Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Calendr Dysgwyr

Digwyddiadau myfyrwyr sydd i ddod

Noder: Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Bydd rhai o'r cysylltiadau isod yn mynd a chi i wefannau allanol uniaith Saesneg.

Dewch i weld digwyddiadau myfyrwyr sydd wedi bod

Mer 10 Medi

Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd

Dydd Mercher 10 Medi 2025


Mae Medi 10fed yn Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd - amser i godi ymwybyddiaeth ac annog sgyrsiau am iechyd meddwl. Os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl, mae'n bwysig eich bod yn gwybod nad ydych ar eich pen eich hun.

Mae Tîm Lles y Grŵp yma i'ch cefnogi. Gallwch estyn allan drwy e-bost staysafe@gllm.ac.uk, neu os yw'n well gennych, gallwch alw i mewn i Wasanaethau i Ddysgwyr a gofyn am gael gweld aelod o'r tîm lles. Isod mae'r pwyntiau cyswllt ar gyfer pob campws:

Coleg Llandrillo: Tam Jones - Cydlynydd Cefnogi Myfyrwyr
Coleg Menai: Sioned Fever - Swyddog Lles
Rhyl: Kieran Homer - Swyddog Lles
Coleg Meirion Dwyfor: Alison Margaret Davies - Swyddog Lles

Rydym yn eich annog i geisio cymorth os oes ei angen arnoch, a chofiwch ei bod yn iawn gofyn am help.

Llun 15 Medi

Ty’d Am Sgwrs Cyn Gadael Cwrs

Dydd Llun 15 Medi 2025 - Dydd Sadwrn 20 Medi 2025


Wyt ti wedi dechrau cwrs yn y coleg, ond ddim yn siŵr a wyt ti wedi gwneud y dewis iawn?

Dydi hi ddim yn rhy hwyr i newid dy gwrs os wyt ti'n ailfeddwl.

Tyrd i siarad â ni – rydyn ni yma i helpu.

Bydd cynghorwyr cyfeillgar ein Gwasanaeth i Ddysgwyr yn rhoi cyngor diduedd i ti er mwyn dy helpu i wneud y penderfyniad sy'n iawn i ti.

Os wyt ti'n ystyried newid dy gwrs neu adael y coleg, llenwa'r Google Form erbyn 27 Medi neu siarada â dy diwtor personol, a bydd rhywun o’r Gwasanaethau i Ddysgwyr yn cysylltu â thi.

Bydd y Google Form ar gael hefyd drwy ddolen ar eDrac y Dysgwyr, neu mae croeso i ti alw heibio i'r Gwasanaeth i Ddysgwyr ar dy gampws.


Maw 16 Medi

Diwrnod Owain Glyndŵr

Dydd Mawrth 16 Medi 2025


Mae Diwrnod Owain Glyndŵr, sy’n cael ei ddathlu pob blwyddyn ar 16 Medi, yn coffáu bywyd Owain Glyndŵr fel Tywysog Cymru ym 1400, gan nodi eiliad bwysig yn hanes Cymru. Roedd Glyndŵr, yr unig Gymro i gynnal y teitl hwn, yn symbol o falchder cenedlaethol a gwrthwynebiad yn erbyn rheolaeth Saesneg. Mae ei etifeddiaeth sy’n cael ei ddathlu ers canrifoedd, yn enwedig o'r 19eg ganrif ymlaen, wedi tyfu'n symbol o hunaniaeth ac annibyniaeth Cymru.




Gwe 19 Medi

Diwrnod Rhyngwladol Heddwch

Dydd Gwener 19 Medi 2025


Mae Diwrnod Rhyngwladol Heddwch, a gaiff ei ddathlu ar 21 Medi bob blwyddyn, yn ddiwrnod a ddynodwyd gan y Cenhedloedd Unedig i hyrwyddo heddwch a diffyg rhyfel a thrais ledled y byd. Mae'n annog cenhedloedd a phobl i gymryd rhan mewn deialog heddychlon, rhoi'r gorau i elyniaeth, a gweithio gyda'i gilydd i adeiladu byd mwy cyfiawn a chynaliadwy. Mae'r diwrnod hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd hawliau dynol, cydraddoldeb a chydweithrediad. Pob blwyddyn mae thema benodol sy'n adlewyrchu heriau byd-eang cyfredol sy'n gysylltiedig â heddwch a diogelwch.

https://www.un.org/en/observances/international-day-peace

Mer 01 Hyd

Mis Ymwybyddiaeth ADHD

Dydd Mercher 01 Hydref 2025 - Dydd Gwener 31 Hydref 2025


Mis Hydref yw Mis Ymwybyddiaeth ADHD


Mae ymennydd sydd ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) yn gweithio'n wahanol. Mae gan bobl sydd ag ADHD bresbectif unigryw sydd yn werthfawr a diddorol i eraill.

Mae ADHD yn helpu gyda meddwl yn wahanol a gallu creadigol sy'n helpu gyda chyflawniadau yn y byd go iawn.

Mae ymchwil yn dangos bod rhai o nodweddion ADHD yn cynnwys egni uchel, creadigrwydd, gor-ganolbwyntio, hawddgarwch, empathi, a pharodrwydd i helpu eraill.

Pan fydd pobl yn angerddol i gyrraedd nod, mae eu hegni ADHD yn gyrru eu perfformiad a’u cynhyrchiant.

Mae pobl lwyddiannus sydd ag ADHD yn aml yn llwyddo oherwydd bod nodweddion cadarnhaol eu ADHD yn eu helpu i ffynnu.

Mae pobl enwog sydd ag ADHD yn cynnwys: (Cynnwys Lluniau)

Emma Watson
Ryan Gosling
Will Smith
Michael Phelps
Will.i.am
Justin Timberlake
John Lennon
Walt Disney

Mer 01 Hyd

Mis Hanes Pobl Ddu

Dydd Mercher 01 Hydref 2025 - Dydd Gwener 31 Hydref 2025


Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn cael ei ddathlu bob mis Hydref yn y DU. Mae'n amser i gydnabod, dathlu a myfyrio ar gyflawniadau, cyfraniadau a hanes pobl Dduon ym Mhrydain ac o gwmpas y byd. Mae'r mis yn tynnu sylw at straeon sydd wedi cael eu hanwybyddu'n rhy aml, ac mae'n darparu llwyfan i ddathlu unigolion a chymunedau sydd wedi llunio hanes trwy wydnwch, arweinyddiaeth, creadigrwydd a dewrder.

https://www.blackhistorymonth.org.uk

Llun 06 Hyd

Wythnos Ymwybyddiaeth Dyslecsia

Dydd Llun 06 Hydref 2025 - Dydd Gwener 10 Hydref 2025

Iau 09 Hyd

Diwrnod Golwg y Byd

Dydd Iau 09 Hydref 2025


World Sight Day is observed annually on the second Thursday of October. It is a global awareness day dedicated to eye health, the prevention of avoidable blindness, and the promotion of accessible eye care for all. Organised by the International Agency for the Prevention of Blindness (IAPB), the day calls for collective action to ensure that everyone, everywhere, has the right to clear vision and quality eye care.

Gwe 10 Hyd

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd

Dydd Gwener 10 Hydref 2025


Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn rhoi cyfle i siarad am iechyd meddwl yn gyffredinol, sut mae angen i ni ofalu amdano, a pha mor bwysig yw hi i siarad am bethau a chael help os ydych yn cael trafferth. Gall hefyd helpu i godi ymwybyddiaeth am gyflyrau iechyd meddwl a pha gymorth sydd ar gael.

https://meddwl.org/event/diwrn...

Llun 13 Hyd

Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg

Dydd Llun 13 Hydref 2025 - Dydd Gwener 17 Hydref 2025


Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, 12-18Hydref

Unwaith eto eleni, mae Radio Cymru a BBC Cymru Fyw yn cynnal Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg ac eleni mae S4C yn ymuno yn y fenter gydag eitemau ar Prynhawn da a Heno. Dyma flas ar arlwy Radio Cymru:

Sadwrn 12 Hydref

Shelley a Rhydian - Sgwrs Diwrnod Shwmae ym Merthyr Tudful

Sul 13 Hydref

Bore Sul – Doctor Cymraeg yn brif westai

Rhaglen Ffion Dafis – Anne Spooner ac Ewan Smith sef siaradwyr Cymraeg newydd yn adolygu dwy gyfrol ar gyfer dysgwyr. Hefyd sgwrs gyda’r siaradwr newydd Irram Irshad am ei chyfrol dwyieithog o straeon ysbrydion i ddysgwyr.

Caniadaeth y Cysegr – Cael ei gyflwyno gan Y Gwir Barchedig David Morris, Esgob Enlli.

Dei Tomos - Sgwrs efo Carolyn Hodges, sef Golygydd llyfrau Saesneg Gwasg y Lolfa. Sgwrs ddifyr iawn. Wedi dysgu Cymraeg ar ôl clywed Gwreiddiau Dwfn gan Super Furries gafodd hi gan ffrind pan oedd hi’n byw yn Rhufain.

Cymru Fyw - darn gyda ‘Y Doctor Cymraeg’ – Stephen Rule

Llun 14 Hydref

Aled Hughes – Bethan Jones-Ollerton yn lawnsio ymgyrch Hapus i Siarad ar ran Mentrau Iaith Cymru

Dros Ginio – Sgwrs yn edrych ar y berthynas rhwng tiwtor a’r dysgwr, ac yn mynd i fod yn holi’r tiwtor Angharad Lewis a dysgwr Sylfia Strand.

Caryl - Martyn Croydon yn adolygu rhaglenni teledu

Mawrth 15 Hydref (diwrnod Shwmae Su’mae)

Bore Cothi – Siaradwyr Newydd y Gerddorfa

Cymru Fyw - Hanes diwrnod Shwmae Su’mae

Mercher 16 Hydref

Caryl – Siaradwr newydd – Llyfr wrth Ochr Fy ngwely - Elinor Staniforth

Iau 17 Hydref

Cymru Fyw - Dylanwad Daniel Owen wrth ddysgu Cymraeg. Stori Nigel Ruck, y dyn sy'n byw yng nghartref Daniel Owen, a gafodd ei ysbrydoli i ddysgu Cymraeg

Holi’r Cyflwynwyr

Nos Iau, 17 Hydref bydda i’n holi tri o gyflwynwyr Radio Cymru: Emma Walford, Rhys Meirion a Rhodri Llewellyn. Atodir poster a gellir cofrestru yma erbyn 15 Hydref: Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg - Cwrdd â'r cyflwynwyr! | Dysgu Cymraeg. Mae’r sesiwn wedi’i anelu at Canolradd, Uwch a Gloywi.

Podlediad newydd

I lansio Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, bydd Radio Cymru’n cyhoeddi podlediad newydd o’r enw Pont. Mae Dr Angharad Lewis yn holi siaradwyr newydd sydd wedi dysgu mewn dosbarthiadau. Bydd y podlediad cyntaf yn cael ei ryddhau ar Hydref 11eg.

Adnoddau

Os ydych chi’n dysgu lefel Sylfaen, mae rhai o ddeialogau’r cwrs (fersiwn y de ar hyn o bryd) ar gael nawr ar YouTube ar ffurf fideos Vyond. Maen nhw ar gael yma: Sgyrsiau Sylfaen (De Cymru) - YouTube.

Cylchlythyr S4C

Bob mis, mae Sara Peacock yn anfon cylchlythyr dwyieithog allan ar gyfer pobl sy’n dysgu’r Gymraeg. Gellir tanysgrifio i’r cylchlythyr yma: Mailchimp Survey (list-manage.com).

Golwg 360

Yn dilyn llwyddiant eitemau ‘Fy Hoff Raglen’ ar Golwg 360, maen nhw nawr am wneud cyfres o erthygl ar ‘Fy Hoff Le’ ac yn gwahodd dysgwyr i gymryd rhan. Mae’r holl fanylion yma: https://lingo.360.cymru/2024/gynnoch-hoff-nghymru/. Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu gwaith ysgrifennu creadigol yn eich dosbarthiadau, cofiwch am sesiwn Pegi Talfryn ddydd Gwener, 8 Rhagfyr am 2pm. Cofrestrwch ar Academi.

Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam

Bydd Eisteddfod Genedlaethol 2025 yn cael ei lansio yfory ac felly mae’n bryd i ni ddechrau hyrwyddo ein cystadlaethau ni. Dw i wedi atodi PowerPoint i chi ei ddefnyddio.

Mer 15 Hyd

Diwrnod Rhagenwau Rhyngwladol

Dydd Mercher 15 Hydref 2025


Caiff Diwrnod Rhagenwau Rhyngwladol ei nodi’n flynyddol ar drydydd dydd Mercher mis Hydref. Mae’n ddiwrnod i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd parchu a defnyddio rhagenwau cywir pobl. Mae’n hyrwyddo dealltwriaeth o sut mae rhagenwau’n ymwneud â hunaniaeth rhywedd, ac mae’n annog arferion cynhwysol mewn cyfathrebu bob dydd.

Mae defnyddio’r rhagenwau cywir ar gyfer rhywun yn ffordd syml ond pwerus i ddangos parch a chefnogaeth i’w hunaniaeth. Gall gam-ryweddu—defnyddio rhagenwau anghywir—achosi gofid a chyfrannu at deimladau o eithrio cymdeithasol. Mae adnabod a defnyddio rhagenwau dewisol person yn helpu i greu diwylliant lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu gwerthfawrogi a’u deall.

Mae’r diwrnod hwn yn atgof bod iaith yn bwysig, a gall gweithredoedd bach wneud gwahaniaeth mawr wrth greu amgylchedd parchus a chroesawgar i bawb.

Mer 15 Hyd

Diwrnod Shwmae Su’mae

Dydd Mercher 15 Hydref 2025


Diwrnod Shwmae Su’mae - Dolen i'r poster

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date