Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Llysgennad Actif a Lles

Rhaglen Llysgenhadon Lles

Cynlluniwyd ein Rhaglen Llysgenhadon Lles i ddatblygu arweinwyr y dyfodol, gan hyrwyddo pwysigrwydd iechyd a lles. Fel llysgennad byddwch yn arwain, ysbrydoli a dylanwadu, ac yn:

  • cynrychioli llais dysgwyr dros les yn y coleg a’r gymuned
  • hyrwyddo gwerthoedd iechyd a lles cadarnhaol
  • bod yn fodel rôl ar gyfer hyrwyddo lles a ffyrdd iach o fyw
  • cynyddu cyfleoedd cyfranogiad cynhwysol a ffyrdd iach o fyw i bawb

Fel rhan o’r rhaglen byddwch yn:

  • cwblhau oriau gwirfoddol yn y coleg neu'r gymuned ehangach
  • cael mynediad at gyfleoedd a chefnogaeth newydd
  • cymryd rhan mewn syniadau prosiect a bod yn rhan o grŵp llywio lles dysgwyr
  • mynediad at hyfforddiant a chymwysterau ychwanegol

Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.