Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Fel aelodau o Gynghrair Dydd Mercher Dan 18 Undeb Rygbi Cymru bydd myfyrwyr yr Academi Rygbi yn cael cyfle i chwarae rygbi ar y lefel uchaf. Byddant yn cymryd rhan mewn gemau hynod gystadleuol sy'n llawer mwy dwys a chorfforol nag unrhyw beth maent wedi ei brofi ar y Lefel Dan 16. Gan fod y gemau hyn yn cael eu darlledu ar S4C, caiff y myfyrwyr gyfle i arddangos eu sgiliau gerbron cynulleidfa genedlaet

Fel rhan raglen ddatblygu'r Academi Rygbi, bydd gan ddysgwyr fynediad i'r canlynol:

  • 15 awr wedi'u hamserlennu ar gyfer rygbi - 3 sesiwn yr wythnos, gyda gemau'n cael eu chwarae ar ddydd Mercher
  • Rhaglen ymarfer ddwys i baratoi ar gyfer y tymor rygbi
  • Pwyslais ar sgiliau craidd, sgiliau safle a sgiliau uned yn ogystal â rheoli gemau a thactegau
  • Dadansoddiad berfformiad unigol a thîm
  • Cynlluniau datblygu ac asesiadau sgiliau craidd

Datblygiad Academaidd
Bydd y rhaglen datblygu rygbi yn eich paratoi ar gyfer gyrfa bosibl fel chwaraewr rygbi proffesiynol neu rannol broffesiynol, ond ni all hynny fod yn sicr, ac efallai'n wir nad hyn yw eich blaenoriaeth.

Byddwch yn cadw pob drws ar agor drwy barhau â'ch astudiaethau yn ogystal â'ch chwaraeon.

Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y dewisiadau a'r cyfleoedd gorau bosibl rydym yn rhoi pwyslais mawr ar gynnydd academaidd.

Dewisiadau sydd ar gael:

  • Lefel AS/Lefel A
  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
  • Peirianneg, Ynni Adnewyddadwy a Phŵer
  • Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Gan ddibynnu ar eich graddau, gall y cyrsiau hyn roi i chi'r cymwysterau sydd eu hangen arnoch i fynd ymlaen i ddilyn cwrs prifysgol.

Datblygiad Rygbi
Fel aelodau Gynghrair Dydd Mercher Dan 18 Undeb Rygbi Cymru bydd myfyrwyr yr Academi Rygbi yn cael cyfle i chwarae rygbi ar y lefel uchaf. Byddant yn cymryd rhan mewn gemau hynod gystadleuol sy'n llawer mwy dwys a chorfforol nag unrhyw beth maent wedi ei brofi ar y Lefel Dan 16. Gan fod y gemau hyn yn cael eu darlledu ar S4C, caiff y myfyrwyr gyfle i arddangos eu sgiliau gerbron cynulleidfa genedlaethol.

Fel rhan raglen ddatblygu'r Academi Rygbi, bydd gan ddysgwyr fynediad i'r canlynol:

  • 15 awr wedi'u hamserlennu ar gyfer rygbi - 3 sesiwn yr wythnos, gyda gemau'n cael eu chwarae ar ddydd Mercher.
  • Rhaglen ymarfer ddwys i baratoi ar gyfer y tymor rygbi
  • Pwyslais ar sgiliau craidd, sgiliau safle a sgiliau uned yn ogystal â rheoli gemau a thactegau
  • Dadansoddiad berfformiad unigol a thîm
  • Cynlluniau datblygu ac asesiadau sgiliau craidd

Datblygiad Corfforol

Gan fod y gofynion corfforol sy'n gysylltiedig â rygbi'n cynyddu bob blwyddyn mae'r pwyslais ar ddatblygu athletwyr yn hollbwysig. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ddatblygiad corfforol gan ganolbwyntiar gyflymdra, cryfder a chyflyru. Er mwyn iddynt allu rhoi sylw i'w datblygiad corfforol mae gan fyfyrwyr fynediad i'r canlynol:

  • 3 sesiwn cryfhau a chyflyru bob wythnos
  • 4 diwrnod brofion corfforol a 2 ddiwrnod brofion cryfder bob blwyddyn - caiff yr holl ddata a'r codiadau eu hasesu yng Nghanolfan Ragoriaeth Undeb Rygbi Cymru.
  • Sesiynau ffisiotherapi bob wythnos gyda ffisiotherapydd Academi RGC/URC.
  • Sesiynau adfer yn dilyn gemau
  • Cyngor ar faeth

Dewis
Cewch eich dewis i fod yn aelod o Academi Rygbi Coleg Llandrillo ar sail gwahoddiad a threial. Cysylltir â chwaraewyr sy'n aelodau o dîm Dan 16 RGC os ydynt yn cyrraedd y lefel briodol o ran datblygiad a gallu i berfformio.

Rydym hefyd yn annog chwaraewyr nad ydynt wedi bod yn rhan o dîm Dan 16 URC i ymgeisio gan ein bod o'r farn bod chwaraewyr yn datblygu ar wahanol adegau, a bod unigolion yn gallu ffynnu o gael yr arweiniad a'r amgylchedd iawn.

Academi WRU/RGC
Bydd nifer bychan o chwaraewyr hefyd yn cael cynnig lle gydag Academi URC/RGC.

Tra byddant yng Ngholeg Llandrillo bydd y chwaraewyr hyn yn cael cefnogaeth ychwanegol gan staff URC/RGC, yn ogystal â'r gefnogaeth arferol gan staff Academi Coleg Llandrillo.

Hanes Llwyddiannau'r Myfyrwyr

  • Afon Bagshaw: Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth) - Cymru Dan 20
  • Harri Evans: Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth) - Cymru Dan 20
  • Morgan Williams: Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth) - Cymru Dan 18 a Thîm Saith Bob Ochr Cymru
  • Rhun Williams: Llwybr at Adeiladu - Cymru Dan 18 a Dan 20.
  • Ianto Pari: Lefel A - Cymru Dan 18