Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)



Mae Grŵp Llandrillo Menai (GLlM) wedi ymrwymo i ddarparu ystod lawn o addysg bellach a hyfforddiant hygyrch o fewn y gymuned y mae'n ei gwasanaethu. Drwy ei ddarpariaethau dysgu cyffredinol ac ychwanegol, ei nod yw sicrhau bod pob dysgwr cofrestredig yn gallu gwneud cynnydd yn unol â'u dyheadau a'u galluoedd o fewn y cyrsiau a gynigir.

Mae ein Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant yn rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr gyda ADY.

Cysylltwch â ni:

Rydym ar agor Llun-Gwener rhwng 9:00-16:30.

Croesewir gohebiaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg a bydd amseroedd ateb gohebiaeth yn y naill iaith a'r llall yr un fath.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ADY a Chynhwysiant, gallwch gysylltu â'r tîm ar: ady@gllm.ac.uk
neu drwy lenwi’r ffurflen isod: