £17,840.

Mae pob adeilad newydd a ddatblygir gan y Grŵp yn cydymffurfio â safon 'ardderchog' BREAMS. Golyga hyn fod ynni adnewyddadwy yn ffactor ganolog wrth ddylunio'r adeiladau a gosodir paneli ffotofoltäig ar bob un ohonynt.

Yn 2019/20, cynhyrchwyd 31,954 KgCO2e gan y paneli hyn, yn cynnwys y rhai ar y Ganolfan Beirianneg arloesol yn Llangefni. Erbyn diwedd eleni, disgwylir y bydd y ffigwr hwn yn cynyddu'n sylweddol, gyda £200,000 yn ychwanegol wedi'i glustnodi i osod mwy o baneli ar gampysiau Y Rhyl a Llandrillo-yn-Rhos.

Meddai Kath Coughlin, Cyfarwyddwr Cyllid Corfforaethol Grŵp Llandrillo Menai:

Yng nghyd-destun yr heriau enfawr yr ydyn ni oll yn eu hwynebu yn sgil newid hinsawdd, rydyn ni'n ymroddedig i reoli a chynnal ein safleoedd mewn modd sy'n lleihau ein ôl troed carbon.

Mae'r defnydd o gelloedd ffotofoltäig yn rhan bwysig iawn o'n strategaeth i ddefnyddio ynni'n effeithlon. Mae'n galonogol iawn gweld mor sydyn y mae'r paneli ar y campws yn Llandrillo-yn-Rhos wedi arwain at fudd amgylcheddol go iawn, gan ein helpu i wella perfformiad ein stâd ymhellach.

Ein bwriad yn awr yw optimeiddio'r paneli presennol ac ychwanegu nifer sylweddol ohonynt ar yr adeiladau sy'n bodoli'n barod.

Mae defnyddio ynni solar yn un o nifer o gynlluniau sydd gan Grŵp Llandrillo Menai i leihau ei effaith ar yr amgylchedd.

Eglurodd Kath:

Mae yna lawer o feysydd lle'r ydyn ni'n gweithredu er mwyn mynd i'r afael â materion amgylcheddol. Er enghraifft, mae gennym raglen i osod pwyntiau gwefru ceir trydan ar draws ein campysiau, ac mae'r cyntaf o'r rhain eisoes wedi eu gosod yn Llangefni a Llandrillo-yn-Rhos.

Mae gennym hefyd gynllun i uwchraddio goleuadau trwy gyflwyno bylbiau LED ynni effeithlon, a phrosiectau'n ymwneud â defnyddio dŵr, deunyddiau ac ailgylchu.

Y nod sylfaenol yw gosod cynaliadwyedd, arferion amgylcheddol da a dinasyddiaeth fyd eang wrth graidd pob agwedd ar fywyd y coleg.

Ochr yn ochr â mesurau ymarferol, mae gennym ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o faterion amgylcheddol lleol a byd-eang ymhlith ein staff a'n myfyrwyr. Ac rydym yn pwysleisio ar bob cyfle y neges fod gan bawb ohonom ran i'w chwarae mewn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd.