Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Y canlyniadau yng Ngrŵp Llandrillo Menai'n well nag erioed er gwaethaf COVID-19

Unwaith eto eleni mae dysgwyr Lefel A Grŵp Llandrillo Menai'n dathlu wedi iddynt dderbyn canlyniadau Lefel A a Lefel AS rhagorol. Mae'r gyfradd lwyddo wedi cynyddu 1% i 99%, ac mae 50% o'r dysgwyr, mwy nag erioed o'r blaen, wedi llwyddo i gael graddau A* ac A. Rydym wrth ein bodd hefyd gyda'r cynnydd o 2% yn nifer y dysgwyr a enillodd raddau A*-C, a'r gyfradd lwyddo o 100% a gyflawnwyd mewn 148 pwnc ar draws yr holl gampysau.

Hoffem hefyd longyfarch ein dysgwyr Galwedigaethol a fydd yn derbyn eu canlyniadau heddiw, ac rydym yn hynod falch bod cynifer ohonynt wedi ennill y graddau uchaf posibl sef Rhagoriaeth neu Ragoriaeth*.

Mae'r canlyniadau hyn yn dangos llwyddiant academaidd a chyflawniad personol rhagorol a byddant yn galluogi ein dysgwyr i symud ymlaen i Brifysgol, Cwrs Prentisiaeth neu Gyflogaeth.

Rhagor o wybodaeth am ddosbarth 2021:

Coleg Menai

Ymysg y rhai oedd yn dathlu oedd Alis Francis o Gaernarfon a gafodd A* mewn Bioleg yng Ngholeg Menai ac sydd wedi sicrhau lle i astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Meddai Alis: "Mae fy nghyfnod yng Ngholeg Menai wedi bod yn gam perffaith rhwng yr ysgol a'r brifysgol. Roedd ansawdd yr addysgu, ynghyd a'r amgylchedd croesawgar, yn fy ysgogi i astudio ac ennill y radd oedd ei hangen arnaf i fynd i'r brifysgol a ddewisais."

Roedd Ella Burrows ar ben ei digon ar ôl cael A* mewn Saesneg, A* ym Magloriaeth Cymru a gradd Ragoriaeth yn y Gyfraith* ar gampws y coleg ym Mangor a bydd yn mynd ymlaen fis Medi i astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor. Meddai: "Mae'r coleg wedi fy helpu i wella fy hun. Pan ddechreuais yn y coleg ro'n i'n ddihyder iawn – ond erbyn hyn rydw i'n teimlo'n ddigon hyderus i wynebu unrhyw beth mewn bywyd!"

Coleg Meirion-Dwyfor

Llwyddodd Holly Wyn Edwards o Aberdyfi, a oedd yn astudio ar gampws Dolgellau, i gael 4 gradd A* a 1 gradd A: Bioleg, Cemeg, Addysg Gorfforol, Bagloriaeth Cymru a Daearyddiaeth. Meddai Holly: "Diolch i holl staff y coleg am eu cefnogaeth; mae'r profiad wedi bod yn anhygoel. Byddaf yn cymryd blwyddyn i ffwrdd i helpu mewn ysgol gynradd leol cyn ailddechrau astudio'r flwyddyn nesaf."

Cafodd yr efeilliaid unfath, Mia a Beca Owen o'r Ffôr ger Pwllheli'r un graddau Lefel A yn union a hynny yn yr un pynciau, ac maen nhw hefyd wedi cael cynnig lle i astudio yn yr un brifysgol! Cafodd y ddwy 2 A a B mewn Busnes, Cymdeithaseg a Seicoleg a chyn hir byddant yn mynd ymlaen i brifysgol John Moores, ond nid i ddilyn yr un cyrsiau gradd: bydd Mia'n astudio Troseddeg a Beca'n astudio Seicoleg.

Cafodd Anna Griffith o Gricieth, a oedd hefyd yn astudio ar gampws Pwllheli, A* yn y Gyfraith, A* yn Hanes, A yn Saesneg ac A ym Magloriaeth Cymru. Bydd yn mynd i Brifysgol Aberystwyth yn yr hydref i astudio'r Gyfraith. Dywedodd: "Roedd dysgu mewn ffordd rithwir a dilyn ein hamserlen arferol drwy Google Meet yn gweithio'n dda. Rydw i'n ddiolchgar iawn i'r coleg am sicrhau bod ein haddysg wedi parhau dros y cyfnodau clo."

Coleg Llandrillo

Derbyniodd seren rygbi'r coleg Christian Hone o Dreffynnon radd A mewn Hanes, B mewn Bioleg, a B mewn Cemeg. Yn ogystal ag ennill lle i astudio ar gyfer gradd mewn Bancio a Chyllid ym Mhrifysgol Bangor, mae Christian hefyd wedi derbyn lle mewn academi rygbi enwog!

"Mae'r tiwtoriaid yn gwneud gwersi yn ddiddorol ac mae ganddyn nhw wybodaeth gefndir ddefnyddiol o amgylch cynnwys y cwrs a helpodd fi i weld cyd-destun byd go iawn yr hyn yr oeddem ni'n ei astudio."

Llwyddodd Ellis Payne o'r Rhyl i gael 3 gradd A* mewn Mathemateg, Cemeg a Bioleg, yn ogystal â sicrhau cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Yn sgil ei raddau gwych, mae wedi cael lle i ddilyn cwrs gradd mewn Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Sheffield, a'i obaith yw mynd ymlaen wedyn i astudio am radd Meistr. Roedd Ellis wrth ei fodd ac meddai: "Roedd yn amlwg bod gan yr athrawon ddiddordeb gwirioneddol yn eu pynciau; roedden nhw'n sôn am y datblygiadau oedd wedi bod yn ein dealltwriaeth o'r meysydd dan sylw ers iddyn nhw fod yn y brifysgol, ac am y cylchgronau gwyddonol roedden nhw'n eu darllen. Roedd maint Chweched y Rhyl yn cyfrannu at yr amgylchedd cyfeillgar, ac yn ei gwneud hi'n haws symud yno o'r ysgol uwchradd."

Mae gan Charlotte Bradley, sy'n 20 oed ac yn dod o Gyffordd Llandudno ddau achos i ddathlu eleni gan ei bod newydd gael babi ac wedi llwyddo i gael A mewn Llenyddiaeth Saesneg, B mewn Seicoleg, B mewn Cymdeithaseg, yn ogystal â chymhwyster Bagloriaeth Cymru a lefel AS mewn Cymraeg. Bydd yn dechrau astudio Cymdeithaseg a Throseddeg gyda'r Brifysgol Agored fis Hydref er mwyn iddi allu treulio amser gyda'i babi newydd yn ogystal â dilyn cwrs gradd.

Dywedodd: "Roedd yn anodd ar y dechrau gan fod yr hyn oedd yn digwydd gartref ac yn fy mywyd personol yn tarfu weithiau ar fy astudiaethau. Ond, helpodd fy nhiwtoriaid a'm darlithwyr fi drwy'r amseroedd caled gan wneud i mi gredu ynof fy hun a chael graddau gwell na faswn i erioed wedi'u disgwyl. Ar ôl gorffen fy nghwrs gradd, dw i'n gobeithio dilyn cwrs ymarfer dysgu mewn pwnc y dechreuais ymddiddori ynddo yn y coleg."

Wrth bwyso a mesur y canlyniadau a gafwyd eleni, dywedodd Prif Weithredwr y Grŵp, Dafydd Evans: "Llongyfarchiadau i'r holl ddysgwyr a dderbyniodd eu canlyniadau heddiw. Mae'r rhain yn ganlyniadau rhagorol, er bod y flwyddyn academaidd wedi bod yn un heriol iawn. Rydym yn eithriadol falch o lwyddiant dysgwyr ein holl gyrsiau Lefel A a chyrsiau Galwedigaethol ac o'r penderfyniad a'r gwytnwch a ddangoswyd ganddynt. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i'n holl ddysgwyr yn y dyfodol."