Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Nod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw cydweithio gyda phrifysgolion a cholegau Addysg Bellach (gan gynnwys Dysgu Seiliedig ar Waith) yng Nghymru er mwyn cynnig mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a defnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol.

Gellir gweld mwy am y Coleg ar eu gwefan - https://www.colegcymraeg.ac.uk

BETH YW CANGEN?

Mae’r canghennau’n rhan allweddol o drefniadaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ogystal â datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn prifysgolion a cholegau addysg bellach. Nod y canghennau yw cefnogi gwaith y Coleg a gweithredu fel pwynt cyswllt lleol ar gyfer myfyrwyr a staff. Sefydlwyd Cangen Grŵp Llandrillo Menai ym mis Medi 2020, ac mae’r gangen hon yn gwasanaethu holl gampysau’r Grŵp. Mae’r Gangen yn gyfuniad o bedwar is-bwyllgor, sef is-bwyllgor Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor, Coleg Llandrillo a Busnes@. Mae’r aelodau yn amrywio o ran eu gallu ieithyddol a’u swyddi; boed yn is-benaethiaid, yn reolwyr maes rhaglen, darlithwyr, swyddogion cefnogi ac ati; y gwahaniaethau hyn sy’n creu’r darlun go iawn o sefyllfa’r iaith ac anghenion yr iaith ym mhob Coleg. Mae’r is-bwyllgorau yn cyfarfod ddwywaith y tymor er mwyn trafod yr hyn sydd ei angen ar gyfer cynyddu defnydd y Gymraeg, boed y gefnogaeth i ddysgwyr, darpariaeth i staff, rhannu adnoddau, rhannu arfer dda, trafod pryderon neu heriau. Drwy gydweithio â’n gilydd, gallwn weithredu er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn a hybu a hyrwyddo defnydd effeithiol o’r Gymraeg.

SWYDDOGION CANGEN

Mae dwy Swyddog Cangen yn gweithio i Grŵp Llandrillo Menai, sef Sara Edwards a Leusa Jones. Blaenoriaethau Sara a Leusa yw cefnogi a chynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg y Grŵp a chynnal amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau (o fewn cyrsiau ac yn allgyrsiol) er mwyn hybu a hyrwyddo defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg. Maent yn ymdrechu i gynyddu presenoldeb y Coleg Cymraeg ar draws y Grŵp gan gydweithio â staff a myfyrwyr er mwyn rhannu syniadau ac arferion da. Y Swyddog Cangen yw’r cyswllt cyntaf rhwng y Coleg Cymraeg a’r Grŵp er mwyn sicrhau bod llais a barn staff a myfyrwyr yn cael eu clywed a’u gweithredu. Mae Sara a Lausa yn trefnu amrywiaethau o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol ar draws y Grŵp. I gael gwybod beth sydd ar y gweill, edrychwch ar y calendr cyfoethogi profiadau’r dysgwr.

Sara Edwards - Swyddog Cangen Coleg Llandrillo

  • E-bost: edward4s@gllm.ac.uk
  • Lleoliad: Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos
  • Oriau gwaith: Dydd Llun - Dydd Mercher, 8:30 - 16:30
Leusa Jones

Leusa Jones - Swyddog Cangen Coleg Menai a Meirion Dwyfor

  • E-mail: jones32l@gllm.ac.uk
  • Lleoliad: Coleg Menai and Coleg Meirion-Dwyfor
  • Oriau gwaith: Dydd Llun - Dydd Mercher 8:30 - 16:30

LLYSGENHADON ADDYSG BELLACH A PHRENTISIAETHAU

Mae gan y Coleg raglen Llysgenhadon Addysg Bellach a Phrentisiaethau. Nod y rhaglen yw sicrhau rhwydwaith o lysgenhadon ledled sefydliadau addysg bellach Cymru i hyrwyddo’r cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu sefydliad ac i astudio’n ddwyieithog.

Mae gan Grŵp Llandrillo Menai dri Llysgenad Dysgwyr ac un Llysgennad Prentis. Maen nhw’n cefnogi gwaith y Swyddogion Cangen ac yn annog eu cyfoedion i astudio a byw drwy gyfrwng y Gymraeg; beth bynnag fo’u gallu ieithyddol. I wybod mwy amdanynt neu os hoffech wneud cais i fod yn rhan o’r cynllun cenedlaethol hwn yn y dyfodol, ewch ar ein cyfryngau cymdeithasol.

  • Megan Jones - Lefel 3 Amaethyddiaeth - Coleg Glynllifon
  • Teleri Griffiths - Lefel 3 Amaethyddiaeth - Coleg Glynllifon
  • Gethin Roberts - Lefel 3 Amaethyddiaeth - Coleg Glynllifon
  • Rhian Williams - Lefel 3 Addysg Gorfforol - Coleg Llandrillo

DARPARIAETH CYFRWNG CYMRAEG A DWYIEITHOG

Mae nifer o gyfleoedd i astudio’n ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg yng Ngrŵp Llandrillo Menai ar gyrsiau addysg bellach, addysg uwch a phrentisiaethau. Mae’r dudalen gyrsiau ar ein gwefan yn nodi ble mae darpariaeth ddwyieithog ar gael. Defnyddiwch y chwilydd cyrsiau i ganfod rhagor.

CEFNOGAETH GYDA’R GYMRAEG

Mae llawer iawn o gefnogaeth ar gael i ddysgwyr astudio yn Gymraeg neu’n ddwyieithog yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Mae’r Grŵp wedi creu gwefan o’r enw ‘Cefnogaeth gyda’r Gymraeg’ yn benodol ar gyfer myfyrwyr y Coleg. Yno ceir gwybodaeth am hawliau’r dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, gwybodaeth am y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Swyddogion Cangen, adnoddau defnyddiol i helpu’r dysgwyr i ysgrifennu’n Gymraeg ac yn ddwyieithog yn ogystal ag adnoddau fesul pwnc.

Dyma linc i’r wefan - Cefnogaeth Gyda'r Gymraeg

MANTEISION ASTUDIO DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

  • Agor y drws i fwy o swyddi.
  • Ennill cyflog uwch.
  • Datblygu sgiliau meddwl uwch.
  • Llwyddo’n well yn yr ysgol / coleg.
  • Cynnig gwasanaeth gwych i gwsmeriaid.
  • Mae’n haws dysgu iaith arall os ydych yn ddwyieithog.
  • Magu hyder a chael dau ddiwylliant.
  • Atal dechreuad symptomau dementia a hybu gwellhad cyflymach yn dilyn strôc.
  • Siawns uwch o gael swydd gan fod mwy o weithleoedd yn gofyn am siaradwyr Cymraeg.
  • Gallu manteisio ar ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Taith Iaith Holly Whitehouse yng Ngholeg Llandrillo

Mae Holly yn fyfyriwr Coleg Llandrillo, a chyn Lysgennad Dysgwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd yn astudio’r cwrs Trin Gwallt NVQ Lefel 3. Mae Holly yn siarad Cymraeg yn y Coleg efo’i thiwtoriaid a weithiau rhai cleientiaid sydd yn dod i mewn i’r salon.

Dyweda Holly:

"Mae astudio’n ddwyieithog yn help mawr i mi gan fy mod yn gallu defnyddio y ddwy iaith yn y Coleg. Mae hynny yn fy helpu i i gadw fy Nghymraeg oherwydd does neb adref yn siarad Cymraeg. Dwi’n teimlon falch fy mod i yn gallu siarad Cymraeg, felly mae cael y siawns i’w defnyddio ac astudio yn y Coleg drwy y gyfrwng Gymraeg yn help mawr”.

CADW MEWN CYSYLLTIAD

Mae modd dilyn y Gangen ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd:

  • Twitter @SCGLlM

  • Instagram: @cangengllm a @llysgenhadongllm

Os hoffech ragor o wybodaeth am waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y Grŵp, y cyfleoedd sydd ar gael neu i ymaelodi â’r Gangen, byddai Sara a Catrin yn falch o glywed gennych.