Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyrsiau Gradd yng Ngrŵp Llandrillo Menai

Gall dilyn cwrs gradd newid eich bywyd gan roi i chi wybodaeth newydd, annibyniaeth a chyfleoedd cyffrous. Ond, gall anfanteision, fel costau llety a dyled, cyfyngiadau a'r syniad o fod ar goll mewn torf, fod ynghlwm wrth fynd i ffwrdd i brifysgol. Felly, beth petai yna ffordd wahanol?

Drwy astudio'n lleol, gallwch gael manteision graddio heb yr anfanteision a ddaw yn sgil symud i ffwrdd. Mae Grŵp Llandrillo Menai'n cynnig dros hanner cant o gyrsiau gradd yn ei dri choleg, sef Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor, gan roi'r hyblygrwydd i chi astudio'n lleol ac arbed miloedd.

Oherwydd y dosbarthiadau llai, cewch gefnogaeth bersonol drwy gydol eich cwrs gan diwtoriaid a chyd-fyfyrwyr, a graddau a ddilyswyd ac a ddyfarnwyd gan Brifysgol Bangor.

Cynigir y rhan fwyaf o'r cyrsiau gradd yn y Ganolfan Brifysgol, sy'n cynnwys yr holl offer angenrheidiol ac a gostiodd sawl miliwn i'w chodi, yn Llandrillo-yn-Rhos ac mae rhai rhaglenni hefyd ar gael ar ein campysau ym Mangor, y Rhyl Llangefni a Dolgellau.⁠

Mae llawer o'r cyrsiau a gynigir yn gymwysterau galwedigaethol a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â chyflogwyr er mwyn rhoi i'r dysgwyr y sgiliau a'r wybodaeth y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt ac er mwyn ei gwneud yn haws iddynt symud ymlaen i waith. Yn aml, cynhelir y cyrsiau llawn amser dros ddau ddiwrnod yr wythnos, sy’n helpu dysgwyr i ffitio eu hastudiaethau o gwmpas ymrwymiadau gwaith a theulu.

Ar ben hynny, mae Prentisiaethau Gradd newydd sbon yn cynnig llwybr gwahanol i'r un addysg uwch traddodiadol. Maent yn cyfuno gwaith llawn amser ag astudio'n rhan-amser; byddwch yn gweithio pedwar diwrnod yr wythnos i'ch cyflogwr ac yn cael eich rhyddhau un diwrnod yr wythnos i astudio, gan astudio un noson yr wythnos hefyd am y ddwy flynedd gyntaf. Ym mlwyddyn olaf eich Prentisiaeth Gradd, byddwch yn symud i Brifysgol Bangor i astudio am ddiwrnod yr wythnos i gwblhau'r cymhwyster BSc (Anrh). Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn gradd o Brifysgol Bangor yn y Seremoni Raddio!

Ymhlith y pedwar cant a rhagor o raddedigion a oedd yn Seremoni Raddio ddiweddaraf Grŵp Llandrillo Menai, cwblhaodd y cwpl Emma Hickman a Shaun Orr o Minffordd ger Penrhyndeudraeth ill dau gyrsiau Addysg Uwch yr un pryd ar gampws Dolgellau Coleg Meirion Dwyfor. Graddiodd Sean gyda HNC mewn Peirianneg, a graddiodd Emma gyda Gradd Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Dyma ddywedon nhw:

"Roeddem wrth ein bodd i fedru astudio yn yr un coleg. Roedd yr hyblygrwydd a roddwyd i ni fel teulu ifanc yn wych. Byddem yn argymell yn fawr dod yma i astudio!"

Ymunwch â'r miloedd o fyfyrwyr gradd sydd wedi gwireddu eu gobeithion personol ac academaidd yng Ngrŵp Llandrillo Menai!

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau gradd Grŵp Llandrillo Menai, ewch i'r wefan www.gllm.ac.uk/degrees, anfonwch neges e-bost at generalenquiries@gllm.ac.uk neu ffoniwch 01492 542 338.