Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Bydd yr Academi Bêl-droed yn rhoi cyfleoedd a chefnogaeth i chi feithrin eich sgiliau ac ehangu eich profiadau ar y maes chwarae, yn ogystal ag astudio ar gwrs academaidd llawn amser. Mae'r Academi Bêl-droed yn cynnwys chwaraewyr rhwng 16 ac 19 oed.

Nodau'r Academi yw:

  • Darparu amgylchedd lle gall athletwyr o'r radd flaenaf gyfuno astudiaethau academaidd â hyfforddiant o'r safon uchaf a chefnogaeth arbenigol ym maes gwyddor chwaraeon.
  • Ychwanegu gwerth a chynnig atebion i'r sialensiau sy'n wynebu myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau academaidd yn ogystal â chymryd rhan ar lefel uchel mewn rygbi, pêl-droed a phêl-rwyd.
  • Galluogi athletwyr i dderbyn sylw unigol gan wyddonwyr chwaraeon a hyfforddwyr o'r radd flaenaf.
  • Cynnig ystod o gyrsiau academaidd a galwedigaethol o ansawdd uchel i gyd-fynd â'r rhaglenni hyfforddi.

Mae pob aelod o'r Academi yn cael ei gofrestru ar gwrs academaidd llawn amser ac yn manteisio ar gyfleusterau hyfforddi rhagorol y coleg sy'n cynnwys cae 3G maint llawn, llifoleuadau a champfa codi pwysau.

Yn ystod y flwyddyn academaidd, caiff sesiynau hyfforddi pêl-droed eu cyfuno â gwersi a darlithoedd. Mae hyn yn galluogi chwaraewyr i astudio yn ogystal â datblygu eu sgiliau pêl-droed i'r safon uchaf.

Caiff athletwyr eu croesawu i amgylchedd croesawgar ond heriol lle cânt eu gwerthfawrogi a'u parchu, a lle caiff chwaraeon a rhaglenni academaidd eu teilwria i ddiwallu anghenion yr unigolyn. Mae'r Academi'n rhan o Goleg sy'n frwd iawn ei gefnogaeth i chwaraeon a lle mae aelodau'r staff yn cymryd balchder proffesiynol yn y gwasanaethau chwaraeon a ddarperir ganddynt.

Datblygiad Academaidd
Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn astudio ar raglen addysg uwch megis Lefel A neu gwrs galwedigaethol, ond gall pobl ifanc rhwng 18 ac 19 astudio am radd, yn enwedig gradd ym maes Chwaraeon.

Datblygiad Pel-Droed
Mae yna 2 dîm:

  • Tîm yr Academi a'r
  • Sgwad Ddatblygu

Tîm yr Academi yw'r tîm cryfaf ac mae'n cynnwys chwaraewyr sy'n gallu cystadlu ar y lefel uchaf o bêl-droed colegol: Cynghrair ECFA.

Mae'r Sgwad Ddatblygu'n cynnwys chwaraewyr addawol o'r flwyddyn gyntaf a fydd gobeithio'n dod yn aelodau o dîm yr Academi yn eu hail flwyddyn. Mae'r Sgwad Ddatblygu'n chwarae yng nghynghrair ranbarthol yr ECFA, sef un lefel islaw tîm yr Academi.

Yn ogystal â'r ddau dîm cynghrair, mae'r Academi hefyd yn cystadlu am Gwpan Dan 18 Ysgolion Cymru. Mae'r tîm hwn yn cynnwys chwaraewyr o dîm yr Academi a'r Sgwad Ddatblygu sy'n dal i fod yn y grŵp oedran o dan 18.

Mae chwaraewyr yr Academi'n ymarfer 4 gwaith yr wythnos ac yn cael cefnogaeth gan arbenigwyr ym maes gwyddor chwaraeon. Yn ogystal, bydd sesiynau hyfforddi a gemau yn cael ei dadansoddi'n fanwl gan ddefnyddio technoleg fideo.

Rhaglen Hyfforddi
Mae timau'r Academi a'r Sgwad Ddatblygu'n ymarfer 4 diwrnod yr wythnos ac yn cynnwys nifer o wahanol ddisgyblaethau yn eu rhaglen ymarfer arferol

Dydd Llun: 3pm-5pm: Mae'r sgwad yn cwblhau sesiwn codi pwysau yn y gampfa am 45 munud cyn symud i'r cae pêl-droed am ymarfer technegol/tactegol.

Dydd Mawrth: 3pm-5pm: Sesiwn i weithio ar anghenion penodol y tîm mewn perthynas â gemau sydd i ddod. Fel arfer, mae'r sesiwn hwn yn dechrau yn yr ystafell ddosbarth lle caiff meddalwedd dadansoddi fideo'r Academi ei ddefnyddio i edrych yn fanwl ar berfformiad a thynnu sylw at gryfderau a gwendidau.

Mercher: Variable: Mae dydd Mercher yn ddiwrnod gêm gynghrair. Fel arfer, mae gemau cartref yn dechrau am 2pm. Weithiau gall gemau oddi cartref olygu gorfod teithio ymhell, felly mae amseroedd gadael yn amrywio.

Dydd Gwener 2.30pm-4pm: Sesiwn ymarfer technegol//tactegol a gynhelir ar ddydd Gwener, un ai ar y gwair neu ar y cae bob tywydd 3G.