LLYSGENNAD ACTIF A LLES
Adeiladu cymunedau cryfach
Lluniwyd y Rhaglen Llysgenhadon Actif a Lles i feithrin arweinwyr y dyfodol yng Ngrŵp Llandrillo Menai, ac i hyrwyddo pwysigrwydd iechyd a lles a chymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol.
Nid oes angen i'r dysgwyr sy'n ymuno â'r rhaglen fod yn athletwyr o'r radd flaenaf. Yn hytrach, anelir y rhaglen at ddysgwyr brwdfrydig yng Ngrŵp Llandrillo Menai sy'n awyddus i wneud gwahaniaeth yn eu coleg a'u cymunedau lleol.
Yn ystod y rhaglen byddwch yn:
- Hyrwyddo gweithgareddau corfforol i bobl ifanc yn eich coleg a'ch cymuned;
- Hyrwyddo gwerth cadarnhaol gweithgareddau corfforol;
- Bod yn fodel rôl sy'n hyrwyddo lles a ffyrdd iach o fyw;
- Cynyddu cyfleoedd i bawb gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a byw'n iach.
Y Mathau o Raglenni
Mae pum rhaglen Llysgennad Actif a Lles i'w cael, a phob un yn canolbwyntio ar ddiddordebau a sgiliau penodol. Y bwriad yw denu ystod eang o sgiliau a gallu, a chynnig rhaglen sy'n gynhwysol ac amrywiol.
- Gwirfoddolwyr mewn Digwyddiadau
- Arweinwyr Actif
- Hyfforddwyr
- Swyddogion
- Rheolwyr
Cyfleoedd
Yn ystod y rhaglen byddwch yn gallu:
- cyflawni oriau gwirfoddoli yn y gymuned;
- cael mynediad at gyfleoedd a chefnogaeth
- cymryd rhan mewn prosiectau
- cael hyfforddiant ac ennill cymwysterau ychwanegol
Y Bartneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru
Ar y cyd â rhaglen hwb Undeb Rygbi Cymru, sy'n anelu at dyfu, datblygu a gwella'r gêm genedlaethol ac ehangu ei hapêl, mae Grŵp Llandrillo Menai wedi cyflogi Swyddog Hybu Rygbi. Bydd hyn yn sicrhau bod rygbi'n gêm gynhwysol sy'n ennyn diddordeb chwaraewyr gwrywaidd a benywaidd o bob oedran a charfan o gymdeithas, beth bynnag fo'u cymhelliant a/neu angen.
Gweithgareddau'r tymor hwn
Bydd amrywiaeth eang o weithgareddau'n cael eu cynnal yn ystod y tymor i'ch annog i gymryd rhan yn y Rhaglen Llysgenhadon Actif a Lles.
Gwybodaeth bellach
I gael gwybod rhagor am y cynllun, yn cynnwys gweithgareddau Llysgenhadon Actif a Lles blaenorol y Grŵp, cysylltwch Paula Roberts, Rheolwr Prosiect Lles, drwy ebos: robert11p@gllm.ac.uk
- Ebost: robert11p@gllm.ac.uk
- Twitter: @gllmrygbi
- Instagram: gllmrygbi
- YouTube