Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cymorth Ariannol a Chyllid ar gyfer Ymadawyr Ysgol

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol, gallech fod yn gymwys i gael cymorth ariannol i astudio.

Mae'n haws cymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant nag a feddyliwch. Mae yna nifer o ffyrdd y medrwch gael help gyda'r adnoddau y byddwch eu hangen i gwblhau eich cwrs yn llwyddiannus. Mae gennym dîm o gynghorwyr a fydd yn medru eich arwain dryw'r manylion. Mae'r cymorth ariannol a all fod ar gael i chi yn cynnwys:

Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA)


Os ydych yn 16-18 oed ac yn dilyn cwrs am fwy na 12 awr yr wythnos, hwyrach y gallwch gael £40 yr wythnos. Ond mae'r lwfans hwn yn ddibynnol ar brawf modd, felly gofynnwch i'r Tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr am ragor o wybodaeth.

Gallwch ddarganfod mwy am EMA drwy ymweld a gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (GDLlC)

Os ydych yn 19+ oed ac yn byw yng Nghymru, gallwch wneud cais am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru i'ch helpu gyda chostau dilyn eich cwrs. Bydd y swm a delir yn dibynnu ar incwm eich teulu ac ar nifer eich oriau astudio. Mae'r grant hwn yn ddibynnol ar brawf modd, felly gofynnwch i'r Tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr am ragor o wybodaeth.

Gallwch ddarganfod mwy am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru drwy ymweld a gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Cronfa Cefnogi Dysgwyr (LSF)

Mae'r Gronfa Cefnogi Dysgwyr yn darparu cymorth ariannol i ddysgwyr addysg bellach sy'n ei chael hi'n anodd talu rhai o'r costau sy'n gysylltiedig â'u cwrs. Gall y gronfa hon hefyd eich helpu i dalu costau archwiliadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Y Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt), llety mewn hostel, dillad gweithio, citiau, cyfarpar, ffioedd stiwdio, rhai tripiau, teithio i'r coleg a gofal plant. Gall staff y Gwasanaethau i Ddysgwyr roi cyngor a gwybodaeth ynghylch y cymorth ariannol sydd ar gael.

Plentyn sy'n Derbyn Gofal

Mae'n bosibl y bydd myfyriwr sydd wedi cofrestru ar gwrs addysg bellach llawn amser ac yn blentyn sy'n derbyn gofal yn gymwys i gael cymorth ariannol, sy'n amodol ar bresenoldeb ar hyd y flwyddyn.

Cymorth Ariannol a Chyllid ar gyfer Graddau

Bwrsarïau

Isod mae bwrsarïau Grŵp Llandrillo Menai sydd are gael i fyfyrwyr cymwys. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â degrees@gllm.ac.uk.

BwrsariSwmMeini prawfDyddiad Talu
Bwrsari Dilyniant Uniongyrchol Grŵp Llandrillo Menai£1000Pob myfyriwr sy'n symud ymlaen yn syth o raglen Lefel 3 i gwrs AU llawn amser yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Ond ar gael i Fyfyrwyr ar flwyddyn gyntaf eu hastudiaethau.100% ym mis Mai
Bwrsari Iaith Gymraeg (AU)£300Pob myfyriwr sy'n astudio cyrsiau penodol yr addysgir rhannau sylweddol ohonynt drwy gyfrwng y Gymraeg.100% ym mis Mai
Bwrsari Ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf neu MALIC£300Pob myfyriwr sydd wedi cofrestru ar gwrs AU llawn amser ac y mae eu cod post mewn ardal Cymunedau'n Gyntaf.100% ym mis Mai
Profiad o fod mewn gofal£300Pob myfyriwr sydd wedi cofrestru ar gwrs AU llawn amser ac sydd â phrofiad o fod mewn gofalAr hyd y flwyddyn, yn amodol ar bresenoldeb.

Bwrsariaeth Dyfodol Myfyrwyr (Cronfa Cyflogadwyedd wedi'i Dargedu CCAUC)

Gall myfyrwyr Addysg Uwch o grwpiau a dangynrychiolir fod yn gymwys i gael bwrsariaeth Dyfodol Myfyrwyr i’w cynorthwyo i fynd ar brofiad gwaith a datblygu sgiliau cyflogadwyedd. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost i dyfodolmyfyrwyr@gllm.ac.uk

Cynllun Hepgor Ffioedd i Israddedigion Rhan-Amser

Gall myfyrwyr rhan-amser sy'n astudio rhaglen o fodiwlau sy'n werth llai na 30 credyd fod yn gymwys i wneud cais am grant hepgor ffioedd CCAUC. I gael rhagor o wybodaeth anfonwch neges e-bost i degrees@gllm.ac.uk.

Eithriad a gostyngiad ar Dreth y Cyngor

Ydych chi wedi ystyried a ydych yn gymwys i gael eich eithrio neu gael gostyngiad ar Dreth y Cyngor? Edrychwch ar wefan y Llywodraeth i gael rhagor o wybodaeth.

https://gov.wales/council-tax-discounts-and-reduction/students

Os ydych yn gwneud cais am eithriad neu ostyngiad ar Dreth y Cyngor, gallwch ofyn am ffurflen 'Cadarnhau Statws Myfyriwr' gan y Coleg a fydd yn rhoi cadarnhad o'ch statws fel myfyriwr cofrestredig i'r Awdurdod Lleol. Siaradwch â staff yr adran Gwasanaethau i Ddysgwyr am fwy o wybodaeth.

Datganiad ar yr Iaith Gymraeg

Cyhoeddir yr holl ddogfennau sy'n ymwneud ag ymgeisio am grant, bwrsariaeth neu gymorth ariannol i ymgeiswyr unigol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg ac nid ydynt yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r ceisiadau a gyflwynir yn Saesneg. Os bydd rhaid cyfweld ymgeiswyr unigol am grantiau neu gymorth ariannol, mae cyfweliadau ar gael yn Gymraeg ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais yn Gymraeg gan ddefnyddio cyfieithu ar y pryd os oes angen. Os cyflwynir cais am grant neu gymorth ariannol yn Gymraeg, byddwn yn hysbysu'r ymgeisydd am ganlyniad ein penderfyniad yn Gymraeg.

Wrth wneud penderfyniad mewn perthynas â dyfarnu grant neu gymorth ariannol, rydym yn ystyried yr effeithiau y byddai dyfarniad neu gymorth o'r fath yn eu cael ar y cyfleoedd i'r ymgeiswyr a phobl eraill ddefnyddio'r Gymraeg ac rydym yn sicrhau na fyddai ein penderfyniad ni'n lleihau cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith nac yn achosi effeithiau andwyol. Byddwn yn ystyried gweithredu penderfyniad (er enghraifft, drwy osod amodau) fel y byddai'n cael effeithiau cadarnhaol, neu effeithiau mwy cadarnhaol ar gyfleoedd i ymgeiswyr ddefnyddio'r Gymraeg.