Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Os ydych yn fyfyriwr Addysg Bellach llawn amser sydd:

  • yn iau na 19 mlwydd oed ar 31 Awst 2023,
  • yn byw yn siroedd bwrdeistrefol Conwy neu Ddinbych
  • yn byw dros dair milltir o gampws y Coleg yr ydych yn ei fynychu

... yna byddwch yn gymwys i gael tocyn bws am ddim i'ch galluogi i deithio yn ôl ac ymlaen i'ch capws agosaf ar fysiau a ddarperir gan y Cyngor.



Teithio mewn car:

Mae cyfleusterau parcio i'w cael ar bob un o brif gampysau'r Grŵp, ac ni chodir tâl arnoch am barcio.

Ar gampws Llandrillo-yn-Rhos ceir tri phwynt gwefru trydan y gall y staff a'r myfyrwyr eu defnyddio am ffi o 25c y kWh (i ddefnyddio'r cyfleuster hwn bydd angen i chi lawrlwytho'r ap Electric Blue).

Teithio ar fws y coleg:

Cod Ymddygiad Teithio Coleg

Ni fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol a drwg ar gludiant coleg yn cael ei oddef. Bydd troseddwyr cyson a/neu ddifrifol yn colli eu hawl i deithio ar holl gludiant y coleg.

Bydd y coleg yn monitro ymddygiad ar fysiau ac yn dilyn gweithdrefnau disgyblu'r coleg lle bo angen.