Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Pwllheli, Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd (4 diwrnod yr wythnos, oriau sy'n gyfeillgar â oriau ysgol)

Gwnewch gais
×

Gweinyddu Busnes Lefel 3

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Pwllheli

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi ddechrau neu ddatblygu gyrfa'n gweithio mewn swyddfa? Ydych chi newydd adael yr ysgol neu'n awyddus i feithrin sgiliau er mwyn dychwelyd i fyd gwaith neu newid eich gyrfa? A fyddech chi'n elwa ar ddysgu amrywiaeth o sgiliau defnyddiol ar gyfer gweithio mewn swyddfa?

Os oes gennych eisoes brofiad o weithio mewn swyddfa, neu os ydych yn symud ymlaen o'r cwrs Gweinyddu Busnes Lefel 2 (neu gwrs cyfwerth), yna bydd y cwrs hwn yn gwella'ch gwybodaeth a'ch sgiliau.

Yn ystod y cwrs, byddwch yn astudio amrywiaeth eang o bynciau, gan feithrin sgiliau cynhwysfawr a chael profiad ym mhob agwedd ar weinyddu ar lefel uwch. Byddwch yn trafod yr un meysydd â'r cwrs Lefel 2, ond ar lefel uwch. Yn ogystal ag ennill cymhwyster lefel 3 cydnabyddedig, cewch wella'ch sgiliau a'ch gobaith o gael gwaith.

Ceir profiad ymarferol ar y cwrs, yn cynnwys profiad gwaith. Mae'r pynciau dan sylw'n cynnwys sgiliau gweinyddu busnes, sgiliau cyfrifiadura hanfodol, prosesu testun, profiad o fyd gwaith a theipio.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af)
  • Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 2 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn y dosbarth
  • Cefnogaeth tiwtor
  • Sesiynau yn y gweithdy
  • Lleoliad Gwaith
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Gwaith portffolio
  • Perfformio ac arsylwi

Dilyniant

Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni addysg uwch yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • HNC/HND Astudiaethau Busnes
  • Gradd Sylfaen (FdA) Rheoli a Busnes
  • Gradd Sylfaen (FdA) Cyfrifeg a Chyllid
  • BA (Anrh) Rheoli a Busnes
  • Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Gweinyddu Busnes

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Pwllheli

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth