Cludiant Coleg Meirion-Dwyfor
Cyrraedd y Coleg: Canllawiau ar Gludiant i Ddysgwyr Coleg Meirion-Dwyfor
Pwy sy'n gymwys i gael pàs bws am ddim?
I fod yn gymwys rhaid i chi:
- fod yn ddysgwr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, a bod yn byw yng Ngwynedd neu Ynys Môn
- bod yn byw dros 3 milltir o'r campws rydych chi'n ei fynychu.
Campws Dolgellau:
Am wybodaeth bellach a chyngor cysylltwch â Kirsty Edwards-Blockley kirsty.edwards-blockley@gllm.ac.uk neu 01341 422 827 est 8448
- Amserlenni bws Tocyn Teithio 16+ Cyngor Gwynedd (Gwefan Cyngor Gwynedd)
- Trefniant Bysiau
Campws Glynllifon:
Am wybodaeth bellach a chyngor cysylltwch â Llinos Morris: llinos.morris@gllm.ac.uk neu 01286 830261 est 8535
- Amserlenni bws Tocyn Teithio 16+ Cyngor Gwynedd (Gwefan Cyngor Gwynedd)
- Cludiant Cyngor Conwy
- Amserlen Ynys Môn i Glynllifon
Campws Pwllheli:
Am wybodaeth bellach a chyngor cysylltwch â Helen Jones: hw.jones@gllm.ac.uk neu 01758 701 385 est 8618
- Amserlenni bws Tocyn Teithio 16+ Cyngor Gwynedd (Gwefan Cyngor Gwynedd)
- Amserlen
Sut mae dysgwyr yng Ngwynedd yn cael eu pàs?
- Lawrlwytho ap Tocyn Teithio 16+ Gwynedd
- Dilyn y cyfarwyddiadau i gofrestru gyda Chyngor Gwynedd
- Llenwi'r ffurflen gais fer
Bysus Gwynedd - Sut i archebu 'E-Ticket'
- Lawrlwytho ap Galw Gwynedd ar y ffon!
- Logio mewn i wefan Galw Gwynedd;
- Clicio ar Parcio, ffyrdd a theithio
- Clicio ar Tocynnau Teithio
- Clicio ar Tocyn Teithio 16+
- Clicio ar Archebu Tocyn Teithio 16+ ar-lein
- Creu cyfrif Newydd / Cofrestru NEU Logio mewn i gyfrif Galw Gwynedd
- Mynd ar ap Cyngor Gwynedd a lawrlwytho 'E-Ticket'
Manylion Galw Gwynedd - 01766 771000
Angen help?
Cysylltwch â:
- Helen Jones hw.jones@gllm.ac.uk neu 01758 701 385 est. 8618 ar gampws Pwllheli
- Kirsty Edwards-Blockley kirsty.edwards-blockley@gllm.ac.uk | 01341 422 827 est. 8448
Cludiant i Gampysau Dolgellau a Phwllheli
Pwllheli
- Amserlenni Tocynnau Teithio 16+ Cyngor Gwynedd (gwefan Cyngor Gwynedd)
- Amserlen
Dolgellau
- Amserlenni Tocynnau Teithio 16+ Cyngor Gwynedd (gwefan Cyngor Gwynedd)
- Trefniadau Bws
Dysgwyr Powys
Dylai dysgwyr sy'n byw ym Mhowys ac sy'n dymuno mynychu Coleg Meirion Dwyfor gysylltu â thîm cludiant addysg Cyngor Sir Powys i gael y manylion diweddaraf am gymhwystra a sut i wneud cais. Fel arall gall tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr eich campws gynnig cefnogaeth a chyngor.
Gwasanaethau Tacsi'r Awdurdodau Lleol:
Gwneir ceisiadau am gludiant dyddiol mewn tacsi i'r coleg trwy eich awdurdod lleol, yn unol â'u polisi trafnidiaeth. Nid yw'r coleg yn darparu tacsis dyddiol ond gall gefnogi dysgwyr sy'n dymuno gwneud cais trwy helpu gyda phroses ymgeisio'r awdurdod lleol. Yn y rhan fwyaf o achosion, os cawsoch gludiant dyddiol mewn tacsi tra oeddech yn yr ysgol, bydd eich awdurdod lleol wedi cysylltu â chi erbyn diwedd y flwyddyn academaidd gyfredol i gadarnhau eich trefniadau cludiant. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r Gwasanaethau i Ddysgwyr neu anfonwch e-bost i cludiant@gllm.ac.uk.
Beicio:
Ar bob campws ceir man penodol i barcio beiciau - peidiwch ag anghofio cloi!
Car:
Cewch barcio am ddim ar bob un o'r campysau.
Trên:
Mewn rhai achosion, gall yr awdurdod lleol ganiatáu i chi deithio ar drên. Bydd yr awdurdod lleol yn cadarnhau hyn gyda chi ar ôl i chi wneud cais am eich pàs teithio. Gall dysgwyr sy'n teithio'n rheolaidd ar y trên arbed arian gyda cherdyn rheilffordd 16‑25 neu gerdyn rheilffordd arall – ewch i https://www.railcard.co.uk/
Bws Arriva:
Gall pob myfyriwr brynu tocyn bws Arriva am bris gostyngol. Mae modd prynu'r rhain ar y bws drwy ddangos tocyn bws dilys neu gerdyn ID myfyriwr, neu gellir eu prynu bob tymor neu bob blwyddyn oddi ar wefan Arriva: www.arrivabus.co.uk/students
Mae rhagor o ostyngiadau ar gael ar y ddolen ganlynol: fyngherdynteithio.llyw.cymru/cy/. Mae'n cynnig traean yn rhagor oddi ar gost teithio ar fws cyhoeddus i fyfyrwyr o dan 21 oed.
Angen Help?
Galwch heibio i'r Gwasanaethau i Ddysgwyr ar eich campws neu anfonwch neges e-bost i cludiant@gllm.ac.uk. Rydym ni yma i helpu.