Cludiant Coleg Llandrillo
Os ydych yn fyfyriwr Addysg Bellach llawn amser sydd:
- yn iau na 19 mlwydd oed ar 31 Awst 2023,
- yn byw yn siroedd bwrdeistrefol Conwy neu Ddinbych
- yn byw dros dair milltir o gampws y Coleg yr ydych yn ei fynychu
... yna byddwch yn gymwys i gael tocyn bws am ddim i'ch galluogi i deithio yn ôl ac ymlaen i'ch capws agosaf ar fysiau a ddarperir gan y Cyngor.
I gampws Llandrillo-yn-Rhos o:
- Abergele (41B)
- Cwm Penmachno (19)
- Dinbych (D994B)
- Dolwyddelan (66B)
- Bae Cinmel (56B)
- Llandudno (38B)
- Llanfairfechan (40B)
- Llysfaen (43B)
- Prestatyn Drivers Garage (D994D)
- Prestatyn Jolly Sailor (D994F)
- Rhuthun (D994A)
- Y Rhyl Marine Lake (D994E)
- Y Rhyl Water Towers (D994C)
I gampysau’r Rhyl ac Abergele:
Bws Gwennol Newydd - Campws y Rhyl:
Cysylltiadau defnyddiol:
Teithio mewn car:
Mae cyfleusterau parcio i'w cael ar bob un o brif gampysau'r Grŵp, ac ni chodir tâl arnoch am barcio.
Ar gampws Llandrillo-yn-Rhos ceir tri phwynt gwefru trydan y gall y staff a'r myfyrwyr eu defnyddio am ffi o 25c y kWh (i ddefnyddio'r cyfleuster hwn bydd angen i chi lawrlwytho'r ap Electric Blue).
Teithio ar fws y coleg:
Cod Ymddygiad Teithio Coleg
Ni fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol a drwg ar gludiant coleg yn cael ei oddef. Bydd troseddwyr cyson a/neu ddifrifol yn colli eu hawl i deithio ar holl gludiant y coleg.
Bydd y coleg yn monitro ymddygiad ar fysiau ac yn dilyn gweithdrefnau disgyblu'r coleg lle bo angen.