Cymorth Ariannol
Cymorth Ariannol a Chyllid ar gyfer Ymadawyr Ysgol
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol, gallech fod yn gymwys i gael cymorth ariannol i astudio.
Mae'n haws cymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant nag a feddyliwch. Mae yna nifer o ffyrdd y medrwch gael help gyda'r adnoddau y byddwch eu hangen i gwblhau eich cwrs yn llwyddiannus. Mae gennym dîm o gynghorwyr a fydd yn medru eich arwain dryw'r manylion. Mae'r cymorth ariannol a all fod ar gael i chi yn cynnwys:
Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA)
Os ydych yn 16-18 oed ac yn dilyn cwrs am fwy na 12 awr yr wythnos, hwyrach y gallwch gael £30 yr wythnos. Ond mae'r lwfans hwn yn ddibynnol ar brawf modd, felly gofynnwch i'r Tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr am ragor o wybodaeth.
Gallwch ddarganfod mwy am EMA drwy ymweld a gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (GDLlC)
Os ydych yn 19+ oed ac yn byw yng Nghymru, gallwch wneud cais am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru i'ch helpu gyda chostau dilyn eich cwrs. Bydd y swm a delir yn dibynnu ar incwm eich teulu ac ar nifer eich oriau astudio. Mae'r grant hwn yn ddibynnol ar brawf modd, felly gofynnwch i'r Tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr am ragor o wybodaeth.
Gallwch ddarganfod mwy am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru drwy ymweld a gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Cronfa Cefnogi Dysgwyr (LSF)
Mae'r Gronfa Cefnogi Dysgwyr yn darparu cymorth ariannol i ddysgwyr llawn-amser sy'n ei chael hi'n anodd talu rhai o'r costau sy'n gysylltiedig â'u cwrs. Gall y gronfa hon hefyd eich helpu i dalu costau archwiliadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Y Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt), llety mewn hostel, dillad gweithio, citiau, cyfarpar, ffioedd stiwdio, rhai tripiau, teithio i'r coleg a gofal plant. Gall staff y Gwasanaethau i Ddysgwyr roi cyngor a gwybodaeth ynghylch y cymorth ariannol sydd ar gael.
- Ffurflen Gais Cronfa Cefnogi'r Dysgwr (CCD) Costau Cwrs 2022-23
- Cronfa Cefnogi'r Dysgwr (CCD) Costau Gofal Plant 2022-23
- Ffurflen Gais Lwfans Prydau Dyddiol 2022-23
- Cronfa Cefnogi'r Dysgwr (CCD) Cludiant 2022-23
- Ffurflen gais benthyg Offer Digidol 2022-23
Plentyn sy'n Derbyn Gofal
Mae'n bosibl y bydd myfyriwr sydd wedi cofrestru ar gwrs addysg bellach llawn amser ac yn blentyn sy'n derbyn gofal yn gymwys i gael cymorth ariannol, sy'n amodol ar bresenoldeb ar hyd y flwyddyn.
Cymorth Ariannol a Chyllid ar gyfer Graddau
Bwrsarïau
Isod mae bwrsarïau Grŵp Llandrillo Menai sydd are gael i fyfyrwyr cymwys. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â degrees@gllm.ac.uk.
Bwrsari | Swm | Meini prawf | Dyddiad Talu |
---|---|---|---|
Bwrsari Dilyniant Uniongyrchol Grŵp Llandrillo Menai | £1000 | Pob myfyriwr sy'n symud ymlaen yn syth o raglen Lefel 3 i gwrs AU llawn amser yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Ond ar gael i Fyfyrwyr ar flwyddyn gyntaf eu hastudiaethau. | 100% ym mis Mai |
Bwrsari Iaith Gymraeg (AU) | £300 | Pob myfyriwr sy'n astudio cyrsiau penodol yr addysgir rhannau sylweddol ohonynt drwy gyfrwng y Gymraeg. | 100% ym mis Mai |
Bwrsari Ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf neu MALIC | £300 | Pob myfyriwr sydd wedi cofrestru ar gwrs AU llawn amser ac y mae eu cod post mewn ardal Cymunedau'n Gyntaf. | 100% ym mis Mai |
Profiad o fod mewn gofal | £300 | Pob myfyriwr sydd wedi cofrestru ar gwrs AU llawn amser ac sydd â phrofiad o fod mewn gofal | Ar hyd y flwyddyn, yn amodol ar bresenoldeb. |
Cynllun Hepgor Ffioedd i Israddedigion Rhan-Amser
Gall myfyrwyr rhan-amser sy'n astudio rhaglen o fodiwlau sy'n werth llai na 30 credyd fod yn gymwys i wneud cais am grant hepgor ffioedd CCAUC. Uchafswm y ffioedd y gellir eu hepgor ym mhob blwyddyn academaidd yw £875. I gael rhagor o wybodaeth anfonwch neges e-bost i degrees@gllm.ac.uk.
Hysbysiad Gwybodaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru
Eithriad a gostyngiad ar Dreth y Cyngor
Ydych chi wedi ystyried a ydych yn gymwys i gael eich eithrio neu gael gostyngiad ar Dreth y Cyngor? Edrychwch ar wefan y Llywodraeth i gael rhagor o wybodaeth.
https://gov.wales/council-tax-discounts-and-reduction/students
Os ydych yn gwneud cais am eithriad neu ostyngiad ar Dreth y Cyngor, gallwch ofyn am ffurflen 'Cadarnhau Statws Myfyriwr' gan y Coleg a fydd yn rhoi cadarnhad o'ch statws fel myfyriwr cofrestredig i'r Awdurdod Lleol. Siaradwch â staff yr adran Gwasanaethau i Ddysgwyr am fwy o wybodaeth.
Datganiad ar yr Iaith Gymraeg
Cyhoeddir yr holl ddogfennau sy'n ymwneud ag ymgeisio am grant, bwrsariaeth neu gymorth ariannol i ymgeiswyr unigol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg ac nid ydynt yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r ceisiadau a gyflwynir yn Saesneg. Os bydd rhaid cyfweld ymgeiswyr unigol am grantiau neu gymorth ariannol, mae cyfweliadau ar gael yn Gymraeg ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais yn Gymraeg gan ddefnyddio cyfieithu ar y pryd os oes angen. Os cyflwynir cais am grant neu gymorth ariannol yn Gymraeg, byddwn yn hysbysu'r ymgeisydd am ganlyniad ein penderfyniad yn Gymraeg.
Wrth wneud penderfyniad mewn perthynas â dyfarnu grant neu gymorth ariannol, rydym yn ystyried yr effeithiau y byddai dyfarniad neu gymorth o'r fath yn eu cael ar y cyfleoedd i'r ymgeiswyr a phobl eraill ddefnyddio'r Gymraeg ac rydym yn sicrhau na fyddai ein penderfyniad ni'n lleihau cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith nac yn achosi effeithiau andwyol. Byddwn yn ystyried gweithredu penderfyniad (er enghraifft, drwy osod amodau) fel y byddai'n cael effeithiau cadarnhaol, neu effeithiau mwy cadarnhaol ar gyfleoedd i ymgeiswyr ddefnyddio'r Gymraeg.