Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Yn y coleg byddwch yn derbyn cefnogaeth i ddatblygu eich sgiliau a’ch annibyniaeth.

Cefnogaeth Addysg Bellach

Darpariaeth Dysgu Cyffredinol

Gall pob dysgwr fanteisio ar ystod eang o wasanaethau’r coleg.

Cymorth Astudio

Mae cymorth astudio ar gael sy'n cynnwys:

  • Sgiliau astudio
  • ⁠Strategaethau Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Cynllunio gwaith
  • ⁠Rheoli amser
  • Meddalwedd arbenigol
  • Sesiynau Llythrennedd/Rhifedd wedi'u targedu

Gall ein staff Llyfrgell+ (Llyfrgell a Thechnolegau Dysgu/ Cefnogi Dysgu) ddarparu cymorth gyda:

  • Sgiliau ysgrifennu academaidd
  • Ymchwilio⁠
  • ⁠Sgiliau TG
  • Technoleg gynorthwyol
  • Sgiliau meddwl yn feirniadol

Asesu a gwneud Trefniadau Mynediad i Arholiadau (EAA)

Mae addasiadau rhesymol yn cynnwys:

  • Amser ychwanegol
  • Darllenydd cyfrifiadurol
  • Darllenydd
  • Cyfnodau gorffwys
  • Prosesu geiriau
  • Papurau ag ysgrifen fras neu wedi'u haddasu
  • Ysgrifennydd
  • Anogwr
  • Mynediad i ystafell lai a rennir / ystafell ar wahân

Mynediad i Dechnoleg Gynorthwyol

Gall technoleg gymorthwyol eich cymorthwyoi gael fynediad at a chwblhau tasgau a’ch galluogi i fod yn fwy annibynnol.

Mae gan bob un o gyfrifiaduron Grŵp Llandrillo Menai y feddalwedd ganlynol:

Mentor Cynhwysiant

Cefnogi dysgwyr i feithrin strategaethau i'w helpu i ddysgu'n annibynnol a chyflawni nodau academaidd

Nyrs y Coleg

Os oes ganddoch gyflwch meddygol bydd Nyrs y Coleg yn yn gweithio efo chi i greu cynllun meddygol i ddiddymu’r rhywstrau i ddysgu.

Mannau Tawel

Mae gan bob un o’n safleoedd fannau penodol gall fod yn fwy cyfforddus i chi dreulio eich amser hamdden.

Cwnsela a Chymorth Lles

Mae cefnogateh Lles yn cynnwys:

  • Cwnselwyr wedi'u lleoli yn y Coleg
  • ⁠Cymorth lles
  • Cymorth budd-daliadau
  • Gwybodaeth ac arweiniad gan y Gwasanaethau i Ddysgwyr.

Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol

Mae’n bosibl y byddwch angen darpariaeth ddysgu ychwanegol os nad yw’r ddarpariaeth dysgu gyffredinol sydd ar gael yn diwallu eich anghenion

Cymorth unigol a gydag eraill yn y dosbarth

Cymorth 1:1 neu gydag eraill yn yr ystafell ddosbarth gan staff cefnogi.

Cymorth unigol yn y dosbarth i bobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol dwys neu gymhleth iawn sydd angen cymorth am y rhan fwyaf o'u hamser yn y dosbarth er mwyn iddynt wneud cynnydd rhesymol. Dyrennir y cymorth hwn ar sail unigol.

Cymorth gofal personol

Ar gyfer dysgwyr ag anghenion corfforol, meddygol neu wybyddol sydd angen cymorth.

Goruchwyliaeth yn ystod amser cinio ac egwyl

Yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn gallwn drefnu cefnogaeth yn ystod amser cinio ac egwyl.

Mentor Cynhwysiant

Ar gyfer dysgwyr sydd ag anghenion cyfathrebu cymdeithasol cymhleth sydd angen cymorth personol er mwyn cadw’n ddiogel, i gymdeithasu, i gynnal eu lles a/neu fanteisio ar gyfleoedd dysgu

Cymorth yn ôl ac ymlaen o'r mannau cludiant (ar y campws)

Cymorth wedi'i dargedu er mwyn symud yn ddiogel o fws y coleg neu dacsi i'r ystafell ddosbarth.

Mynediad at Dechnoleg Gynorthwyol arbenigol (e.e. Jaws, SuperNova ayyb)

Ar gyfer pobl ifanc sydd angen offer arbenigol er mwyn gwneud cynnydd rhesymol ar eu cwrs. Mae'r offer sydd ar gael yn cynnwys: gliniaduron/cyfrifiaduron pwrpasol wedi'u llwytho â meddalwedd arbenigol a chymhorthion radio.

Hyfforddiant ymgyfarwyddo

Ar gyfer dysgwyr sydd â nam ar y golwg gallwn gynnig hyfforddiant ymgyfarwyddo o gwmpas y campws.

Cymorth Cyfathrebu

Cymorth gan Gynorthwyydd Cyfathrebu hyfforddedig/cymwysedig e.e. Arwyddwr BSL yn unol ag argymhelliad Athrawon Arbenigol Synhwyraidd Clyw.

Cefnogaeth Addysg Uwch

Gallwch wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) i dalu rhai o’r costau ychwanegol sydd gennych oherwydd problem iechyd meddwl, salwch hirdymor neu unrhyw anabledd arall.

Am wybodaeth pellach ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru: https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/

Cefnogaeth Dysgu yn y Gweithle

Mae cefnogaeth ar gael i ddysgwyr sydd yn dilyn symwysterau seiledig ar waith neu brenstisiaethau. Gallwn deilwra cefnogaeth ac addasiadau rhesymol i ddiwallu eich anghenion a’ch amserlenni unigol.

Gallwch hunan gyfeirio i’r Tîm ADY, neu gan eich aseswyr. Yn dilyn cyfeiriad byddwch yn cael sgwrs efo aloed o’r Tîm ADY i drafod eich anghenion cefnogi. Bydd hyn yn gyfle i adnabod eich anghenion ac ystyried y gefnogaeth sydd ei angen arnoch gall gynnwys cefnogaeth, arweiniad neu dechnoleg gynorthwyol.