Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Grŵp Llandrillo Menai yn Cofio Dug Caeredin

Yn dilyn marwolaeth drist Ei Fawrhydi y Tywysog Phillip, Dug Caeredin, mae Grwp Llandrillo Menai yn cymryd y cyfle i dreiglo'r blynyddoedd nol i brynhawn gwyntog yn haf 1965, pan agorodd Ei Fawrhydi gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos yn swyddogol.

Roedd agoriad swyddogol Coleg Llandrillo - neu Goleg Technegol Llandrillo fel y'i hadwaenid bryd hynny - bron i chwe degawd yn ôl yn dynodi nid yn unig oes newydd mewn addysg bellach ond hefyd Jiwbilî Ddiemwnt addysg bellach o fewn ardal Bae Colwyn.

Bu paratoadau mawr ar gyfer ymweliad y Tywysog ac roeddent wedi cadw'r Pennaeth ar y pryd, Mr W.J. Griffiths, a chadeirydd y Bwrdd Llywodraethwyr, Mr D.B.Jones, yn brysur am fisoedd lawer, yn ôl tystiolaeth ffeil "Agoriad Swyddogol" y Pennaeth. Mae cofnodion yn dynodi i is-bwyllgor bychan wneud yr holl drefniadau, gyda'r cyfarwyddwr addysg ar gyfer Sir Ddinbych yn gyfrifol am wahoddiadau swyddogol. Roedd cyfyngiad o 400 o wahoddedigion yn y neuadd ymgynnull yn amlwg yn her mawr.

Am 3.50 ar Ddydd Mercher 23 Mehefin 1965, cyrhaeddodd dau hofrennydd o Ehediad y Frenhines ychydig yn ddiweddarach nag a gynlluniwyd, yn cario ei Fawrhydi y Tywysog Phillip, yr Arglwydd Raglaw, y Cyrnol J.C. Wynne Finch a'r cyfarwyddwr addysg ar gyfer Sir Ddinbych, Mr Mansel Williams.

Yng ngeiriau rhifyn Mehefin 1965 o "Technical Outlook", cylchgrawn swyddogol Coleg Technegol Sir Gaernarfon a Llandrillo:

Bu tyrfaoedd yn casglu y tu allan i brif giatiau'r coleg am tua dwy awr. Roedd trwpiau o Scouts, Guides a Sea Rangers a chyfartaledd uchel o'r gwnstabliaeth leol wedi eu gosod yn rhesi ar ddyletswydd ac roedd tua pedwar cant o bobl bwysig a phobl y dref yn y brif neuadd a'r cyntedd, pan gyrhaeddodd y foment gyffrous honno, y gwnaed paratoadau ar ei chyfer ers pedair wythnos.

Cododd bonllef wrth i'r hofrennydd coch wedi ei beilotio gan y Dug ei hun lanio y tu ôl i'r coleg. Ymddangosodd wynebau myfyrwyr yn yr holl ffenestri wrth i'r Dug ddod o gwmpas i'r fynedfa flaen lle y cyflwynwyd ef i Mr Griffiths, y Pennaeth, yn edrych yn ysgolheigaidd iawn yn ei ŵn a'i gap academaidd, a swyddogion eraill.

Aeth y digwyddiad dwy awr a hanner yn ôl y cynllun er gwaethaf gwynt cryf a oedd yn bygwth atal y sioe o weld yr hofrenyddion yn glanio. Yn ei anerchiad meddai'r Tywysog Phillip:

Cyrhaeddais fel i chi sylwi efallai yn un o'r dyfeisiau technegol diweddaraf, ond mae'n ddirym i deithio'n gyflym iawn yn erbyn gwynt cryf.

Gwnaeth y polyn fflag newydd ei godi wrth fynedfa'r coleg fodd bynnag elwa o'r gwynt.

Roedd y dydd yn bennaf yn un o seremoni, ac wrth i'r grwp oedd yn croesawu fynd i mewn i'r cyntedd, dadorchuddiwyd y plac - sydd yno o hyd heddiw - i goffau'r agoriad swyddogol i gynulleidfa o tua 50 o wahoddedigion ac 20 myfyriwr. Roedd y geiriau "O Grefft i Gryfder" i barhau fel arwyddair Coleg Technegol Gwynedd.

Aeth y gwahoddedigion yna i'r brif neuadd, lle gwnaeth pymtheg o'r prif westeion fynd ar y llwyfan gan arwain y gweithrediadau i gynulleidfa orlawn o dros 400 o wahoddedigion, ac oedd yn cynnwys gohebwyr swyddogol a'r BBC. Gwnaeth cadeirydd y corff llywodraethu agor y seremoni gan roi anerchiad yn croesawu, cyn gwahodd y Tywysog Phillip i annerch y gwahoddedigion a datgan fod y coleg ar agor yn swyddogol.

Yn ei anerchiad, siaradodd Ei Fawrhydi yn frwd am addysg dechnegol ac o'r trawsysgrifau a gadwyd nodir iddo ddweud:

Mae'n cymryd cymwysterau technegol sylweddol ond i gadw offer y byd modern hwn yn rhedeg ac yn ddibynadwy.

Cyn cau'r seremoni, gwnaed dau gyflwyniad i'r Tywysog Phillip, y ddau yn wahanol iawn o ran cynnwys. Cyflwynodd Mr Victor C.Wilde, cymwynaswr mawr i'r coleg, weithred i'r coleg yn dynodi y byddai yn trosglwyddo i Bwyllgor Addysg Sir Ddinbych ardal o tua 12 erw o dir cyfochrog i'w ddefnyddio yn unig at gyfer dibenion hamdden. Cyflwynodd yr Henadur R.E. Rowlands, Y.H., Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, gwpan yfed pen ceffyl arian y gobeithiodd y byddai'r Tywysog yn ei gofio o'i ymweliad â Sir Ddinbych.

Yna aeth y Tywysog Phillip o gwmpas y coleg ar daith wedi'i chynllunio'n dda a oedd yn cynnwys y rhan fwyaf o feysydd o weithgaredd coleg. I sicrhau fod y daith o ddiddordeb nid yn unig i'r gwestai brenhinol ond llawer o wahoddedigion eraill oedd yn bresennol, roedd pob ardal wedi gwneud paratoadau arbennig, oedd yn cynnwys: gwneud wigiau yn yr adran Trin Gwallt, gwneud hetiau yn yr ardal grefftau, gwneud gwelyau yn yr ardal rheoli'r cartref, dyrannu llygod mawr yn yr adran Wyddoniaeth a'r arlwywyr yn gwneud arddangosiadau coginio, gan orffen gyda the prynhawn ym mwyty'r coleg.

Gan neidio i'r unfed ganrif ar hugain, unodd Coleg Llandrillo gyda Choleg Meirion-Dwyfor yn 2010 a Choleg Menai yn 2012 i ffurfio Grwp Llandrillo Menai, y grwp coleg mwyaf yng Nghymru ac un o'r mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Mae gan y Grŵp dros 27,000 o fyfyrwyr ac mae'n cynnig dros 3,000 o gyrsiau llawn a rhan amser. Mae'r rhain yn cynnwys cyrsiau Lefel A, BTEC, Prentisiaethau Modern a NVQs, HNCs, HNDs, graddau sylfaen, graddau anrhydedd ac astudiaethau ôl-radd.