Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Eich lles yn y coleg

Yn yr adran hon byddwch yn dysgu am sut rydym yn cefnogi eich lles yn ystod eich amser yn y coleg.

'Screenshot' o boster adduned lles

Adduned Lles

Drwy ein Strategaeth Lles rydym wedi ymrwymo i gefnogi lles ein holl ddysgwyr a staff.

Dewch i wybod mwy...

Rydym yma i'ch helpu chi

Gwyliwch y fideo yma i ddarganfod mwy am y gwasanaethau lles yn eich coleg.

Eich Hwb Lles

Ar EICH Hwb Lles cewch hyd i amrywiaeth eang o wybodaeth i gefnogi eich lles gan gynnwys dolenni i sut y gallwn ni eich helpu chi.

Ewch i'r hwb lles yma.

Amser i Chi

Mae Amser i Chi yn wasanaeth galw heibio cyfrinachol a ddarperir gan Dîm Lles Dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai.

Mae'n gyfle i chi gael sgwrsio â rhywun sy'n barod i wrando arnoch a rhoi cefnogaeth i chi ar amrywiaeth o faterion.

Gall dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai lenwi'r ffurflen hunangyfeirio ar-lein (ar e-Drac neu'r Hwb Lles) neu anfon neges e-bost at y tîm staysafe@gllm.ac.uk. Dylai Dysgwyr Seiliedig ar Waith y Consortiwm gysylltu â'u tiwtor neu'u hasesydd yn gyntaf.

Cliciwch yma i gael gwybod rhagor neu i gysylltu â'r Tîm Lles.

Calendr Lles y Coleg

Mae calendr lles y coleg'n rhoi syniad i chi o'r math o bethau y gallwch eu gwneud bob mis i gefnogi eich lles tra ydych yn y coleg.

Brecwast am ddim

Brecwast yw pryd pwysicaf y dydd. Fel rhan o'n hymrwymiad i wella iechyd a lles, rydym yn treialu cynnig brecwast am ddim i'n dysgwyr.

Llun - Gwener

  • 8.45am - 9.15am*, Ffreutur y Coleg**, Yn ystod y tymor yn unig
  • Dwy dafell o dost â menyn a sudd ffrwythau, NEU ddarn o ffrwyth a sudd ffrwythau

I gael mynediad i'r brecwast:

  • Cofiwch wisgo eich cerdyn adnabod dysgwr a laniard

  • Ewch i'r cownter a dewisiwch eich bwyd

  • Ewch i'r til er mwyn i'r staff wneud cofnod o'ch brecwast

  • Sganiwch y cod QR â'r ffôn symudol a cofnodwch eich rhif dysgwyr neu enw staff

Rhaid i chi gasglu'r brecwast mewn person, a gellir ond darparu un brecwast y dydd.

Byddwch yn ymwybodol o giwiau posibl pan fyddwch yn casglu'r brecwast.

*amrywiaethau posibl yn ddibynnol ar y safle.
** Oherwydd rhesymau hylendid bwyd a diogelwch, bydd y cynnig yn amrywio ar safleoedd sydd heb wasanaeth ffreutur.


Urddas yn ystod Mislif

Gan weithio gyda'n Llysgenhadon Actif, rydym wedi datblygu'r ymgyrch 'Nid yw'n Rhwystr'. Fel rhan o'r ymgyrch hon rydym yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwneud gweithgareddau corfforol gan fod hyn yn lleihau symptomau'r mislif. Y neges yn syml yw na ddylai'r mislif fod yn rhwystr i gymryd rhan mewn addysg na gweithgareddau corfforol. Ochr yn ochr â hyn rydym wedi datblygu sesiynau ymarfer corff y gall dysgwyr eu gwneud o adref.

Cynhyrchion am ddim: Yng Ngrŵp Llandrillo Menai rydym hefyd yn darparu cynhyrchion untro ac amldro ecogyfeillgar AM DDIM, un ai trwy'r Gwasanaethau i Ddysgwyr ar bob campws neu trwy eu dosbarthu i gartrefi'r dysgwyr.

Cliciwch yma i gael gwybod rhagor.

Rhaglen Les a Gweithgaredd Corfforol

Mae gennym raglen les a gweithgareddau corfforol yn y coleg ac mae'r Swyddogion Lles, y Swyddogion Cyfoethogi Profiadau a'r Swyddog Rygbi yn gweithio gyda'r dysgwyr i drefnu amrywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon a gweithgareddau eraill ar bob campws.

Leusa Jones - Mentor Lles

Mererid Davies - Cynghorwr