Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth Uwch - Rheoli Lefel 4 a 5

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    18 mis

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth Uwch - Rheoli Lefel 4 a 5

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae sgiliau Rheoli ac Arwain yn cael effaith sylweddol ar ddatblygiad, cynhyrchiad a pherfformiad sefydliadau o bob maint ym mhob sector.

Mae'r rhaglen brentisiaethau wedi cael ei chynllunio i gyflwyno cymwysterau, unedau a sgiliau hyblyg a chludadwy a rhai sy'n cwrdd ag anghenion presennol ac anghenion y dyfodol cyflogwyr o bob math ac ym mhob sector.

Bydd yn denu talent newydd i faes rheoli ac yn cyflwyno sgiliau i'r gweithlu fydd yn cymryd lle'r rhai fydd yn gadael neu'n ymddeol. Bydd y rhai sydd yn mynd i'r afael â phrentisiaethau uwch yn bobl sy'n gweithio fel rheolwyr, rheolwyr uwch, cyfarwyddwyr a phenaethiaid adrannau.

Gofynion mynediad

  • Cyflogaeth mewn swydd reoli
  • Safon da o rifedd a llythrennedd

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Gallai fod yn ofynnol dod i sesiynau yn y college i gwblhau profion a thasgau theori.

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gweithle
  • Tasgau a phrofion theori

Dilyniant

Symud ymlaen i radd amser llawn

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 4+5

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Dwyieithog:

Ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth