Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaethau - Arwain Timau a Rheoli Lefel 2 a 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    24 mis

Cofrestru
×

Prentisiaethau - Arwain Timau a Rheoli Lefel 2 a 3

Prentisiaethau

I gael gwybodaeth bellach neu i wneud cais am brentisiaeth, cliciwch y botwm isod a chwblhau'r ffurflen.

Ffurflen ymholi am brentisiaeth

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r prentisiaethau Arwain Tîm (Lefel 2) a Rheoli (Lefel 3) wedi'u cynllunio i ddarparu cymhwyster hyblyg a throsglwyddadwy sy'n diwallu anghenion cyflogwyr o bob maint ym mhob sector yn awr ac yn y dyfodol.

Mae'r brentisiaeth Sylfaenol Arwain Tîm Lefel 2 yn rhoi cipolwg ar egwyddorion a phrosesau arwain timau fel:

  • Arweinwr tîm
  • Arweinwr adrannol
  • Rheolwr llawr
  • Rheolwr desgiau cymorth
  • Goruchwyliwr dan hyfforddiant neu
  • Cydlynydd tîm

Datblygwyd y Brentisiaeth mewn Rheoli Lefel 3 i gynorthwyo unigolion sy'n gweithio fel rheolwyr mewn amrywiaeth o swyddi eraill fel:

  • Rheolwr llinell rheng flaen
  • Rheolwr adrannol
  • Rheolwr cynorthwyol
  • Rheolwr dan hyfforddiant neu
  • Uwch-oruchwyliwr

Bydd y tasgau a wneir yn amrywio'n ôl sector a gweithle a gall gynnwys:

  • Cynllunio, dyrannu a monitro gwaith y tîm
  • Briffio timau a rhoi adborth
  • Cefnogi aelodau o'r tîm
  • Rheoli gwrthdaro a datrys problemau
  • Caffael
  • Rheoli prosiectau
  • Cytuno ar gyllidebau a
  • Gwella gwasanaethau i gwsmeriaid.

Gofynion mynediad

  • Rhaid i bob prentis fod â chyflogwr a all fodloni meini prawf yr NVQ.
  • Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
  • Ni all ymgeiswyr am y brentisiaeth Lefel 2 mewn Arwain Timau fod â gradd.

Cyflwyniad

Gallai fod yn ofynnol dod i sesiynau yn y college i gwblhau profion a thasgau theori.

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gweithle
  • Tasgau a phrofion theori

Dilyniant

Gallwch fynd ymlaen o Lefel 2 i Lefel 3, Lefel 4 ac yna i Level 5 (yn ddibynnol ar y swydd).

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 2+3

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Dwyieithog:

n/a

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn gwrando yn y dosbarth