Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Arholiadau

Cyfarwyddiadau, Arweiniad a chyngor i Ymgeiswyr a Staff

Mae arholiadau'n datblygu bob blwyddyn, ac maent bellach yn dod yn rhan o bron pob llwybr dysgu. Fel grŵp o Golegau sy'n cynnwys nifer o ganolfannau arholiadau, yn naturiol mae gan Grŵp Llandrillo Menai ddyletswydd i gydymffurfio â'r holl ganllawiau a chyfarwyddiadau a roddwyd i ni gan Y Cyd-Gyngor Cymwysterau (JCQ) a'r holl Sefydliadau Dyfarnu (AOs) yr ydym yn delio â hwy.

Myfyriwr yn ysgrifennu mewn arholiad

Gyda hyn mewn golwg, mae gan ein holl ymgeiswyr arholiad ddyletswydd i gydymffurfio â'r rheolau a osodir gan Y Cyd-Gyngor Cymwysterau a'r Sefydliadau Dyfarnu, a'r arferion yr ydym ni, fel grŵp o Golegau, wedi'u gweithredu i sicrhau ymagwedd gyson ar gyfer ein holl ddysgwyr.

Ysgrifennwyd y dudalen hon i'ch helpu, ac mae'n anelu at dynnu eich sylw at y prif reoliadau y mae'n rhaid i chi eu dilyn wrth sefyll arholiad, boed yn arholiad papur neu'n brawf ar y sgrîn, yn Grŵp Llandrillo Menai. Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â'r rhain, neu unrhyw beth sy'n ymwneud ag ymddygiad arholiadau, gofynnwch i'ch tiwtor.

Adran A: RHEOLIADAU LLYM

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o'r rhain cyn sefyll unrhyw arholiad gyda Grŵp Llandrillo Menai.

  1. Byddwch yn brydlon ar gyfer pob un o'ch arholiadau. Dylech fod yn bresennol o leiaf 15 munud cyn yr amser cychwyn. Os ydych chi'n hwyr, mae perygl na fydd eich gwaith yn cael ei dderbyn gan y Sefydliadau Dyfarnu.
  2. Mae’n RHAID i chwi gyflwyno cerdyn adnabod dilys. Os nad oes gennych gerdyn adnabod Coleg, dylid ddod a ffurf adnabod arall. Os na ellir profi’ch hunaniaeth bydd posibilrwydd na chewch sefyll yr arholiad.
  3. Peidiwch â chymryd rhan mewn unrhyw arfer annheg neu anonest yn ystod yr arholiad. Os ydych chi'n ceisio twyllo, neu dorri'r rheolau mewn unrhyw fodd, gallech gael eich gwahardd - nid yn unig o'r arholiad penodol hwnnw, ond o BOB arholiad.
  4. Dim ond casys pensiliau clir a ganiateir yn yr ystafell arholi.

    Pwysig: mae meddu ar ddeunydd heb ganiatâd yn torri'r rheolau - hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu ei ddefnyddio - ac mae'n bosib y byddwch yn derbyn cosb ac yn cael eich anghymhwyso.

    RHAID I CHI BEIDIO â mynd a'r canlynol i'r ystafell arholi:
    • Oriawr;
    • Nodiadau;
    • Dyfeisiau technolegol/system y gellir ei gweithredu ar y we megis iPod, ffôn symudol, chwaraewr MP3/4 neu ddyfais debyg.
  5. Yn ogystal â phwynt 3 uchod, ni chaniateir bagiau yn yr ystafelloedd
    arholi. Rhaid i chi wneud trefniadau ymlaen llaw i storio'ch eiddo
    personol yn ddiogel. Siaradwch â'ch tiwtor am yr opsiynau sydd ar gael i
    chi.
  6. Ar gyfer arholiadau ysgrifenedig, peidiwch â defnyddio ysgrifbinnau cywiro, hylif neu dâp, ysgrifbin dileadwy, aroleuwyr neu ysgrifbinnau gel yn eich atebion.
  7. Peidiwch â siarad neu geisio cyfathrebu â, neu darfu ar ymgeiswyr eraill unwaith rydych chi fewn yn yr ystafell arholi.
  8. Pan fyddwch chi'n mynd i mewn i'r ystafell arholi, rydych chi dan amodau arholiad yn syth, ac mae'n RHAID i chi ddilyn yr HOLL gyfarwyddiadau a roddwyd i chi gan y goruchwyliwr.
  9. Peidiwch ag ysgrifennu deunydd amhriodol, anweddus neu annymunol.
  10. Os byddwch chi'n gadael yr ystafell arholi heb oruchwyliwr cyn i'r arholiad orffen, ni fydd modd i chi ddychwelyd.
  11. Peidiwch â benthyca unrhyw beth gan ymgeisydd arall yn ystod yr arholiad. Os y gwnewch hyn yna fe fydd hyn yn cael ai adrodd I’r Sefydliad Dyfarnu, a bydd posib iddynt ganslo’ch papur.

Adran B: GWYBODAETH

Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynychu pob arholiad gyda phopeth sydd ei angen arnoch chi

  1. Gwybod dyddiadau, amseroedd a lleoliadau eich holl arholiadau, a bod yn bresennol o leiaf 15 munud cyn yr amser cychwyn.
  2. Bod yn ymwybodol o gynnwys unrhyw boster arholiadau sy’n cael eu arddangos tu allan i’r ystafell arholiad.
  3. Dim ond ysgrifbinnau, pensiliau, rhwbiwr ac unrhyw offer arall sydd eu hangen arnoch ar gyfer yr arholiad y byddwch chi'n mynd gyda chi i'r ystafell arholi. Cofiwch - ni chaniateir bagiau, ffonau symudol, oriawr glyfar ac ati yn yr ystafell arholi.
  4. Ar gyfer arholiadau ysgrifenedig, rhaid i chi ysgrifennu'n glir mewn inc du. Dim ond ar gyfer diagramau, mapiau, siartiau ac ati y gellir caniatáu pensiliau neu inciau lliw, oni bai bod y cyfarwyddiadau a argraffir ar y papur arholiad yn datgan fel arall.
  5. Os caniateir i chi ddefnyddio cyfrifiannell mewn arholiad:
  • Gwnewch yn siŵr ei fod yn gweithio'n iawn, ac eich bod chi'n gwybod sut i'w ddefnyddio - ni chaniateir i oruchwylwyr eich helpu;
  • Gwiriwch fod y batris yn gweithio'n iawn;
  • Cliriwch unrhyw beth sydd wedi'i storio arno;
  • Cael gwared ar unrhyw rannau megis cesys, caeadau neu orchuddion (os ydynt yn cynnwys cyfarwyddiadau neu fformiwlâu wedi eu hargraffu arnynt ai peidio);
  • Peidiwch â dod â chyfarwyddiadau gweithredu na rhaglenni paratoi i mewn i'r ystafell arholi.

Adran C: YN YSTOD YR ARHOLIAD

  1. RHAID gwrando ar y goruchwyliwr - a dilyn eu cyfarwyddiadau bob amser.
  2. RHAID parchu’r goruchwyliwr drwy’r amser – bydd unrhyw gamymddygiad yn cael ei gofnodi a bydd potensial i chwi gael eich disgyblu.
  3. Dywedwch wrth y goruchwyliwr ar unwaith os:
    • Rydych chi'n amau bod y papur anghywir wedi'i roi i chi (neu'r deunydd adnoddau os yw'n berthnasol) neu os ydych wedi cael eich cofnodi ar gyfer y prawf anghywir ar y sgrîn.
    • Mae'r papur cwestiwn yn anghyflawn neu wedi'i argraffu yn wael
    • Rydych chi'n profi oedi system neu anghysondebau TG eraill yn ystod prawf ar sgrîn.
  4. Darllenwch y cyfarwyddiadau ar eich papur arholiad a/neu'r llyfryn ateb neu ar y sgrîn yn ofalus.
  5. Ar gyfer arholiadau ysgrifenedig, llenwch yr holl fanylion sydd eu hangen ar flaen y papur cwestiynau a/neu'r llyfryn ateb cyn i chi ddechrau'r arholiad. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n llenwi'r manylion hyn ar unrhyw daflenni ateb ychwanegol yr ydych yn eu defnyddio.
  6. Ar gyfer arholiadau ysgrifenedig, gwnewch yn siŵr eich bod yn ysgrifennu eich atebion o fewn yr adrannau dynodedig y llyfryn ateb.
  7. Ar gyfer profion ar sgrîn, efallai y cewch chi bapur cwestiwn neu efallai y bydd y cyfarwyddiadau ar y sgrîn. Yn y naill achos neu'r llall, darllenwch bopeth yn ofalus a dilynwch y cyfarwyddiadau.
  8. Ar gyfer profion ar sgrîn sicrhewch fod y manylion personol yn gywir cyn I chwi gychwyn yr arholiad/prawf. Os yn anghywir, rhowch wybod I’r gouruchwyliwr.
  9. Cwblhewch unrhyw waith bras ar y deunydd ysgrifennu arholiad priodol. Rhowch groes drwy'r gwaith bras a'i gyflwyno gyda'ch atebion.
  10. Rhowch eich llaw i fyny yn ystod yr arholiad:
    • Os oes gennych chi broblem ac yn amau beth ddylech chi ei wneud;
    • Os ydych chi'n teimlo'n sâl;
    • Os ydych angen rhagor o bapur.
  11. Ni ddylech ofyn am unrhyw esboniad o'r cwestiynau.
  12. Dim ond rhybudd 5 munud cyn diwedd yr arholiad y mae'r goruchwylwyr yn cael ei roi, felly eich cyfrifoldeb chi yw cadw llygad ar y cloc a chynllunio'ch amser yn unol â hynny.

Adran D: AR DDIWEDD Y SESIWN

  1. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn cyfarwyddiadau'r goruchwyliwr ac na fyddwch yn gadael yr ystafell nes y bydd y goruchwyliwr yn dweud eich bod yn cael gwneud hynny.
  2. Peidiwch â chymryd unrhyw bapur o'r ystafell arholi. Mae hyn yn cynnwys y papur cwestiwn, llyfrynnau ateb (wedi'u defnyddio neu heb eu defnyddio), gwaith papur bras neu unrhyw ddeunyddiau eraill sydd wedi'u darparu ar gyfer yr arholiad.
  3. Ar gyfer profion ar sgrîn, sicrhewch fod y meddalwedd wedi cau'n iawn ar y diwedd.
  4. Ar gyfer profion ar sgrîn, os oes gofyn ichi argraffu gwaith y tu allan i'r amser a ganiateir ar gyfer y prawf, sicrhewch eich bod yn casglu eich gwaith eich hun yn unig. Ni ddylech rannu'ch gwaith gydag ymgeiswyr eraill.

ADRAN E: Y GORUCHWYLIWR

Peidiwch â thrin y goruchwyliwr fel gelyn - maen nhw'n chwarae rhan allweddol wrth gynnal uniondeb pob proses archwilio ac arholi allanol.

Rôl y goruchwyliwr yw:

  1. sicrhau bod yr holl ymgeiswyr yn cael cyfle cyfartal i arddangos eu galluoedd;
  2. sicrhau diogelwch yr arholiad cyn, yn ystod ac ar ôl yr arholiad;
  3. atal camymddygiad posibl ymgeisydd;
  4. atal methiannau gweinyddol posibl

RHAID gwrando ar y goruchwyliwr - a dilyn eu cyfarwyddiadau bob amser.

ADRAN F: CRYNODEB

Ymgyfarwyddwch â chynnwys y dudalen hon a rhoi sylw arbennig i:

  • Ni chaniateir unrhyw fagiau, ffonau symudol, oriawr glyfar ac ati i mewn i unrhyw un o'n hystafelloedd arholi;
  • Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud trefniadau ymlaen llaw i storio'ch eiddo personol yn ddiogel. Siaradwch â'ch tiwtor am yr opsiynau sydd ar gael i chi.
  • Os ydych chi'n gweld unrhyw un o'n harwyddion 'Arholiadau ar y gweill' yn cael ei arddangos, parchwch nhw a chadw mor dawel â phosibl. Byddwch mewn sefyllfa arholiad eich hun cyn bo hir a byddwch yn disgwyl i eraill barchu'r rheolau, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwneud hynny eich hun;
  • Rhaid i gasys pensiliau fod yn glir;
  • Os ydych chi am fynd a photel o ddiod gyda chi i mewn i'r ystafell arholi, rhaid tynnu pob label i ffwrdd;
  • Ni chaniateir bwyd o gwbl mewn unrhyw ystafell arholi, oni bai bod nodyn meddygol ar y cyd;
  • Rhaid i unrhyw ddeunydd arall anawdurdodedig (e.e. meddyginiaeth) gael ei roi i'r goruchwyliwr cyn i'r arholiad ddechrau;
  • Peidiwch â siarad, neu geisio cyfathrebu ag unrhyw ymgeisydd arall pan fyddwch mewn ystafell arholi;
  • Os ydych chi'n ceisio twyllo, neu dorri'r rheolau mewn unrhyw fodd, gallech gael eich gwahardd - nid yn unig o'r arholiad penodol hwnnw, ond o BOB arholiad.
  • Mae'r holl gyfrifiaduron a ddefnyddir mewn prawf ar sgrîn yn cael eu harolygu ar hap gan staff TGCh i sicrhau nad oes gweithgaredd heb awdurdod wedi digwydd.

Pwyntiau pwysig i'w cofio

  • Dewch a'ch cerdyn adnabod a llun arno
  • Byddwch yn dawel pan ewch i mewn i'r ystafell arholiad
  • Cyrhaeddwch o leiaf 15 munud cyn i'r arholiad ddechrau
  • RHAID gwrando ar y goruchwyliwr - a dilyn eu cyfarwyddiadau BOB AMSER

Beth fyddaf ei angen?

  • Eich cerdyn adnabod â llun arno
  • Yr offer angenrheidiol ar gyfer yr arholiad - e.e. pen ysgrifennu inc du, pensil, cyfrifianellau (ni chaniateir gwybodaeth ar bapur/caeadau)
  • Cas bensiliau/cas sbectol glir - dim ysgrifen arnynt

Beth gaf i ddim mynd i'r arholiad?

  • Bagiau, ffonai symudol, oriawr glyfar neu unrhyw ddyfais cysylltu â'r we
  • Rhaid i ddiodydd fod heb labeli
  • Dim nodiadau neu ddeunyddiau ysgrifennedig

Beth fyddai'n digwydd...

Pe tawn i'n twyllo yn yr a,rholiad neu mewn asesiad?

Bydd unrhyw ddeunydd heb eu awdurdodi yn cael ei gymryd oddi arnoch, a bydd y digwyddiad yn cael ei adrodd i'r bwrdd arholi, a gellwch golli marciau'r arholiad hwnnw ac arholiadau eraill y bwrdd arholi.

Pe tawn i'n mynd â'm ffôn symudol/oriawr glyfar i'r arholiad, neu asesiad?

Bydd yn cael ei gymryd oddi arnoch, a bydd y digwyddiad yn cael ei, adrodd i'r bwrdd arholi, a gellwch golli maciau'r arholiad hwnnw ac arholiadau eraill y bwrdd arholi.

Os ydw i'n hwyr?

Adroddwch i'r dderbynfa, swyddfa arholiadau, neu rhowch wybod i'ch tiwtor ac arhoswch i gael eich goruchwylio. Os ydych chi'n hwyr iawn, mae'n bosib na fyddwch yn cael sefyll yr arholiad, a hyd yn oed os caniateir i chi sefyll yr arholiad efallai na fydd eich papur yn cael ei farcio gan y corff dyfarnu.

Os ydw i'n sal neu angen cymorth?

Rhowch eich llaw i fyny a dywedwch wrth y goruchwyliwr. Yna, bydd y goruchwyliwr yn eich cynorthwyo neu'n ffonio'r adran arholiadau i eglwro'ch amgylchiadau.