Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Urddas yn ystod Mislif

Gan weithio gyda'n Llysgenhadon Actif rydym wedi datblygu'r ymgyrch 'Ni yw’n rhwystr'.

Yng Ngrŵp Llandrillo Menai gall dysgwyr gael cynnyrch mislif am ddim i oresgyn y rhwystrau hyn, ond gwyddom fod rhagor y gallwn ei wneud i fynd i'r afael ag oblygiadau ariannol tlodi mislif.

Rydym wedi lansio'r ymgyrch "Urddas yn ystod Mislif" i gael gwared ar yr hyn sy'n rhwystr diangen i addysg ac i annog dysgwyr i ddelio'n hyderus â'u mislif. Rydym hefyd am gael gwared ar y tabŵs sy'n gysylltiedig â mislif ac i wneud sgyrsiau am fislif yn fwy arferol, fel nad yw dysgwyr yn teimlo embaras neu gywilydd wrth ofyn am help.

Gan weithio gyda'n Llysgenhadon Actif rydym wedi datblygu'r ymgyrch 'Ni yw’n rhwystr'.

Logo Nid yw'n rhwystr

Cynhyrchion Mislif AM DDIM i Ddysgwyr - Danfon i’r Cartref

Mae gennym gynnyrch mislif AM DDIM a dillad sbâr ar bob safle hefyd

Yn rhan o’n hymrwymiad i gefnogi lles, mae ystod o gynnyrch mislif a dillad sbâr ar gael AM DDIM i ddysgwyr ar bob un o safleoedd y coleg.

Cynhyrchion mislif am ddim yn cael eu danfon i'ch cartref

Os ydych chi'n ddysgwr addysg bellach, gallwch gael cynhyrchion mislif AM DDIM wedi'u dosbarthu'n uniongyrchol i'ch cartref. Byddwch yn cael digon o gyflenwadau am o leiaf 4 mis yn ogystal â rhai cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio!

Mae yna ddewis o gynhyrchion defnydd untro ECO GYFEILLGAR (padiau a/neu damponau) YN OGYSTAL Â chynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio (padiau, dillad isaf mislif neu gwpanau mislif).

https://www.heygirls.co.uk/gllm-home-packs-page/

Cynnyrch mislif AM DDIM a dillad sbâr - YN Y COLEG

Gall unrhyw un alw heibio’r Gwasanaethau i Ddysgwyr ar UNRHYW UN o safleoedd y coleg i gael:

  • Padiau a thamponau
  • Dillad isaf mislif
  • Cwpanau mislif
  • Nicers
  • Teits
  • Legins
  • Bagiau

Mae’r rhaglen hon wedi’i datblygu gyda chyllid Llywodraeth Cymru i hyrwyddo urddas y mislif ledled Cymru.

Mae 'Tlodi Mislif' yn destun pryder cynyddol. Yn ôl arolwg gan elusen Plan International mae 1 o bob 10 merch rhwng 14 a 21 oed yn methu fforddio prynu cynnyrch mislif. Oherwydd na allant eu fforddio, mae 12% wedi gorfod addasu neu wneud eu cynnyrch mislif eu hunain, ac mae 49% wedi colli o leiaf un diwrnod o ysgol neu goleg oherwydd eu bod ar eu mislif. Dywedodd 68% eu bod yn methu canolbwyntio yn y dosbarth.

Yn Chwefror 2019, cyn y cyfnod clo a chyfyngiadau'r llywodraeth, fe wnaethom ni ffilmio a chyfweld athletwyr amrywiol o bob cwr o Ogledd Cymru i rannu eu profiadau am ddelio â'u mislif tra hefyd yn hyfforddi.

Fel rhan o'r ymgyrch hon rydym am dynnu sylw at bwysigrwydd gwneud gweithgareddau corfforol gan fod hyn yn lleihau symptomau'r mislif. Y neges yn syml yw na ddylai'r mislif fod yn rhwystr i gymryd rhan mewn addysg na gweithgareddau corfforol.

Ochr yn ochr â hyn rydym wedi datblygu sesiynau ymarfer corff y gall dysgwyr eu gwneud am ddim o adref.

Adnoddau Ymarfer Corff
Yn ogystal â chael gafael ar gynnyrch mislif, yn ôl ein dysgwyr roedd rheoli poen ac anesmwythder hefyd yn rhwystr.

Gan weithio gyda hyfforddwr personol a chyn-fyfyriwr yn GLlM, rydym wedi datblygu 12 o dechnegau ymarfer corff byr i helpu gyda hyn.

Ceir ymarfer gwahanol ar gyfer bob mis, ac fe all y rhain helpu i leddfu peth o'r anesmwythder. Gallwch roi cynnig arnynt gartref, gyda ffrindiau neu ar eich pen eich hun – beth bynnag sy'n gweithio orau i chi.

Rhowch gynnig arni gan dagio @GLLMLles #GLLMLles. Defnyddiwch y GIF 'Nid yw’n rhwystr’ ar Instagram.