Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Perfformiad Cyntaf Diwedd Blwyddyn y Celfyddydau Perfformio i Ymddangos ar-lein!

Ceir perfformiad cyntaf sioe fyw, wedi ei berfformio gan fyfyrwyr Celfyddydau Perfformio Coleg Menai, "Fosse and Jerome" ar Youtube heno (Nos Wener, 25 Mehefin) o 7pm.

Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, bydd y sioe ar gael am ddim ar-lein, lle gall pobl gael mynediad i'r fideo o ddiogelwch eu cartref eu hunain.

Mae'r cast yn cynnwys myfyrwyr o Lefel 2, 3 a 4 y cymhwyster Celfyddydau Perfformio a gyflwynir ym Mharc Menai, Bangor.

Dywedodd Paul Edwards, Arweinydd Maes Rhaglen y Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Menai:

"Mae cynhyrchiad sioe fyw eleni, Fosse and Jerome, yn hollol wych ac rydym yn edrych ymlaen gymaint am ei ymddangosiad cyntaf ar ein sianel YouTube!"

"Mae'r myfyrwyr a'r staff wedi gweithio’n galed iawn - rydym wir yn gobeithio fod pawb yn mwynhau'r sioe".

I gael mynediad i'r fideo (ar ôl 7pm ar 25.06.21), cliciwch yma.