Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Teithio, Thwristiaeth a Busnes Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Teithio, Thwristiaeth a Busnes Lefel 2

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi yrfa ym maes Teithio a Thwristiaeth neu waith gyda busnes lleol? Ydych chi eisiau dilyn cwrs Addysg Bellach galwedigaethol?

Mae'r cwrs hwn yn rhoi i chi'r sgiliau amrywiol sydd eu hangen ar gyfer byd gwaith yn ogystal â sgiliau mwy arbenigol sydd wedi'u hanelu at y diwydiant twristiaeth.

Mae’r cwrs yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cwblhau cwrs Lefel 1 perthnasol, neu sydd newydd sefyll eu harholiadau TGAU. Byddwch yn ennill cymwysterau lluosog a fydd yn fan cychwyn i'ch gyrfa. Cewch hefyd elwa ar deithiau addysgol i lefydd ym Mhrydain.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn, byddwch angen o leiaf un o'r isod:

  • 3 TGAU gradd D neu uwch, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af), ac 1 TGAU gradd E neu gymhwyster Mynediad 3 / Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Rhifedd a Chyfathrebu
  • Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 1 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd
  • Sesiynau trafod a dosbarthiadau tiwtorial
  • Gwaith grŵp
  • Ymweliadau allanol
  • Siaradwyr gwadd
  • Astudiaethau achos
  • Profiad gwaith yn y coleg
  • Amgylchedd Dysgu Rhithwir
  • Profiad gwaith yn Ewrop

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

  • Gwaith portffolio
  • Gwaith cwrs ac aseiniadau
  • Prosiectau
  • Gwaith grŵp
  • Cyflwyniadau

Dilyniant

Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn rhoi dewisiadau amrywiol i chi o ran addysg a chyflogaeth. Byddwch wedi meithrin sgiliau uwch a dysgu am safonau'r diwydiant, gan ei gwneud yn bosibl i chi weithio tuag at yrfaoedd amrywiol, naill ai'n syth neu ar ôl cael hyfforddiant pellach. Mae hyn yn cynnwys gweithio i sefydliadau twristiaeth lleol a rhanbarthol, i fusnesau lleol, i'r farchnad atyniadau cenedlaethol neu i'r diwydiant cynadleddau a digwyddiadau. Yn ogystal, gallech weithio dramor gyda chwmnïau awyrennau neu reolwyr teithiau a chyrchfannau.

O ran addysg, gallech fynd ymlaen i astudio tuag at gymhwyster lefel 3. Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig nifer o raglenni addas, gan gynnwys Teithio a Thwristiaeth Lefel 3 a Busnes Lefel 3.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli
  • Teithio a Thwristiaeth

Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :

  • Bangor

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth

Teithio a Thwristiaeth

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Teithio a Thwristiaeth