Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Undeb y Myfyrwyr

Enillydd Gwobr Undeb Myfyrwyr AB y Flwyddyn (UCU Cymru) yn 2018, 2019, 2020 a 2022!

Mae Undeb Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yn gysylltiedig ag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCU) ac mae gan bob myfyriwr hawl awtomatig i ymaelodi ag Undeb y Myfyrwyr, gan elwa ar y berthynas a grëwyd rhwng y ddau undeb.

Mae gan Undeb y Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai dri llywydd etholedig, un ym mhob coleg: Coleg Llandrillo, Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai. Caiff llywyddion yr Undeb eu hethol tua diwedd pob blwyddyn golegol a byddant yn dechrau ar eu swyddi fis Medi.

Yn ogystal â'r tri Llywydd, mae gan Undeb y Myfyrwyr hefyd Lywydd Addysg Uwch etholedig i gynrychioli buddiannau'r myfyrwyr Addysg Uwch. Bydd Swyddogion Undeb y Myfyrwyr yn gweithio gyda staff a myfyrwyr y colegau. Byddant yn cyfrannu i bwyllgorau'r Coleg, i fforymau agored ac i baneli dysgwyr, gan gynrychioli'r dysgwyr ar Fwrdd y Llywodraethwyr.

Yn Seremoni Wobrwyo UCM Cymru 2022 yn Caerdydd yn ddiweddar, disgleiriodd Undeb y Myfyrwyr! Derbyniodd Undeb Myfyrwyr gydnabyddiaeth yn genedlaethol am y drydedd flwyddyn yn olynol, fel yr Undeb y Flwyddyn ar gyfer Myfyrwyr Addysg Bellach yng Nghymru. Cydnabu UCM Cymru waith caled yr Undeb y Myfyrwyr yn ystod eu gweithgareddau ymgyrchu, yn ymgysylltu â dros 3,000 o fyfyrwyr mewn un tymor academaidd, ar draws 12 campws a phedair sir.

Mae'r Coleg yn ffodus o fod yn un o'r ychydig Golegau Addysg Bellach sydd â llywyddion cyflogedig ar ei Undeb Myfyrwyr.

Aelodaeth Undeb y Myfyrwyr

Pan fydd gwahanol sefydliadau'n cynnig gostyngiadau i aelodau UCM, gallwch ddefnyddio eich Cerdyn Adnabod colegol i ddangos eich bod yn aelod o'r undeb hwnnw. Os hoffech gael rhagor o fanteision, gallwch wneud cais am gerdyn TOTUM. Bydd hwn yn rhoi rhagor o ostyngiadau i chi yn llawer o siopau'r stryd fawr. Gallwch ei ddefnyddio hefyd i siopa ar-lein.

Os oes gennych gerdyn TOTUM, cewch gynigion arbennig gan ASOS, Spotify, Domino’s Pizza, boohoo a boohooMAN, i enwi ond rhai.

Gall myfyrwyr presennol wneud cais am gerdyn TOTUM ar www.totum.com. Os hoffech gael cymorth i wneud hyn, cysylltwch â Swyddog Cyfoethogi Profiad, bydd hi'n falch iawn o'ch helpu: enrichment@gllm.ac.uk

Sut Gallwch Chi Gymryd Rhan

  • Gwirfoddolwch fel Cynrychiolydd eich Campws neu fel Swyddog Gweithredol
  • Cynigiwch eich enw i gynrychioli myfyrwyr eich cwrs
  • Helpwch i drefnu clwb, cymdeithas neu ddigwyddiad cymdeithasol
  • Helpwch i drefnu digwyddiadau ymgyrchu Undeb y Myfyrwyr
  • Rhowch eich barn neu awgrymiadau i'ch Llywydd CHI
  • Anogwch eich ffrindiau i gymryd rhan yn Undeb y Myfyrwyr
  • Cadwch lygad am wahoddiadau i gyfrannu i grwpiau ffocws, fforymau, cynghorau myfyrwyr a phaneli dysgwyr!

Sut i gysylltu â'ch Undeb Myfyrwyr