Agored Cymru Tystysgrif Lefel 2 mewn Gwasanaethau Gweinyddol a Derbynfa Gofal Sylfaenol (Dysgu yn y Gweithle)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith, Dysgu o Bell
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
12 mis
Agored Cymru Tystysgrif Lefel 2 mewn Gwasanaethau Gweinyddol a Derbynfa Gofal Sylfaenol (Dysgu yn y Gweithle)Cyrsiau Rhan-amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Prif bwrpas y cymhwyster yw cadarnhau eich bod yn gymwys yn alwedigaethol yn eich rôl mewn lleoliad Gofal Sylfaenol. Mae'r cymhwyster wedi'i gynllunio i gyflwyno'r sgiliau a'r wybodaeth gychwynnol sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus mewn derbynfa rheng flaen neu rôl weinyddol. Mae'n addas ar gyfer y rhai sy'n newydd i weithio mewn derbynfa / rôl weinyddol mewn Gofal Sylfaenol y GIG neu'r rhai sy'n gweithio ym maes Gofal Sylfaenol ar hyn o bryd mewn rôl trin galwadau, swyddfa gefn neu weithio gyda chleifion. Mae'r cymhwyster hwn a'r unedau ynddo yn addas ar gyfer dysgwyr sy'n gweithio mewn lleoliad gofal iechyd.
Gofynion mynediad
Bydd angen i chi fod yn 16 oed neu'n hŷn, ac yn gyflogedig o fewn rôl weinyddol mewn Gofal Sylfaenol.
Cyflwyniad
Bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei lunio gyda chi a'ch rheolwr a bydd asesydd yn cysylltu â chi o bell yn y gweithle. Byddwch yn adeiladu portffolio o dystiolaeth i ddangos sut y gwnaethoch gyrraedd y Safonau Cenedlaethol yn eich gwaith o ddydd i ddydd, a'ch bod yn ymwybodol o ddeddfwriaeth berthnasol.
Asesiad
Byddwch yn darparu tystiolaeth i'ch asesydd o sefyllfaoedd gwaith rydych chi wedi delio â nhw. Gall hyn gynnwys:
- Astudiaethau achos
- Cwestiynau ac Atebion
- Trafodaethau
- E-byst neu lythyrau i gefnogi'ch tystiolaeth ysgrifenedig
- Tystiolaeth Tyst gan eich cydweithwyr neu reolwr llinell
Bydd diplomâu yn cael eu marcio gan asesydd gweithle a'u cymedroli gan y dilyswr mewnol.
Dilyniant
Gall y cymhwyster hwn baratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i gymhwyster Gofal Sylfaenol Clinigol Lefel 3 neu gymhwyster Gweinyddu Busnes Lefel 3 neu gymhwyster Gwasanaeth Cwsmer.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli
Dwyieithog:
Ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.