Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Y Campfeydd a'r Academîau Chwaraeon

Lle bynnag y maent yn astudio, mae croeso i’r holl fyfyrwyr ddefnyddio cyfleusterau chwaraeon y coleg ym Mangor a Llandrillo-yn-Rhos. Efallai y bydd gofyn i chi archebu'r cyfleusterau ymlaen llaw, ac mae'n bosibl y codir ffi arnoch. Yn Nolgellau a Phwllheli, gall myfyrwyr ddefnyddio cyfleusterau Canolfan Hamdden y dref ar bnawn dydd Mercher.

Mae'r tâl aelodaeth am ddefnyddio'r Campfeydd yn ystod y tymor yn unig yn £40 y flwyddyn. Fel arall, gallwch dalu £100 am aelodaeth Aur sy'n gadael i chi ddefnyddio'r Campfeydd yn ystod y dydd, fin nos ac ar benwythnosau drwy gydol y flwyddyn.

Ar y gwahanol gampysau, cynigir amrywiaeth o chwaraeon, yn cynnwys athletau, badminton, pêl-fasged, pêl-droed, hoci, pêl-rwyd, rygbi a sboncen. Caiff athletwyr addawol eu dewis i chwarae i dimau'r coleg, ac mae'n bosibl y cânt gyfle i gystadlu ar lefel genedlaethol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn parhau i gymryd rhan mewn chwaraeon yn y coleg, trafodwch hyn â staff y campws yr hoffech astudio arno. Fe all fod yn bosibl i chi astudio cwrs academaidd neu alwedigaethol ar un campws a chymryd rhan mewn chwaraeon ar gampws arall.

Academïau Chwaraeon

Mae gennym academïau chwaraeon ar ein campysau ym Mangor a Llandrillo-yn-rhos. Mae hyn yn darparu cyfleoedd i athletwyr yng Ngogledd Cymru barhau i astudio ar gyfer Lefel A neu gymhwyster Lefel 3 arall, tra hefyd yn gwella eu ffitrwydd a'u sgiliau mewn rygbi, pêl-droed neu gamp arall. Caiff athletwyr addawol eu dewis i chwarae i dimau'r coleg, gan gael cyfle o bosibl i gystadlu ar lefel ranbarthol neu genedlaethol.

Academi Llandrillo ac Academi Menai

Mae Academi Llandrillo ac Academi Menai'n fentrau sy'n rhoi cyfle i athletwyr talentog ddatblygu eu potensial ar y maes chwarae i'r eithaf ac, ar yr un pryd, gyflawni'n academaidd hyd eithaf eu gallu.

Mae'n academïau chwaraeon yn cyfuno chwaraeon â dewis eang o gyrsiau academaidd a galwedigaethol sy'n gweddu i wahanol alluoedd a diddordebau. Golyga hyn y gallwch ennill cymwysterau a pharhau i hyfforddi a datblygu ym maes chwaraeon ar yr un pryd! Mae'r academïau hefyd yn darparu cyfleoedd i chi gael eich dewis i chwarae ar lefel ranbarthol a chenedlaethol, er mwyn cyflawni eich potensial yn llawn.

Academi Llandrillo - Am wybodaeth bellach, ffoniwch 01492 542 347 or 01492 544 674.

Academi Menai - Am wybodaeth bellach, ffoniwch 01248 370 125 a gofyn am yr adran chwaraeon.

Yn ein Hacademïau gallwch ddewis arbenigo ar y chwaraeon canlynol:

Pêl-droed
Bydd yr Academi Bêl-droed yn rhoi cyfleoedd a chefnogaeth i chi feithrin eich sgiliau ac ehangu eich profiadau ar y maes chwarae, yn ogystal ag astudio ar gwrs academaidd llawn amser.

Coleg Llandrillo

Coleg Menai

Rygbi
Mae'r Academi Rygbi'n rhedeg yn gyfochrog â'r cwrs a ddewiswch. Mae'n darparu rhaglen gyfannol sy'n rhoi sylw i ddatblygiad corfforol, technegol, tactegol a seicolegol yn ogystal â sut i reoli ffordd o fyw.

Coleg Llandrillo