Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Rydym yma i'ch helpu

Oes arnoch chi angen cymorth gyda'ch sgiliau llythrennedd a'ch sgiliau rhifedd?
Mae darllen, ysgrifennu, mathemateg a TGCh yn sgiliau hanfodol ac mae pawb yn eu defnyddio bob dydd. Gallwn eich helpu i wella'ch dull o ysgrifennu'ch aseiniadau neu'ch dull o adolygu at asesiadau neu arholiadau. Mae yna lu o gyfleoedd i chi wella'ch sillafu, eich ysgrifennu a'ch sgiliau mathemategol ac i gael graddau TGAU gwell.

Cefnogi Dysgu
Peidiwch â phoeni os byddwch, am ryw reswm neu'i gilydd, yn cael anhawster i astudio oherwydd gallwn gynnig nifer o wasanaethau i'ch helpu i lwyddo. Gall y cymorth fod am gyfnod byr neu drwy gydol eich cwrs; gall fod yn gymorth un-i-un neu'n gymorth mewn grŵp. Gallwch chi neu'ch Tiwtor Personol gael gair â'r Tîm Cefnogi Dysgu i wybod rhagor am offer arbenigol ac am asesu anawsterau penodol fel dyslecsia. Gall y Coleg hefyd wneud trefniadau ychwanegol gyda byrddau arholi.

Cyfleusterau a Chymorth i Bobl Anabl
Mae'r Colegau yn gwbl gynhwysol ac yn rhoi cyfle cyfartal i bawb. Gall pob campws roi cymorth pwrpasol i ddysgwyr sydd â diffyg ar eu golwg neu ar eu clyw neu sydd angen help llaw i symud o gwmpas. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Tîm Cefnogi Dysgu ar eich campws.

Profiad o fod mewn gofal
Defnyddiwn y term 'profiad o fod mewn gofal' i gwmpasu amrediad o amgylchiadau byw gwahanol. Efallai y byddwch chi wedi clywed y termau Plentyn sy'n Derbyn Gofal/ Person sy'n Gadael Gofal. Efallai fod gennych chi, neu y bu gennych chi, weithiwr cymdeithasol, cynghorydd personol neu efallai eich bod chi'n cofio mynd i gyfarfodydd o'r enw adolygiadau Plentyn sy'n Derbyn Gofal neu gyfarfodydd Cynllun Addysg Personol.

Lle bo ymgeisydd neu ddysgwr wedi'i adnabod fel unigolyn â phrofiad o fod mewn gofal byddwn yn darparu'r cymorth canlynol:

  • Unigolyn cyswllt dynodedig a fydd yn cefnogi'r pontio ac yn gweithredu fel cyswllt rhwng yr ymgeisydd/dysgwr a'r tîm addysg ac unrhyw asiantaethau cymorth, fel bo'n briodol, a chyfrannu at unrhyw adolygiadau Cynllun Addysg Personol

  • Cymorth ariannol ar ffurf bwrsariaethau a chymorth â chostau offer hanfodol. Rhoddir bwrsari ychwanegol i ddysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal sy'n graddio er mwyn cyfrannu at gostau graddio

Gall ymgeiswyr nodi eu profiad o fod mewn gofal ar y ffurflen gais neu drwy gysylltu â ni trwy: staysafe@gllm.ac.uk

Gofalwyr Ifanc / Gofalwyr sy'n Oedolion Ifanc
Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, rydym yn deall y gall bod yn ofalwr fod yn heriol iawn. Os oes gennych gyfrifoldebau gofalu, rydym yn ymroddedig i gefnogi eich lles cyffredinol ac i'ch helpu i gydbwyso eich addysg â'ch cyfrifoldebau gofalu.

Gall Gofalwyr Ifanc / Gofalwyr sy'n Oedolion Ifanc sy'n astudio gyda ni gael mynediad at gymorth ar unrhyw adeg drwy siarad â'u tiwtoriaid personol, drwy ffonio'r Gwasanaethau i Ddysgwyr neu anfon e-bost i staysafe@gllm.ac.uk

Os hoffech ragor o wybodaeth cyn dechrau yn y coleg, anfonwch e-bost i staysafe@gllm.ac.uk

Cymorth a Lles Personol

Tiwtor Personol
Pwrpas Tiwtoriaid Personol yw gwneud yn siŵr eich bod yn dod i arfer â bywyd Coleg. Bydd eich tiwtor yn eich helpu i ddatrys unrhyw broblemau a all fod gennych o ran astudio, a bydd yn cynllunio ac yn adolygu'r cynnydd a wnewch er mwyn sicrhau eich bod yn cyflawni'ch amcanion.

Cadw'n Ddiogel
Os teimlwch eich bod yn cael eich trin yn annheg neu'n cael eich harasio, gallwch gael cyngor cyfrinachol a chefnogaeth gan y Tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr.

Cymorth a Chwnsela Cyfrinachol
Mae cymorth ar gael i fyfyrwyr sy'n cael problemau dwys yn bersonol, yn emosiynol neu o ran eu lles. Mae staff cymwysedig wrth law i gynnig cefnogaeth gyfrinachol i'ch helpu drwy gyfnod anodd neu argyfwng personol. Os hoffech gael sgwrs, galwch heibio'r Uned Gwasanaethau i Ddysgwyr ar eich campws a holwch am y Cynghorydd Myfyrwyr neu Gydlynydd Lles y Myfyrwyr.

Anogwyr Dysgu
Mae yna Anogwyr Dysgu cymwysedig wrth law i weithio gyda myfyrwyr er mwyn gwella eu presenoldeb a'u sgiliau bywyd (e.e. bod yn brydlon). Byddant yn helpu myfyrwyr i fagu hyder a gwella eu cymhelliant a'u hagwedd at ddysgu. Gall myfyrwyr elwa ar wasanaeth yr Anogwyr Dysgu drwy fynd i sesiynau galw heibio. Gall Tiwtoriaid Personol hefyd gyfeirio myfyrwyr i gael cymorth.

Llais y Dysgwyr
Fel myfyriwr, cewch gyfle i ddweud eich dweud ynghylch y modd y caiff eich Coleg ei redeg. Fe wnawn yn siŵr y byddwch yn gwybod ble i gael gwybodaeth a sut i leisio'ch barn ar wahanol bynciau. Byddwn yn gwrando arnoch ac yn dweud wrthych beth wnaethom yn sgil eich sylwadau.

Gwasanaethau Myfyriwr

Mae’r Colegau yn darparu amrywiaeth eang o wybodaeth a gwasanaethau i’ch helpu i wneud y penderfyniadau cywir cyn ac yn ystod eich cyfnod yn y Coleg.

Pa gampws bynnag y byddwch yn ei fynychu, bydd y Tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr yn rhyw fath o siop un-alwad i chi er mwyn i chi gael gwybodaeth am bob mathau o bynciau:

  • Cyngor ar sut i gynllunio rhaglen ddysgu bersonol
  • Cyngor ar sut i wneud cais am le ar gwrs, a gwybodaeth am y gofynion mynediad
  • Gwybodaeth am ffioedd cwrs
  • Cyngor ar sut i wneud cais am fenthyciadau a grantiau

Rydym hefyd yn cynnig cymorth ac arweiniad yn y meysydd a ganlyn:

  • Cyfleoedd hyfforddi
  • Cyngor gyrfaol
  • Addysg uwch
  • Swyddi, a phrofiad gwaith i raddedigion
  • Iechyd a lles