Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Pam fod angen i mi ddatgelu fy ADY?

Os ydych yn bwriadau mynychu’r coleg mae’n hanfodol bwysig eich bod yn hysbysu’r Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol o’ch anghenion cefnogi cyn gynted â phosibl. Er mwyn inni allu sicrhau ein bod yn gallu cwrdd a’ch anghenion cyn ichi gychwyn ar eich cwrs.

Sut alla i gael cefnogaeth?

Cysylltwch gyda Cydlynydd Cefnogi Dysgu i drafod eich anghenion cefnogi.

Roedd gennyf gefnogaeth 1-1 yn yr ysgol. Fydda i yn cael yr un gefnogateh yn y coleg?

Byddwn yn mynychu eich adolygiadau blynyddol yn yr ysgol. Byddwn yn dechrau ystyried eich cefnogaeth yn y coleg ar ôl mynychu eich adolygiadau blynyddol neu ar ôl ichi gysylltu. Mae cefnogaeth yn y coleg wedi ei deilwra ar sail unigol ac mae’n dibynnu ar eich Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Ydych chi’n darparu gofal personol?

Mae gofal personol yn rhan o’n Ddarpariaeth Ychwanegol. Os byddwch yn rhoi gwybod i ni am eich anghenion, bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi i lunio Cynllun Gofal Personol i sicrhau y caiff eich anghenion eu diwallu yn y coleg.

A Oes cefnogaeth ar gael yn ystod amser egwyl a chinio?

Yn ddibynnol ar anghenion unigol gallwn drefnu cefnogaeth yn ystod amser egwyl a chinio.

A fyddaf yn derbyn cefnogaeth rhifedd a llythrennedd?

Byddwch yn cael mynediad i sesiynau rhifedd a llythrennedd fel rhan o’ch rhaglen yn y coleg.

Roedd gen i drefniadau mynediad arholiadau yn yr ysgol. Oes anegn i mi hysbysu’r coleg?

Oes, rydym yn trefnu asesiadau ar gyfer trefn mynediad at arholiadau ar gyfer dysgwyr os ydi eu proffiiau a’i ddulliau arferol o weithio yn arddangos eu bod yn gymwys am drefniadau mynediad at arholiadau.

Sut byddaf yn teithio i’r coleg?

Byddwn yn eich cyfeirio at Wasanaethau Dysgwyr a all gefnogi gyda trefniadau teithio i’r coleg.

Gwefannau Allanol Defnyddiol