Prentisiaeth Uwch - Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad Lefel 4
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Cwrs seiliedig ar waith yw hwn sydd, fel rheol, yn para 18 mis.
Bydd angen i chi fynychu dau ddiwrnod yr ysgol yn ystod y tymor.
Prentisiaeth Uwch - Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad Lefel 4Prentisiaethau
I gael gwybodaeth bellach neu i wneud cais am brentisiaeth, cliciwch y botwm isod a chwblhau'r ffurflen.
Ffurflen ymholi am brentisiaethDisgrifiad o'r Cwrs
Mae'r Brentisiaeth Lefel 4 Cyngor ac Arweiniad yng Nghymru yn ymateb i’r nifer gynyddol o sefydliadau'n cynnig gwybodaeth, cyngor a/neu arweiniad mewn meysydd arbenigol sy'n amrywio. O gyngor ar yrfaoedd a sgiliau cyflogadwyedd i gyngor ar wasanaethau cymorth a rheoli arian.
Mae'r cymhwyster hwn i'r dim i unigolion sydd, yn eu swyddi, sydd â chyfrifoldeb arwain neu reoli ac yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth i gleientiaid, ac yn cynorthwyo unigolion i wynebu rhwystrau a gwneud dewisiadau deallus, er enghraifft:
Gwasanaethau cymorth
Cyngor gyrfaol
Eiriolaeth
Canolfannau gwaith
Y sector gwirfoddol
Gwasanaethau cyflogaeth
Tai
Mentora
Cyngor Pawb ar Bopeth
Gwasanaethau Dyledion
Gall llawer o bobl beidio â bod yn ymwybodol eu bod yn darparu cyngor ac arweiniad yn eu gwaith, neu gall hynny fod yn ddim ond rhan fechan o'u gwaith - er enghraifft
AD
Yr heddlu
Addysg
Hyfforddwyr ffitrwydd a
Chynghorwyr ym maes hyfforddi.
Mae dau lwybr cymhwyster y gellir eu dewis yn dibynnu ar eich rôl.
- Llwybr 1: Diploma Lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad
- Llwybr 2: Diploma Lefel 4 mewn Gwasanaethau
Gofynion mynediad
- Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol, er y gall cymhwyster tebyg ar Lefel 3 bod yn fuddiol
- Rhaid i bob prentis fod â chyflogwr a all fodloni meini prawf yr NVQ
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Darperir y rhan fwyaf o'r hyfforddiant yn y gweithle. Fodd bynnag, bydd gofyn i brentisiaid fynychu rhai sesiynau yn y coleg er mwyn cwblhau tasgau a phrofion theori.
Asesiad
- Cwblhau portffolio tystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion theori
Dilyniant
Gallech ddewis un o'r nifer o wahanol gyrsiau sydd ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiaethau
Lefel:
4
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli
Dwyieithog:
Ydy