Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cludiant Coleg Meirion-Dwyfor

Os ydych yn fyfyriwr Addysg Bellach llawn amser sydd:

  • yn iau na 19 mlwydd oed ar 31 Awst 2023,
  • yn byw yn siroedd bwrdeistrefol Gwynedd neu Fôn ac
  • yn byw dros dair milltir o gampws y Coleg yr ydych yn ei fynychu

... yna byddwch yn gymwys i gael tocyn bws am ddim i'ch galluogi i deithio yn ôl ac ymlaen i'ch capws agosaf ar fysiau a ddarperir gan y Cyngor.


Hysbysiad pwysig:

Hyd at y 4ydd o Fedi, gallwch lawrlwytho a chyflwyno'r llythyr hwn er mwyn teithio i'r Coleg.

Mae tocynnau bws i fyfyrwyr yn byw yn Ynys Môn a Gwynedd ar gael am ddim i fyfyrwyr Coleg Menai, Glynllifon a Choleg Meirion Dwyfor.

  • Mae angen i fyfyrwyr sy'n byw yn Ynys Môn ddod i'r Gwasanaethau Dysgwyr i gofrestru am eu tocyn.
  • Mae angen i fyfyrwyr sy'n byw yng Ngwynedd lawr lwytho'r ap Tocyn Teithio. Cewch wybod mwy drwy fynd i wefan Cyngor Gwynedd neu alw 01766 771000.

Campws Dolgellau:

Am wybodaeth bellach a chyngor cysylltwch â Kirsty Edwards: edward3k@gllm.ac.uk neu 01341 422 827 est 8448

Campws Glynllifon:

Am wybodaeth bellach a chyngor cysylltwch â Llinos Morris: llinos.morris@gllm.ac.uk neu 01286 830261 est 8535

Campws Pwllheli:

Am wybodaeth bellach a chyngor cysylltwch â Helen Jones: hwjones@gllm.ac.uk neu 01758 701 385 est 8618


Teithio mewn car:

Mae cyfleusterau parcio i'w cael ar bob un o brif gampysau'r Grŵp, ac ni chodir tâl arnoch am barcio.

Teithio ar fws y coleg:

Cod Ymddygiad Teithio Coleg

Ni fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol a drwg ar gludiant coleg yn cael ei oddef. Bydd troseddwyr cyson a/neu ddifrifol yn colli eu hawl i deithio ar holl gludiant y coleg.

Bydd y coleg yn monitro ymddygiad ar fysiau ac yn dilyn gweithdrefnau disgyblu'r coleg lle bo angen.