Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Pan fyddwch yn trosglwyddo o’r ysgol i’r coleg, bydd ein Cydlynwyr Cefnogi Dysgu yma i’ch cefnogi. Gall y cyfnod yma fod yn gyfnod cyffrous a phryderus ichi a’ch rhieni, gofalwyr neu warchediwaid. Ein nôd yw gwneud eich trosglwyddiad i’r coleg mor llyfn â phosibl; felly mae’n hanfodol bwysig eich bod yn cynllunio o flaen llaw.

Dyma rai ffyrdd y gallwn eich cefnogi i drosglwyddo i’r coleg.

Adolygiadau Blynyddol Ysgol

Byddwn yn mynychu eich adolygiad blynyddol yn yr ysgol. Byddwn yn trafod yr hyn y gallwch ei ddisgwyl o ran cefnogaeth yn y coleg ar ôl i ni fynychu eich adolygiad neu ar ôl ichi gysylltu â ni. Byddwch yn cael gwybodaeth am Ddarpariaeth Ddysgu Cyffredinol a Darpariaeth Dysgu Ychwanegol y coleg.

Cysylltu gyda rhieni, gofalwyr, gwarchediwad ac asiantaethau eraill

Byddwn yn siarad â’ch rhieni, gofalwyr, gwarchediwaid, ac asiantaethau eraill i ystyried y ffordd orau i’ch cefnogi. Unwaith y byddwn wedi derbyn eich caniatâd i’ch ysgol ac asiantaethau perthnasol eraill rannu gwybodaeth gyda ni, byddwn yn gofyn am unrhyw dystiolaeth meddygol neu gefnogi dysgu y byddwn ei angen (fel rhan o’ch cais) er mwyn ein galluogi i ddarparu’r gefnogaeth fwyaf addas yn y coleg.

Proffil Un Tudalen a Cynllun Datblygu Unigol

Bydd y proffil un tudalen neu’r Cynllun Datblygu Unigol yn cael ei greu neu ei ddiweddaru. Byddwn yn datblygu eich cynllun yn flynyddol.

Digwyddiadau agored, ymweliadau a theithiau o gwmpas y coleg

Gallwn gynnig cefnogaeth yn ystod digwyddiadau agored. Gallwn hefyd drefnu teithiau ac ymweliadau personol â’r coleg i’ch helpu i ddod i adnabod y campws.

Holiadur Anghenion Dysgu Ychwanegol

Er mwyn ein galluogi i asesu eich angehnion cefnogi byddwn yn anfon Holiadur Anghenion Dysgu Ychwanegol atoch i’w lenwi; bydd hyn yn ein helpu i ddeall y ffordd orau i’ch cefnogi yn ystod eich cyfnod yn y coleg.