Prentisiaeth - Gweinyddu Busnes Lefel 2
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
15 mis
Prentisiaeth - Gweinyddu Busnes Lefel 2Prentisiaethau
I gael gwybodaeth bellach neu i wneud cais am brentisiaeth, cliciwch y botwm isod a chwblhau'r ffurflen.
Ffurflen ymholi am brentisiaethDisgrifiad o'r Cwrs
Mae gweinyddwyr angen ystod eang o sgiliau i weithio yn effeithiol ac i helpu cynyddu cynhyrchiant busnes.
Mae'r cwrs yn addas os ydych yn dechrau gwaith gweinyddu, eisio datblygu eich sgiliau neu'n newid llwybr eich gyrfa. Os oes gennych chi brofiad swyddfa eisoes, yna bydd y cwrs hwn yn gwella eich gwybodaeth a'ch sgiliau ac yn rhoi cymhwyster defnyddiol i chi.
Yn ystod y cwrs byddwch yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, gan roi sgiliau a gwybodaeth gynhwysfawr i chi ym mhob agwedd ar waith gweinyddol.
Mae'r prentisiaeth hon yn defnyddio cymwysterau hyblyg, cyfredol dan arweiniad cyflogwyr sydd yn cyfarfod a'u hanghenion cyfnewidiol. Mae'n cynnwys sgiliau meddalach megis cyfathrebu, gweithio mewn tîm, sgiliau rhyngbersonol a'r gallu i fyfyrio ar eu dysgu.
Byddwch yn gallu datblygu eich sgiliau gwaith a chyflogadwyedd, yn ogystal ag ennill cymhwyster Lefel 2 cydnabyddedig.
Darperir profiad ymarferol ar y cwrs ar gyfer defnyddio offer swyddfa.
Mae'r pynciau'n cynnwys sgiliau gweinyddu busnes, sgiliau TG hanfodol, prosesu testun, profi bywyd gwaith a chreu/cynhyrchu dogfennau busnes
Bydd y rhai sy'n dilyn prentisiaeth sylfaen Lefel 2 yn gweithio mewn swyddifel gweinyddwyr, gweithwyr iau mewn
swyddfa, croesawyr, croesawyr meddygol, ysgrifenyddion cyfreithiol iau neu ysgrifenyddion meddygol iau.
Gofynion mynediad
- Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad mewn Gweinyddu Busnes yn ddymunol.
- Dylai fod gan yr holl brentisiaid gyflogwr a fedr ateb gofynion meini prawf yr NVQ.
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
- Darperir mwyafrif yr hyfforddiant yn y gweithle
- Mae'n bosibl y bydd angen mynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau theori a phrofion
Asesiad
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion theori
Dilyniant
O Brentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3 ac yna i Brentisiaeth Uwch Lefel 4.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiaethau
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli
Dwyieithog:
Darpariaeth ddwyieithog ar gael