Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaethau - Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol Lefel 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes Lefel 3: 15 - 18 mis

    Marchnata Digidol Lefel 3: 15 - 18 mis

Cofrestru
×

Prentisiaethau - Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol Lefel 3

Prentisiaethau

I gael gwybodaeth bellach neu i wneud cais am brentisiaeth, cliciwch y botwm isod a chwblhau'r ffurflen.

Ffurflen ymholi am brentisiaeth

Disgrifiad o'r Cwrs

Nod y fframwaith prentisiaeth hwn yw darparu i gyflogwyr yn y sector cyhoeddus, preifat a ddim er elw yng Nghymru, weithlu sy'n meddu ar y sgiliau, y wybodaeth a'r cymhwysedd i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol er mwyn gwneud busnesau'n fwy effeithlon a chynhyrchiol.

Mae twf y Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol yn gyfle i ddenu staff newydd i’r diwydiant ac i ddefnyddio a gwella sgiliau staff presennol fel bod ganddynt y wybodaeth a'r profiad i ymgymryd â dyletswyddau'n ymwneud â'r cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol i gynyddu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd.

Cyfryngau Cymdeithasol i Fusnesau Lefel 3

Mae'r llwybr cyfryngau cymdeithasol yn canolbwyntio ar reoli a chynnal rhwydwaith cyfryngau cymdeithasol, asesu a lleihau risgiau i'ch presenoldeb ar-lein, deall sut i ddefnyddio geiriau allweddol ac optimeiddio peiriannau chwilio yn ogystal â sut i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i hysbysebu a hyrwyddo.

Mae Diploma Lefel 3 Cyfryngau Cymdeithasol i Fusnesau yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n ddefnyddio cyfryngau digidol i gyfathrebu â chwsmeriaid presennol a darpar gwsmeiriad, er enghraifft:

  • Cynorthwyydd Cyfryngau Cymdeithasol

  • Swyddog Ymgysylltu â'r Cyhoedd

  • Rheoli Cysylltiadau Cwsmer

  • Dylunydd Gwefannau

  • Rheolwr Marchnata drwy'r Cyfryngau Cymdeithasol

Mae’r cymhwyster yn cynnwys:

  • Egwyddorion Cyfryngau Cymdeithasol

  • Allweddeiriau ac Optimeiddio

  • Rheoli Rhwydweithio Cymdeithasol

  • Offer ymarferol ar gyfer creu cynnwys a chydweithio

Manteision i unigolion:

Mae'r cymhwyster cyfun hwn yn seiliedig ar wybodaeth a chymhwysedd ac yn adeiladu a datblygu sgiliau newydd i wella eu gyrfa.

Y manteision i gyflogwyr:

  • datblygu sgiliau staff presennol

  • Gwella cynhyrchiant


Marchnata Digidol Lefel 3

Mae unedau gorfodol y llwybr marchnata digidol yn canolbwyntio ar fusnes ac yn gyfle i feithrin dealltwriaeth o swyddogaethau busnes, ffynonellau gwerthu, teithiau cwsmeriaid a diffiniadau sector. Mae'r unedau dewisol wedi'u teilwra i'r ymgeiswyr a gallent gynnwys; datblygu brand, marchnata cynnwys, marchnata dros e-bost, creu copi testun ar gyfer y cyfryngau digidol, meddalwedd golygu delweddau ac egwyddorion y cyfryngau cymdeithasol o fewn busnes (a llawer mwy).

Mae Diploma Lefel 3 Marchnata Digidol yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n ddefnyddio marchnata digidol i gyfathrebu â chwsmeriaid presennol a darpar gwsmeiriad, er enghraifft:

  • Cynorthwyydd Marchnata Digidol

  • Swyddog Ymgysylltu â'r Cyhoedd

  • Rheoli Cysylltiadau Cwsmer

  • Dylunydd Gwefannau

  • Rheolwr Marchnata Digidol

Mae’r cymhwyster manwl hwn yn cynnwys:

  • Egwyddorion a moeseg marchnata

  • Metrigau a dadansoddeg

  • Hysbysebu a hyrwyddo ar draws pob llwyfan digidol

  • Datblygu brand

  • Offer ymarferol ar gyfer creu ap, gwefan a chynnwys

  • Offer cydweithredu


Manteision i unigolion

Mae'r cymhwyster cyfun hwn yn seiliedig ar wybodaeth a chymhwysedd ac yn adeiladu a datblygu sgiliau newydd i wella eu gyrfa Marchnata.

Y manteision i gyflogwyr:

  • datblygu sgiliau staff presennol

  • Gwella cynhyrchiant


Gofynion mynediad

  • Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad mewn TG yn ddymunol
  • Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwr neu fentor sydd â gwybodaeth berthnasol yn y maes pwnc a gall gynnig hyfforddiant ar y swydd.

Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

  • Ymgymerir â Lefel 3 yn y gweithle gyda phresenoldeb o bosibl i sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori (os oes angen).

Asesiad

  • Cwblhau portffolio tystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gweithle
  • Tasgau a phrofion theori

Dilyniant

Ar ôl cwblhau Lefel 3 gallwch fynd ymlaen i Brentisiaeth Uwch.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn gwrando yn y dosbarth