Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth - Gwasanaeth i Gwsmeriaid Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:
    • 14 mis
Cofrestru
×

Prentisiaeth - Gwasanaeth i Gwsmeriaid Lefel 2

Prentisiaethau

I gael gwybodaeth bellach neu i wneud cais am brentisiaeth, cliciwch y botwm isod a chwblhau'r ffurflen.

Ffurflen ymholi am brentisiaeth

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r Brentisiaeth Sylfaen Gwasanaeth i Gwsmeriaid yng Nghymru yn ymateb i angen cyflogwyr am well sgiliau ym maes gwasanaeth i gwsmeriaid mewn ystod eang o sefydliadau. Gellir trosglwyddo'r sgiliau o sector i sector a'u defnyddio mewn llawer o swyddi.

Mae'r cymhyster wedi eu hanelu'n bennaf at unigolion sy'n gweithio'n benodol ym maes gwasanaeth i gwsmeriaid er enghraifft:

  • Hyfforddeion
  • Gynorthwywyr
  • Gynrychiolwyr/Asiantiaid yn y maes hwnnw.

Bydd nifer o gyflogwyr hefyd yn dewis Gwasanaeth i Gwsmeriaid i ategu sgiliau technegol unigolion - er enghraifft:

  • Gerthwyr Tai
  • Nyrsys Meithrin neu'n
  • Gerthwyr Blodau.

Os ydych yn gweithio ym maes Gwasanaeth i Gwsmeriaid ac am ddarparu'r gwasanaeth gorau bosibl, hyd yn oed mewn sefyllfaoedd anodd a chymhleth, dyma'r cwrs i chi.

Gofynion mynediad

  • Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad ym maes Gwasanaeth i Gwsmeriaid yn ddymunol.
  • Dylai fod gan brentisiaid gyflogwr a fedr ateb gofynion meini prawf yr NVQ.
  • Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

  • Fel rheol, caiff y fframwaith ei gyflwyno yn y gweithle.
  • Mae'n bosib y bydd angen i ddysgwyr fynychu'r Coleg fel y cytunir â'r Aseswyr.

Asesiad

  • Asesiad o bortffolio
  • Arsylwadau ar waith ymarferol

Dilyniant

O Brentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Dwyieithog:

Cymraeg neu Saesneg

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn gwrando yn y dosbarth