Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth Uwch - Rheoli ym maes Adnoddau Dynol Lefel 5

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Ar-lein
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth Uwch - Rheoli ym maes Adnoddau Dynol Lefel 5

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Bydd y Prentis yn gweithio tuag at Ddiploma Lefel 5 CIPD mewn Rheoli Pobl.

Cymhwyster newydd gan CIPD (Chartered Institute of Personnel Development) yw'r Diploma Cysylltiol mewn Rheoli Pobl, a chewch astudio ar ei gyfer ar-lein yng Ngrŵp Llandrillo Menai.

Mae'n addas ar gyfer gweithwyr sydd eisoes yn rheolwyr ym maes Adnoddau Dynol, neu sy'n dymuno bod yn rheolwyr yn y maes.

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau AD unigol mewn pynciau sy'n gysylltiedig ag adnoddau dynol cyfoes. Bydd y pwyslais ar y berthynas rhwng rheoli AD a strategaeth y sefydliad a'r modd y'i cyfunir â rheolaeth linell.

Bydd astudio at gymhwyster CIPD ar lefel ganolradd yn rhoi i chi'r wybodaeth sydd ei hangen i fod yn aelod cyswllt proffesiynol newydd o'r CIPD. Os bydd gennych y profiad perthnasol, gallwch wneud cais i gael eich asesu ar gyfer aelodaeth (asesiad o'ch gweithgareddau a'ch ymddygiadau yn y gweithle).

Os llwyddwch yn yr asesiad, cewch ddyrchafiad i fod yn Aelod Cyswllt newydd. Yn ogystal â'r cymwysterau ffurfiol, byddwch wedi meithrin y cymwyseddau a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i ddod yn rheolwr ym maes AD heddiw.

Byddwch hefyd wedi dysgu llawer gan eraill a fu'n dilyn y cwrs gyda chi.

Yn ystod y flwyddyn, byddwch yn astudio'r pynciau a ganlyn. Mae pob pwnc yn cynnwys llawer o drafod yn y dosbarth a rhyngweithio ymysg myfyrwyr. Caiff yr holl fodiwlau eu dysgu gan staff profiadol sydd â phrofiad helaeth o weithio yn eu maes.

  • 5C001 Perfformiad a Diwylliant Sefydliadol ar Waith
  • 5C002 Ymarfer ar Sail Tystiolaeth
  • 5C003 Ymddygiad Proffesiynol a Gwerthfawrogi Pobl
  • 5HR01 Rheoli Perthynas Cyflogi
  • 5HR02 Rheoli Talent a Chynllunio'r Gweithlu
  • 5HR03 Gwobrwyo Staff am Berfformio a Chyfrannu
  • SO507 Lles yn y Gwaith

Mae'r brentisiaeth hefyd yn cynnwys cymwysterau Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol, ond mae modd cael eich eithrio mewn rhai achosion.

Gofynion mynediad

Rhaid i chi fod yn gyflogedig ym maes AD a bod â chyflogwr a wnaiff eich cefnogi. Mae'r Brentisiaeth yn addas i amrywiaeth eang os swyddi ym maes AD, gan gynnwys Rheolwr AD, Swyddog AD, Rheolwr AD Cynorthwyol a Chynghorydd AD Cynorthwyol.

Mae'n well eich bod eisoes wedi sicrhau cymhwyster lefel Tystysgrif gan CIPD, ond fe fydd pob cais yn cael ei ystyried gan arweinydd y cwrs ar sail teilyngdod. Bydd gofyn i bawb sy'n cyflwyno cais ddod i gyfweliad ffurfiol.

Yn ogystal, bydd gofyn i chi fod yn aelod o CIPD trwy gydol y cwrs. Mae'n bosibl y bydd gofyn i chi fod yn aelod am ail flwyddyn. Ar hyn o bryd, mae'n costio £135 i ymaelodi am flwyddyn (ond gall CIPD newid y gost).

Bydd gofyn cael cadarnhad bod gan y myfyrwyr y sgiliau sylfaenol angenrheidiol a'u bod yn gallu bodloni gofynion y cwrs o ran asesu. Mae Grŵp Llandrillo Menai'n deall ei bod yn bosib nad yw rhai myfyrwyr wedi astudio ers tro, ac felly cynigir cefnogaeth bersonol i fyfyrwyr newydd.

Cyflwyniad

Defnyddir amrediad eang o ddulliau dysgu i gyflwyno cwrs y Diploma Cysylltiol mewn Rheoli Pobl ac mae'r cwbl yn digwydd ar-lein.

Darperir Sgiliau Hanfodol ar-lein. Mae angen presenoldeb coleg ar gyfer y prawf.

Asesiad

Asesir holl fodiwlau'r Diploma trwy gyfrwng aseiniadau.

Asesir y Sgiliau Hanfodol trwy gyfrwng tasgau a phrofion.

Dilyniant

Ymhlith y cyrsiau proffesiynol pellach y gallwch eu hastudio mae Diploma Uwch CIPD mewn Rheoli Pobl a gynigir mewn canolfannau CIPD eraill.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 5

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth