Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth - Rheoli ym maes Adnoddau Dynol Lefel 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Ar-lein
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Rheoli ym maes Adnoddau Dynol Lefel 3

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Bydd y Prentis yn gweithio tuag at gael Tystysgrif Sylfaen CIPD (Chartered Institute of Personnel Development) mewn Ymwneud â Phobl. Mae'n addas i'r rhai sydd â'u bryd ar gael swydd broffesiynol ym maes Adnoddau Dynol. Mae'r cwrs, sydd wedi'i anelu'n benodol at weinyddwyr a chynghorwyr AD, yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau unigolion mewn pynciau cyfoes sy'n ymwneud ag adnoddau dynol.

Cymhwyster newydd gan CIPD yw'r Dystysgrif Sylfaen mewn Ymwneud â Phobl, a chewch astudio ar ei gyfer ar-lein trwy Grŵp Llandrillo Menai.

Rhoddir pwyslais ar rôl AD fel partner busnes i reolwyr llinell, ac edrychir ar sut y mae AD yn chwarae rhan bwysig yn y broses o lunio gweledigaeth sefydliad.⁠ Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn y Dystysgrif Sylfaen mewn Ymwneud â Phobl. Bydd astudio at gymhwyster CIPD ar lefel sylfaen yn rhoi i chi'r wybodaeth sydd ei hangen i ddod yn Aelod Cyswllt newydd o CIPD ar lefel broffesiynol. Os bydd gennych y profiad perthnasol, gallwch wneud cais ar gyfer aelodaeth ar sail asesiad o'ch gweithgareddau a'ch ymddygiadau yn y gweithle. Os llwyddwch yn yr asesiad, cewch ddyrchafiad i fod yn Aelod Cyswllt.

Yn ogystal â'r cymhwyster ffurfiol, byddwch wedi cael profiad amhrisiadwy o weithio ym maes AD ac wedi dysgu llawer gan eraill a fu'n dilyn y cwrs gyda chi.

Yn ystod y flwyddyn, byddwch yn astudio'r pynciau a ganlyn. Er bod y gwersi'n cael eu cynnal ar-lein, mae pob pwnc yn cynnwys llawer o drafod yn y dosbarth a rhyngweithio ymysg myfyrwyr.

Caiff yr holl fodiwlau eu dysgu gan staff profiadol sydd â phrofiad helaeth o weithio yn eu maes.

  • 3C001 Cyd-destun Busnes, Diwylliant a Newid
  • 3C002 Egwyddorion Dadansoddeg
  • 3C003 Ymddygiadau Craidd i Bobl Broffesiynol
  • 3C004 Hanfodion Ymwneud â Phobl

Mae'r brentisiaeth hefyd yn cynnwys cymwysterau Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol, ond mae modd cael eich eithrio mewn rhai achosion.

Gofynion mynediad

Rhaid i chi fod yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos ym maes AD a bod â chyflogwr a wnaiff eich cefnogi. Mae'r Brentisiaeth yn addas i amrywiaeth o swyddi ym maes AD, gan gynnwys Gweinyddwr AD, Cynghorydd AD, Swyddog AD, Rheolwr AD Cynorthwyol, Cynghorydd AD Cynorthwyol. Bydd gofyn cael cadarnhad bod gan y myfyrwyr y sgiliau sylfaenol angenrheidiol a'u bod yn gallu bodloni gofynion y cwrs o ran asesu.

Yn ogystal, bydd gofyn i chi fod yn aelod o CIPD trwy gydol y cwrs. Mae'n bosibl y bydd gofyn i chi fod yn aelod am ail flwyddyn. Ar hyn o bryd, mae'n costio £135 i ymaelodi am flwyddyn (ond gall CIPD newid y gost). Mae Grŵp Llandrillo Menai'n deall ei bod yn bosib nad yw rhai myfyrwyr wedi astudio ers tro, ac felly cynigir cefnogaeth bersonol i fyfyrwyr newydd.

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Defnyddir amrediad eang o ddulliau dysgu i gyflwyno cwrs y Dystysgrif Sylfaen mewn Ymwneud â Phobl ac fe gyflwynir y cyfan ar-lein.

Cyflwynir y Sgiliau Hanfodol ar-lein hefyd. Bydd rhaid dod i'r coleg i wneud y profion.

Asesiad

Ym mhob pwnc, cewch eich asesu trwy gyfrwng aseiniad ffurfiannol. Nid oes arholiadau ffurfiol.

Asesir y Sgiliau Hanfodol trwy gyfrwng tasgau a phrofion.

Dilyniant

Diploma Cysylltiol Lefel 5 CIPD mewn Rheoli Pobl, Prentisiaeth Uwch.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth