Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Pwllheli, Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Gweinyddu Busnes Lefel 2

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Pwllheli

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi am ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa mewn amgylchedd swyddfa? A allech chi elwa ar ystod o sgiliau defnyddiol, sy'n addas ar gyfer amrywiaeth o gyd-destunau swyddfa a gweinyddol?

Mae'r cwrs yn addas os ydych yn gadael yr ysgol neu'n newid llwybr eich gyrfa. Os oes gennych chi brofiad swyddfa eisoes, yna bydd y cwrs hwn yn gwella eich gwybodaeth a'ch sgiliau ac yn rhoi cymhwyster defnyddiol i chi.

Yn ystod y cwrs byddwch yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, gan roi sgiliau a gwybodaeth gynhwysfawr i chi ym mhob agwedd ar waith gweinyddol.

Byddwch yn gallu datblygu eich sgiliau gwaith a chyflogadwyedd, yn ogystal ag ennill cymhwyster Lefel 2 cydnabyddedig.

Darperir profiad ymarferol ar y cwrs ar gyfer defnyddio offer swyddfa.

Mae'r pynciau'n cynnwys sgiliau gweinyddu busnes, sgiliau TG hanfodol, prosesu testun, profi bywyd gwaith a chreu/cynhyrchu dogfennau busnes

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 3 TGAU gradd D neu uwch ac 1 TGAU gradd E, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af), neu gymhwyster Mynediad 3 / Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Rhifedd a Chyfathrebu
  • Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 1 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn y dosbarth
  • Cefnogaeth tiwtor
  • Ymweliadau addysgol
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Gwaith portffolio
  • Perfformio ac arsylwi

Dilyniant

Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • Gweinyddu Busnes, Lefel 3
  • Gweinyddu Meddygol
  • Astudiaethau Busnes Lefel 3
  • Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Pwllheli

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth